Wicipedia:Parthau

Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r gwahanol mathau o dudalennau a geir yn Wicipedia. Mae'r gair parth yn cael ei ddefnyddio i nodi math y dudalen, ac mae parth y dudalen yn cael ei nodi gan ragddodiad ar flaen enw'r dudalen. Er enghraifft, enw'r dudalen hon yw Wicipedia:Parthau, felly Wicipedia yw parth y dudalen. Dyma restr o'r parthau sydd ar gael ar hyn o bryd.

  • (Prif)
  • Sgwrs
  • Defnyddiwr
  • Sgwrs Defnyddiwr
  • Wicipedia
  • Sgwrs Wicipedia
  • Delwedd
  • Sgwrs Delwedd
  • MediaWici
  • Sgwrs MediaWici
  • Nodyn
  • Sgwrs Nodyn
  • Cymorth
  • Sgwrs Cymorth
  • Categori
  • Sgwrs Categori
  • Media
  • Arbennig

Gallwch gael gafael ar restr o bob tudalen o fewn parth arbennig trwy ddefnyddio'r dudalen Pob tudalen.

Isod mae esboniad byr o'r gwahanol barthau.

(Prif) golygu

Does dim rhagddodiad gan dudalennau yn y parth hwn, a rhain yw erthyglau Wicipedia yn bennaf. Heblaw am yr erthyglau, gall tudalennau yn y prif barth fod yn dudalennau gwahaniaethu neu'n ail-gyfeiriadau. Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag erthyglau, tudalennau gwahaniaethu ac ail-gyfeiriadau, gwelwch y cysylltiadau canlynol.

Mae'r parth hwn yn rhoi cyfle i gyfranwyr i'r safle i drafod cynnwys tudalennau yn y prif barth. Yn wir, mae yna barth sgwrs i bob parth, er enghraifft mae'r parth 'Sgwrs Wicipedia' yno i roi cyfle i drafod tudalennau sydd yn y parth 'Wicipedia'. Gweler Wicipedia:Tudalen sgwrs am fwy o wybodaeth.

Defnyddiwr golygu

Mae gan pob defnyddiwr y cyfle i greu tudalen 'gartref', sydd yn cyflwyno'i hunan i Wicipedwyr eraill, yn nodi diddordebau ac ati. Mae'r tudalennau yn ymddangos yn y parth hwn. Defnyddir y parth Sgwrs Defnyddiwr er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr eraill. Gallwch weld rhestr o'r holl ddefnyddwyr yma.

Wicipedia golygu

Mae'r parth hwn yn cynnwys tudalennau prosiect, sydd yn esbonio gwahanol agweddau o Wicipedia, ac yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y prosiect.

Delwedd golygu

Mae'r teitl yn esbonio'i hunan -- yn y parth hwn ceir delweddau ynghyd â'u tudalennau disgrifiad. Gweler Wicipedia:Delweddau am fwy o wybodaeth ar sut i ymdrin â delweddau yn Wicipedia.

MediaWici golygu

Mae cyfieithiadau o'r negeseuon sustem wreiddiol yn cael eu storio yn y parth hwn. Gallwch weld rhestr lawn o'r cyfieithiadau, a chynnig newidiadau ar y dudalen Sgwrs MediaWici cyfatebol (ond dim ond gweinyddwyr sydd yn gallu newid y negeseuon eu hunain).

Mae nodion yn cynnwys testun, neu gôd wici, sydd yn gallu cael ei osod mewn tudalennau eraill yn rhwydd. Er enghraifft, mae egin erthyglau yn cael eu dynodi trwy osod y testun '{{Eginyn}}' ynddynt, sy'n tynnu'r cynnwys oddi wrth Nodyn:Eginyn ac yn ei roi yn y dudalen yn y fan honno. Gwelwch Wicipedia:Nodion am fwy o wybodaeth.

Cymorth golygu

Nid oes tudalennau yn y parth hwn gan Wicipedia; mae'r holl erthyglau cymorth yn ran o'r parth prosiect ('Wicipedia'). Mewn prosiectau sydd yn fwy o faint, fe allai fod yn fantais i wahanu'r tudalennau cymorth oddi wrth tudalennau eraill yn y parth prosiect.

Categori golygu

Mae'r parth hwn yn cynnwys tudalennau categori, sydd yn gymorth mawr i'r broses o drefnu gwahanol erthyglau Wicipedia. I weld sut i'w defnyddio, gwelwch Wicipedia:Categorïau.

Arbennig golygu

Nid yw hwn yn barth go iawn, fel y rhai uchod. Mae'r 'ffug-barth' hwn yn cynnwys tudalennau sy'n cael eu creu yn uniongyrchol gan feddalwedd y safle yn hytrach na gan ddefnyddwyr. Gallwch weld rhestr lawn o dudalennau arbennig sydd ar gael i chi trwy ymweld ag Arbennig:Specialpages.