Wiliam Mountbatten-Windsor
Mab cyntafanedig y Tywysog Siarl a Thywysoges Diana yw William Arthur Philip Louis Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog William, Tywysog Cymru (ganwyd 21 Mehefin 1982). Mae'n frawd i'r Tywysog Harri.
Wiliam Mountbatten-Windsor | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mehefin 1982 Ysbyty'r Santes Fair |
Tad | Siarl III |
Mam | Diana, Tywysoges Cymru |
Priod | Catherine, Tywysoges Cymru |
Plant | y Tywysog Siôr, y Dywysoges Charlotte, y Tywysog Louis |
Perthnasau | Tom Parker Bowles, Laura Lopes |
Llinach | Tŷ Windsor |
Gwefan | https://www.royal.uk/the-prince-of-wales |
Chwaraeon |
Cafodd ei eni yn Ysbyty Sant Mair, Llundain. Ei famaeth oedd Tiggy Legge-Bourke o Grughywel. Tom Pettifer, mab Tiggy, oedd macwy ym mhriodas William.
Priododd William ei gariad Kate Middleton yn Abaty San Steffan ar 29 Ebrill 2011. Ganwyd iddynt fab, Tywysog Siôr o Gaergrawnt, ar 22 Gorffennaf 2013.
Chwaraeon golygu
Mae'r tywysog yn chwarae polo'n rheolaidd, ers ei ddyddiau ysgol e.e. yn Sandringham. Mae'n Arlywydd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ers Mai 2006. Cyn hynny roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus a brwd i dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr a thîm rygbi cenedlaethol Lloegr. Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007 a chyhoeddodd yr URC eu bod am weld cwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn cael ei alw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hyn wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru gan fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr.
Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007. Eisoes mae nifer o Gymry'n galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol ac i ailenwi'r tlws yn "Gwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn gwbl anaddas ac mai rheitiach fyddai ei enwi ar ôl Cymro.[1] Lansiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.[2]
Fel Tywysog Cymru golygu
Wedi i'w dad ddod yn frenin, cadarnhawyd y byddai William yn cael ei wneud yn Dywysog Cymru. Yn fuan ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Mark Drakeford ei fod eisoes wedi trafod rôl newydd y tywysog gydag ef.[3]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu ar wefan y BBC
- ↑ Rename the Prince William Cup the Ray Gravell Cup ar wefan The Petition Site
- ↑ "'Dim hast i arwisgo tywysog newydd Cymru, ac angen iddo ddysgu mwy am flaenoriaethau'r bobol'". Golwg360. Cyrchwyd 13 Medi 2022.