Y Sŵn

ffilm Cymraeg (2023) am yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg

Ffilm Gymraeg yw Y Sŵn, sy'n canolbwyntio ar Gwynfor Evans a'i ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg i Gymru.

Y Sŵn
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2023 Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrLee Haven Jones Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata

Crynodeb golygu

 
Gwynfor Evans, 28 Medi 1951

Daeth Margaret Thatcher yn brif weinidog y Deyrnas Unedig yn 1979 gyda maniffesto oedd yn addo sefydlu sianel deledu Gymraeg.[1]

Ychydig fisoedd wedi'r etholiad cyffredinol, gwnaeth Thatcher dro pedol ar ei haddewid, gan arwain at brotestiadau yng Nghymru. Mewn cyfnod o anufudd-dod sifil yng Nghymru, dywedodd Gwynfor Evans y byddai'n ymprydio nes i Thatcher wireddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg, neu hyd at ei farwolaeth.[1]

Dangosiadau golygu

Dangoswyd y Sŵn mewn sinemâu yng Nghymru rhwng 10 a 24 Mawrth 2023. Fe'i dangoswyd hefyd yn Finsbury Park Picturehouse ar 13 Mawrth 2023, FACT Liverpool ar 20 Mawrth 2023, sinema'r Storyhouse yng Nghaer ar 23 Mawrth 2023 a HOME ym Manceinion ar 3 Ebrill 2023. Darlledwyd y ffilm ar S4C ar Sul y Pasg 2023, ac mae ar gael i'w wylio ar wasanaeth Clic y sianel[2] yn ogystal ag ar BBC iPlayer.[3]

Cynhaliwyd trafodaeth wedi dangos y ffilm yn y Chapter, Caerdydd, gyda chyfraniadau gan Roger Williams (ysgrifennwr sgrin), Dewi Rhys Williams (sy’n chwarae G. O. Williams yn Y Sŵn), Bethan Sayed (cyn Aelod Senedd Plaid Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant), Matthew Hexter (Podlediad Hiraeth), a Ceri Davies (Podlediad Hiraeth).[4]

Arwyddocâd golygu

Meddai’r cynhyrchydd Roger Williams, ““Mae’r ffilm yn olrhain yr hanes o berspectif y cenedlaetholwyr gweision sifil oedd yn y swyddfa Gymreig ar y pryd, a’r gwleidyddion yn San Steffan,”

“Ry’n ni gyd, fel cenedl, yn ymwybodol o safiad Gwynfor. Ond roeddwn i â diddordeb hefyd yn yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain, ac yn y Swyddfa Gymreig, achos dw i ddim yn ymwybodol bod yr ochr yna wedi cael ei olrhain o gwbl.

“Roedd diddordeb gyda fi yn y ddadl, a’r dadlau a oedd yn digwydd rhwng Llundain a Chymru. Gan bod rhai o’r sgyrsiau a’r dadleuon yna yn parhau i fod ynglŷn â’r ffordd mae teledu yn cael ei ariannu a’r berthynas rhwng Cymru a Llundain, a’r ffaith bod darlledu ddim wedi cael ei ddatganoli ac yn y blaen. Ro’n i’n teimlo mai’r ffordd orau i ni fel cynulleidfa drafod y pethe hynny oedd drwy ddrama.

“Wrth gwrs, doedd hi ddim wedi cael ei gwneud o’r blaen. Gydag S4C yn dathlu ei phen-blwydd, roedd yn teimlo fel amser priodol i fynd ati.”[5]

Adolygiadau golygu

Mae'r ffilm wedi derbyn adolygiad cadarnhaol gan y newyddiadurwr Molly Stubbs o Nation.Cymru.[6]

Rhoddodd newyddiadurwr Buzz Magazine adolygiad cadarnhaol i'r ffilm gyda 4/5 seren.[7]

Rhoddodd newyddiadurwr Get the Chance hefyd adolygiad cadarnhaol i’r ffilm gyda 4/5 seren.[8]

Disgrifiodd Elinor Wyn Reynolds y profiad o wylio'r ffilm fel un "i’w fwynhau" ar y cyfan ond "yn ormod o bwdin" wrth gyfeirio at y pyrotechnics.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Y Sŵn". Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru. Cyrchwyd 2023-04-10.
  2. "Y Swn | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-04-21.
  3. "Y Sŵn review: playful drama about the struggle for S4C". BFI (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-10.
  4. "Y Swn (12a)". www.chapter.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-10. Cyrchwyd 2023-04-10.
  5. "Safiad Gwynfor tros S4C yn y sinemâu". Golwg360. 2022-10-29. Cyrchwyd 2023-04-10.
  6. "Film review: Y Sŵn". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-03-11. Cyrchwyd 2023-04-10.
  7. Buzz (2023-03-07). "Y Sŵn: a frenetic new film recounts fight for Welsh-language TV". Buzz Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-10.
  8. Williams, Gareth (2023-03-16). "Review, Y Sŵn, a Swnllyd/Joio/S4C film, by Gareth Williams". Get The Chance (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-10.
  9. "Stori'r Sianel – gormod o bwdin? | Barn". barn.cymru. Cyrchwyd 2023-04-21.

Dolenni allanol golygu