Mae'r Dywysoges Reiol (Saesneg Princess Royal) yn anrhydedd sy'n cael ei roi, fel arfer (ond nid yn awtomatig) gan deyrn Prydain i'w merch hynaf. Er ei fod yn gwbl anrhydeddus, dyma'r anrhydedd uchaf y gellir ei rhoi i aelod benywaidd o'r teulu brenhinol. Bu saith Tywysoges Reiol. Daeth y Dywysoges Anne yn Dywysoges Reiol ym 1987.

Tywysoges Reiol
Enghraifft o'r canlynolteitl bonheddig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1642 Edit this on Wikidata
Deiliad presennolMary Henrietta, Anne o Hannover, Charlotte, Victoria, Louise, y Dywysoges Reiol, Mary, Anne, y Dywysoges Reiol Edit this on Wikidata
Deiliaid a'u cyfnodau 
  • Mary Henrietta (1642 – 24 Rhagfyr 1660),
  •  
  • Anne o Hannover (1727 – 12 Ionawr 1759),
  •  
  • Charlotte, y Dywysoges Frenhinol (1789 – 5 Hydref 1828),
  •  
  • Victoria, y Dywysoges Frenhinol (1841 – 5 Awst 1901),
  •  
  • Louise, y Dywysoges Reiol (1905 – 4 Ionawr 1931),
  •  
  • Mary, y Dywysoges Frenhinol (1932 – 28 Mawrth 1965),
  •  
  • Anne, y Dywysoges Reiol (1987)
  • Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Daeth arddull y Dywysoges Reiol i fodolaeth pan oedd y Frenhines Henrietta Maria (1609–1669), merch Harri IV, Brenin Ffrainc , a gwraig y Brenin Siarl I (1600–1649), eisiau dynwared y ffordd yr oedd merch hynaf Brenin Ffrainc yn " Madame Royale " . Felly daeth y Dywysoges Mary (ganwyd 1631), merch Henrietta Maria a Charles, y Dywysoges Reiol gyntaf ym 1642.[1]

    Er eu tebygrwydd dydy'r teitl Rheiol ddim yn "Gymreigiad" o'r gair Saesneg royal, mae'n perthyn i'r hen, hen air Cymraeg am arweinydd "Rhi", sydd, hwyrach, yn perthyn i'r gair Lladin Rex.[2]

    Dim ond un ferch gall cael yr anrhydedd o fod yn Dywysoges Reiol ar y tro, os bydd y deiliad presennol (2023), y Dywysoges Anne yn fyw ar ôl farw ei frawd mawr, Y Brenin Siarl III ni fydd hawl gan edling y brenin, y Tywysog Wiliam, rhoi'r anrhydedd i'w ferch hynaf, y Dywysoges Charlotte, cyn marw ei fodryb.[3]

    Cyfeiriadau golygu

    1. Nast, Condé (2023-10-05). "As Princess Charlotte is tipped to be the next holder of the Princess Royal title, Tatler looks back at the seven women who held it before". Tatler (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-08.
    2. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2023-11-08.
    3. "Why Princess Charlotte Won't Automatically Inherit the Title of Princess Royal". Town & Country (yn Saesneg). 2018-08-12. Cyrchwyd 2023-11-08.