William Edwyn Isaac

botanegydd yn Affrica a anwyd ym Mhenygraig, Rhondda yn 1905

Roedd William Edwyn Isaac (19051995) yn fotanegydd o Gymro a fe dreuliodd rhan fwyaf o'i yrfa yn Affrica.

William Edwyn Isaac
Ganwyd1905 Edit this on Wikidata
Pen-y-graig Edit this on Wikidata
Bu farw1995 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbotanegydd Edit this on Wikidata
PriodFrances Margaret Leighton Edit this on Wikidata
PlantRhys Isaac, Glynn Isaac Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Fe'i ganwyd ym Mhenygraig, Rhondda yn 1905. Roedd ei dad John Isaac (1875-1964) yn hanu o Drewiliam, Rhondda ac yn gweithio fel Uwcharolygydd Cynorthwyol i'r British Workmen Assurance Company ac roedd ei wraig Leah (neé Payne) (1878-1965) yn hanu o Lansamlet. Fe briodasant yng Ngorffennaf 1904[1].

William oedd yr hynaf o bedwar o blant ac roedd ganddo dair chwaer [2]: Gwyneira (1907), Catherine (Kitty) Eluned (1909) a Sinai Megan (1915). Yn ddiweddarach fe symudodd y teulu i Aberdâr ac roeddent yn mynychu Capel Nazareth[3].

Addysg golygu

Wedi astudio am ei raddau B.Sc. a Ph.D. yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy (bellach Prifysgol Caerdydd), a hefyd treulio cyfnod ym Mhrifysgol Birmingham[4], fe allfudodd i Dref y Penrhyn yn 1933[5]. Enillodd Ysgoloriaeth Ymchwil Thomas Smartt i astudio ecoleg gwymon ym Mhrifysgol Capetown, De Affrica ac yn ddiweddarach fe symudodd i Labordai Tymheredd Isel y Llwyodraeth (Government Low Temperature Research Laboratory), hefyd yn Capetown [6]. Tua diwedd y 40au, dychwelodd i Brifysgol Capetown a pharhau gyda’i waith ar wymon.

Priodi a theulu golygu

Yn 1936 fe briododd Frances Margaret Leighton. Roedd William Isaac yn Dad i efeilliaid (1937) a hefyd un ferch (1948). Fe ddisgleiriodd yr efeilliaid yn y byd academaidd gyda’r hanesydd Rhys Isaac yn ennill Gwobr Pulitzer (1983) am ei lyfr The Transformation of Virginia 1740-1760,[7][8], a’r anthropolegydd Glynn Isaac wedi gweithio y Prifysgol Califfornia, Berkeley a Phrifysgol Harvard.[9][10]

Gyrfa golygu

O 1953 hyd 1961 roedd yn Bennaeth yr Adran Fotaneg ym Mhrifysgol Capetown, fel olynydd yr Athro Robert Adamson [1]. Yn fuan wedyn’ fe’i dyrchafwyd yn Athro (gan draddodi ei ddarlith agoriadol ar destun planhigion y môr yn Ebrill 1955) a hefyd yn Gymrawd o Gymdeithas Linneaidd Llundain [11].

Oherwydd gwrthwynebiad William a Margaret i Apartheid yn Ne Affrica, symudodd y teulu i Kenya yn 1961 lle bu William yn Bennaeth Adran Fotaneg Coleg Prifysgol Nairobi (bellach Prifysgol Nairobi). Tra yn rhedeg yr Adran sefydlodd Ganolfan Ymchwil Moana ger traeth Diani (43 km i’r gogledd o Mombasa) gyda nawdd gan Lywodraeth Prydain.

Wedi ymddeol yn 1970, symudodd gyda Frances i Benrhyn Mornington, Awstralia. Bu farw yn 1995.

