Y Dywysoges Margaret
Roedd y Dywysoges Margaret (21 Awst 1930 – 9 Chwefror 2002), Iarlles Snowdon, yn aelod o deulu brenhinol Lloegr ac yn chwaer iau i'r Frenhines Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig. Roedd Margaret yn adnabyddus am ei ffordd dadleuol a moethus o fyw ac roedd yn ffigwr poblogaidd yn Lloegr yn ystod y 1950au a'r '60au. Roedd hi hefyd yn gerddor medrus ac yn noddwr y celfyddydau.[1]
Y Dywysoges Margaret | |
---|---|
Ganwyd | Y Dywysoges Margaret Rose of York 21 Awst 1930 Castell Glamis |
Bedyddiwyd | 30 Hydref 1930 |
Bu farw | 9 Chwefror 2002 o strôc Ysbyty'r Brenin Edward VII |
Man preswyl | Piccadilly, Royal Lodge, Palas Buckingham, Clarence House, Palas Kensington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pendefig, cymdeithaswr |
Tad | Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig |
Mam | Elizabeth Bowes-Lyon |
Priod | Antony Armstrong-Jones |
Partner | Roddy Llewellyn |
Plant | David Armstrong-Jones, Sarah Chatto |
Llinach | Tŷ Windsor |
Gwobr/au | Uwch Groes Urdd y Goron, Urdd Coron India, Cadwen Frenhinol Victoria, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, Urdd Sant Ioan, Urdd Teulu Brenhinol Siôr VI, Urdd Teulu Brenhinol Elisabeth II, Urdd y Goron Werthfawr, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Bonesig Uwch Groes Urdd y Fictoria Frenhinol, Gwobr Coroni'r Frenhines Elizabeth II, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon |
Gwefan | https://www.royal.uk/princess-margaret |
Ganwyd hi yng Nghastell Glamis yn yr Alban yn 1930, a bu farw yn Ysbyty'r Brenin Edward VII yn Marylebone, Llundain. Roedd hi'n blentyn i'r Brenin Siôr VI ac Elizabeth Bowes-Lyon. Priododd hi Antony Armstrong-Jones, a grewyd yn Iarll Snowdon pan briodasant. Gwahanon nhw yn 1976 ac ysgaru yn 1978.[2][3][4][5][6][7]
Yr oedd eu plant:
- David Armstrong-Jones, 2ail Iarll Snowdon (g. 1961)
- Arglwyddes Sarah Chatto (g. 1964)
Bu farw Margaret yn yr Ysbyty Brenin Edward VII's, Llundain, yn 71 oed, ar ôl dioddef sawl strôc. Mae Ffordd y Dywysoges Margaret ym Mhort Talbot wedi ei henwi ar ei hôl.
Archifau golygu
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw archifau sy'n ymwneud â'r Dywysoges Margaret.[8]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwobrau a dderbyniwyd: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Margaret Rose Armstrong-Jones". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Princess Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margaret Rose Windsor, Princess of the United Kingdom". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020. "Princess Margaret of Great Britain and N-Ireland". Genealogics. "Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Margaret Rose Armstrong-Jones". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Princess Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margaret Rose Windsor, Princess of the United Kingdom". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020. "Princess Margaret of Great Britain and N-Ireland". Genealogics. "Margaret". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man claddu: https://web.archive.org/web/20080210110244/http://www.stgeorges-windsor.org/history/hist_burials_date.asp. https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ Tad: https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ Priod: https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ Mam: https://www.royal.uk/princess-margaret. dyddiad cyrchiad: 4 Ebrill 2020.
- ↑ "y Dywysoges Margaret - Archifau a Llawysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru". archifau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2023-09-14.