Y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru

Sefydlwyd Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru, roedd hefyd yn cael ei adnabod fel y Comisiwn Holtham, gan Rhodri Morgan (Prif Weinidog Cymru), Ieuan Wyn Jones (Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth) ac Andrew Davies (Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus), o Lywodraeth Cynulliad Cymru[1]. Prif orchwyl y Comisiwn oedd edrych ar y dyraniad presennol o wariant cyhoeddus i Lywodraeth Cymru trwy Fformiwla Barnett, fformiwla sydd wedi cael ei beirniadu sawl gwaith am fod yn annheg i Gymru (gan Blaid Cymru er enghraifft[2]). Gorffennodd y Comisiwn ei waith ym mis Gorffennaf 2010.

Cylch gorchwyl y Comisiwn oedd:

  • edrych ar fanteision ac anfanteision y dull a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddosbarthu adnoddau gwariant cyhoeddus i Lywodraeth Cynulliad Cymru; a
  • chanfod ffyrdd gwahanol o gyllido gan gynnwys y posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru gael pwerau amrywio trethi yn ogystal â mwy o bwerau benthyg arian.

Aelodau’r Comisiwn oedd:

Gerald Holtham (Cadeirydd), Partner Rheoli Cadwyn Capital LLP ac Athro Gwadd yn Ysgol Fusnes Caerdydd.
David Miles, aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ac Athro gwadd ym maes Economeg Ariannol yng Ngholeg Imperial Llundain.
Paul Bernd Spahn, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Goethe, Frankfurt am Main a Chynghorydd Macro Gyllid i lywodraethau ledled y byd.

Amserlen golygu

Dechreuodd y Comisiwn ei waith yn yr hydref yn 2008 a gyhoeddoedd ei adroddiad cyntaf yng Ngorffennaf 2009 [3]. Trafodwyd yr adroddiad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Hydref 2009.

Cyhoeddodd ei adroddiad terfynol yng Ngorffennaf 2010.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyhoeddiad i’r wasg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi’r Comisiwn[dolen marw]
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-19. Cyrchwyd 2009-01-15.
  3. Cyhoeddiad i'r wasg yn cyhoeddi adroddiad cyntaf y Comisiwn

Dolenni allanol golygu