Rhai o gyhoeddiadau gwyddonol Isaac golygu

  • Isaac, W. E. (1933). Some observations and experiments on the drought resistance of Pelvetia canaliculata. Annals of Botany, 47(186), 343-348.
  • Isaac, W. E. (1937). South African coastal waters in relation to ocean currents. Geographical Review, 27(4), 651-664.
  • Isaac, W. E. (1937). Studies of South African seaweed vegetation: I.—West Coast from Lamberts Bay to the Cape of Good Hope. Transactions of the Royal Society of South Africa, 25(2), 115-151.
  • Isaac, W. E. (1938). The evolution of a growth-inhibiting emanation from ripening peaches and plums. Transactions of the Royal Society of South Africa, 26(3), 307-317.
  • Isaac, W. E. (1938). The evolution of a growth-inhibiting emanation from ripening peaches and plums. Transactions of the Royal Society of South Africa, 26(3), 307-317.
  • Isaac, Wm Edwyn, M. H. Finlayson, and M. Gavine Simon. "Agar from South African seaweeds." Nature 151.3836 (1943): 532.
  • Isaac, W. E. (1943). Storage of synthetic citrus powders. Industrial & Engineering Chemistry, 35(4), 470-474.
  • Isaac, W. E. (1943). The Incidence of Superficial Scalds in Apples Grown in South Africa in Relation to Storage Temperatures. Journal of Pomology and Horticultural Science, 20(1), 12-23.
  • Davies, R., & Isaac, W. E. (1944). A Rapid Method of Estimating Moisture in Dehydrated Fish. Nature, 154(3902), 211-211.
  • Isaac, W. E. (1944). Effect of Caramelized Fructose on the Stability of l-Ascorbic Acid. Nature, 154(3904), 269.
  • Edwyn Isaac, W. M., & Winch, N. H. (1947). The Guaiacol-Hydrogen Peroxide and Benzidine-Hydrogen Peroxide Colour Reactions of the Bean (Phaseolus vulgaris L.) Pod. Journal of Pomology and Horticultural Science, 23(1), 23-37.
  • Isaac, W. E. (1949). Studies of South African seaweed vegetation: II.—South Coast: Rooi Els to Gansbaai, with Special Reference to Gansbaai. Transactions of the Royal Society of South Africa, 32(1), 125-160.
  • Isaac, W. E. (1951). Observations on the Ecology of Bifurcarla brassicaeformis (Kütz.) Barton. The Journal of Ecology, 94-105.
  • Isaac, W. E. (1956). Some Observations and Experiments on the Drought Resistance of Pelvetia canaliculata, Ann. Bot. 47, pp. 343–348. 1953. South African Seaweed Vegetation and Future Investigations in this Field", J. S. Afr. Bot., 19, 59-71.
  • Isaac, W. E. (1956). The ecology of Gracilaria confervoides (L.) Grev. South Africa with special reference to its ecology in the Saldanha-Langebaan Lagoon, 173-185.
  • Isaac, W. E. (1957, May). The distribution, ecology and taxonomy of Porphyra on South African coasts. In Proceedings of the Linnean Society of London (Vol. 168, No. 1-2, pp. 61–65). Oxford University Press.
  • Isaac, W. E., & G. McGillivray (1965). A Note on the Water-Storing Seeds of Two Species of Crinum and of Some Other South African Amaryllidaceae (sub-family Amaryllidoideae). Annals of Botany, 29(4), 739-740.
  • Isaac, W. E. (1967). Marine Algae of Inhaca Island and of the Inhaca Peninsular. J. S. Afr. Bot., 22, pp. 161–193. 1957. Some Marine Algae from Xai-Xai"., Ibid, 23, 75-102.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Priodas.|1904-08-06|The Rhondda Leader - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-12-31.
  2. "Leah Payne". www.ancestry.co.uk. Cyrchwyd 2019-12-31.
  3. "Cofio Dewi Sant.|1916-03-11|The Aberdare Leader - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-12-31.
  4. ISAAC, W. E. (1933). "Some Observations and Experiments on the Drought Resistance of Pelvetia canaliculata". Annals of Botany 47 (186): 343–348. ISSN 0305-7364. http://www.jstor.org/stable/43237406.
  5. Botanical Society of South Africa: Part 31-40, 1945-1954. South African National Biodiversity Institute Libraries. 1945.CS1 maint: others (link)
  6. "Front Matter". Geographical Review 27 (4). 1937. ISSN 0016-7428. http://www.jstor.org/stable/209852.
  7. Lockridge, Kenneth (2012-03-01). "Remembering Rhys Isaac". Rethinking History 16 (1): 17–25. doi:10.1080/13642529.2012.647802. ISSN 1364-2529. https://doi.org/10.1080/13642529.2012.647802.
  8. "Obituary - Rhys Isaac, Bulletin archive, La Trobe University". www.latrobe.edu.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-31. Cyrchwyd 2019-12-31.
  9. Wood, Bernard (1986). "Obituary: Glynn Llywelyn Isaac, 1937–1985" (yn en). American Journal of Physical Anthropology 70 (3): 289–291. doi:10.1002/ajpa.1330700303. ISSN 1096-8644. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1002/ajpa.1330700303.
  10. Ap (1985-10-08). "Dr. Glynn Isaac, Anthropologist". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-12-31.
  11. "PROCEEDINGS OF THE GENERAL MEETING HELD ON 20 October 1955". Proceedings of the Linnean Society of London 168 (1-2): 1–2. 1957-05. doi:10.1111/j.1095-8312.1957.tb00774_1a.x. ISSN 0370-0461. http://dx.doi.org/10.1111/j.1095-8312.1957.tb00774_1a.x.