Y Darlunydd

cyfnodolyn

Roedd Y Darlunydd [1] yn gylchgrawn Cymraeg a gyhoeddwyd rhwng 1876 a 1879. Golygwyd y cyhoeddiad gan John Evans Jones (Y Cwilsyn Gwyn, 1839-1893) ac fe argraffwyd gan John Evans, Highstreet, Caernarfon. Prif nodwedd y cylchgrawn oedd nifer y darluniau oedd ynddo. Roedd yn cyhoeddi bywgraffiadau gyda darlun o'r un enwog a cherddi ac erthyglau llenyddol a hanesyddol darluniedig. Yn wreiddiol roedd y cylchgrawn yn ymddangos pob mis, daeth allan pob pythefnos ym mis medi 1879 ac yn wythnosol yn Hydref 1879. Bu'r ymgais i gyhoeddi'r Darlunydd yn amlach yn fethiant, dychwelodd i fod yn gylchgrawn misol yn Nhachwedd 1879 a rhifyn mis Rhagfyr 1879 oedd ei rhifyn olaf.[2]

Rhifyn cyntaf

Mae copïau o bob rhifyn o'r cyntaf i'r olaf ar gael ar safwe Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cylchgronau Cymru[3]

Cyfeiriadau golygu