Y Llyfrgell (ffilm)

ffilm 2016

Ffilm Gymraeg yw Y Llyfrgell sy'n addasiad o'r nofel Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd. Dyma ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr Euros Lyn.[1]

Y Llyfrgell
Teitl amgen The Library Suicides
Cyfarwyddwr Euros Lyn
Cynhyrchydd gweithredol Gwawr Martha Lloyd, Steve Jenkins, Ed Fletcher, Paul Higgins, Mary Burke, Adam Partridge
Cynhyrchydd Cheryl Keatley-Davies
Fflur Dafydd, Euros Lyn
Ysgrifennwr Fflur Dafydd
Cerddoriaeth Dru Masters
Sinematograffeg Dan Stafford Clark
Sain Gareth Meirion Thomas
Dylunio Tom Pearce
Cwmni cynhyrchu Ffilm Ffolyn / Cinematic
Dosbarthydd Soda Pictures
Amser rhedeg 87 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
(Saesneg) Proffil IMDb

Crynodeb golygu

Pan mae awdures enwog Elena Wdig yn farw drwy hunanladdiad, mae ei dwy ferch, y llyfrgellwyr Nan ac Ana ar goll hebddi. Mae geiriau olaf Elena yn awgrymu mai ei chofiannydd, Eben a'i lladdodd. Yn ystod un shifft nos mae'r efeilliaid yn mynd ar gyrch i geisio dial am farwolaeth eu mam yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond yn cael eu hatal gan y porthor nos Dan, sy'n amharod i gymryd rhan yn yr antur.

Cynhyrchiad golygu

Cynhyrchwyd y ffilm gan Ffilmiau Ffolyn a cefnogwyd y cynhyrchiad gan gynllun talent Cinematic yr asiantaeth Ffilm Cymru Wales.

Cafodd ei ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod mis Medi 2015. Fe fydd y ffilm yn cael ei ddangos mewn gwyliau ffilm yn 2016 a disgwylir i'r ffilm gael ei ddarlledu ar S4C erbyn 2017.[2]

Cast a chymeriadau [1] golygu

Gwobrau golygu

Blwyddyn Gwobr Digwyddiad Categori Derbynnydd Canlyniad
2016
Perfformiad Gorau mewn Ffilm Nodwedd Brydeinig
Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin
Catrin Stewart Buddugol

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Ffilmio i gychwyn ar nofel boblogaidd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Llyfrgell Genedlaethol Cymru (14 Medi 2015). Adalwyd ar 05 Ionawr 2022.
  2. Cyfarwyddwr yn saethu ffilm 'Y Llyfrgell' yn Aberystwyth , BBC Cymru Fyw, 29 Medi 2015. Cyrchwyd ar 23 Mai 2016.

Dolenni allanol golygu