Twilight

ffilm ddrama a elwir hefyd yn ffilm ffantasi gan Catherine Hardwicke a gyhoeddwyd yn 2008

Ffilm ffantasi-rhamantus Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Catherine Hardwicke yw Twilight (2008), ac mae'n addasiad o'r nofel o'r un enw gan Stephenie Meyer. Bella Swan ac Edward Cullen (a chwaraewyd gan Kristen Stewart a Robert Pattinson, yn ôl eu trefn) yw'r ymgyrchwyr. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar laslances a fampir sy'n cwympo mewn cariad garu'i gilydd.

Twilight
Cyfarwyddwr Catherine Hardwicke
Cynhyrchydd Mark Morgan
Greg Mooradian
Wyck Godfrey
Ysgrifennwr Nofel:
Stephenie Meyer
Screenplay:
Melissa Rosenberg
Serennu Kristen Stewart
Robert Pattinson
Cerddoriaeth Carter Burwell
Sinematograffeg Elliot Davis
Golygydd Nancy Richardson
Dylunio
Dosbarthydd Summit Entertainment (UDA)
Entertainment One Ltd. (DU)[1]
Dyddiad rhyddhau Tachwedd 21, 2008 (Unol Daleithiau, Canada)
Rhagfyr 11, 2008 (Awstralia)
Rhagfyr 19, 2008 (Deyrnas Unedig)
Rhagfyr 26, 2008 (Sealand Newydd)
Gwlad UD
Iaith Saesneg
Cyllideb UD$37 miliwn
Olynydd New Moon

Roedd y ffilm yn datblygu am dair blynedd gan Paramount Pictures cyn cael ei gynhyrchu gan Summit Entertainment. Addaswyd y nofel gan Melissa Rosenberg yn 2007, a ffilmiodd Twilight yn Washington ac Oregon yn 2008. Rhyddhawyd Twilight yn sinemâu ar 21 Tachwedd 2008,[2] ac enillodd $35.7 miliwn ar ei ddydd cyntaf.[3] Rhyddhawyd y trac sain ar 4 Tachwedd 2008.[4]

Plot golygu

Mae Isabella (Bella) Swan yn symud i Forks, tref fechan sy'n agos i arfordir Washington, i fyw gyda'i thad, Charlie, ar ôl i'w mam, Renée, ail-briodi chwaraewr pêl fas. Mae llawer o fyfyrwyr yn dod yn ffrindiau gyda Bella yn ei hysgol gyfun newydd, ond mae diddordeb gyda hi â'r siblingiaid Cullen dirgel. Mae Bella yn eistedd wrth Edward Cullen mewn dosbarth bioleg ar ei dyddiad cyntaf; nid yw Edward yn ei hoffi, sy'n drysu Bella. Ar ôl ychydig o ddyddiau, bron â tharwyd Bella gan fan yn y maes parcio. Mae Edward yn symud yn gyflym iawn o bellter i stopio'r fan â'i law. Mae Edward yn gwrthod i esbonio'i weithred ac yn rhybuddio Bella nad i ddod yn ffrindiau gyda fe.

Ar ôl llawer o ymchwil, mae Bella yn darganfod mai fampir yw Edward, ond mae'n bwyta gwaed anifeiliaid. Mae'r ddau yn cwympo mewn cariad gyda'i gilydd ac mae Edward yn cyflwyno Bella i'w deulu; Carlisle, Esme, Alice, Jasper, Emmett, a Rosali. Wedyn, mae James, Victoria, a Laurent yn cyrraedd - tri fampirs nomadig. Mae diddordeb gyda James, sy'n fampir olrheiniwr, mewn amddiffyn Edward dros Bella, sy'n ddynol, ac mae eisiau arno ei herlid fel sbort. Mae Edward a'i deulu yn mentro eu bywydau er mwyn diogelu Bella, ond mae James yn ei holrhain i Phoenix, ble mae hi'n cuddio, ac yn ei denu mewn magl o achos bod James yn dweud ei fod yn cadw mam Bella fel gwystl. Mae James yn ymladd gyda Bella ac yn brathu'i harddwrn ond mae Edward, yn ogystal â'i deulu, yn cyrraedd cyn gallai James yn ei lladd. Dinistrir James, ac mae Edward yn sugno gwenwyn James o arddwrn Bella sy'n ei hatal o ddod yn fampir. Deuir â Bella i'r ysbyty. Ar ôl i bawb ddychwelyd i Forks, mae Bella ac Edward yn mynychu eu dawns ysgol. Yno, mae Bela'n dweud wrth Edward ei bod hi am fod yn fampir ond mae Edward yn gwrthod. Mae'r ffilm yn gorffen gyda Victoria yn gwylio'r cwpl yn dawnsio, yn cynllwynio i ddial y llofruddiaeth ei charwr, James.

Cymeriadau golygu

Mae'r Cullens a'r Swans golygu

  • Kristen Stewart fel Bella Swan
  • Robert Pattinson fel Edward Cullen
  • Peter Facinelli fel Carlisle Cullen
  • Elizabeth Reaser fel Esme Cullen
  • Ashley Greene fel Alice Cullen
  • Jackson Rathbone fel Jasper Hale
  • Nikki Reed fel Rosalie Hale
  • Kellan Lutz fel Emmett Cullen
  • Billy Burke fel Charlie Swan

Fampirod Nomandaidd golygu

  • Cam Gigandet fel James
  • Rachelle Lefèvre fel Victoria
  • Edi Gathegi fel Laurent

Bodau dynol golygu

  • Sarah Clarke fel Renée Dwyer
  • Matt Bushell fel Phil Dwyer
  • Taylor Lautner fel Jacob Black
  • Gil Birmingham fel Billy Black
  • Solomon Trimble fel Sam Uley
  • Christian Serratos fel Angela Weber
  • Michael Welch fel Mike Newton
  • Anna Kendrick fel Jessica Stanley
  • Gregory Tyree Boyce fel Tyler Crowley
  • Justin Chon fel Eric Yorkie
  • Ned Bellamy fel Waylon Forge
  • José Zúñiga fel Mr. Molina
  • Stephenie Meyer

Cyfeiriadau golygu

  1. "Entertainment One Ltd. announces results for first full year of operations". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2009-06-30.
  2. 'Twilight' moves into 'Potter's' place
  3. "'Twilight' grosses $35.7 mil on Friday". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2009-06-30.
  4. 'Twilight' Exclusive: Paramore To Contribute Two New Songs To Film's Soundtrack

Dolenni allanol golygu