Y Wasg (papur newydd)

Newyddiadur Cymraeg oedd Y Wasg, a gyhoeddwyd o 1871 hyd 1890 ar gyfer y Cymry yn America.

Y Wasg
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata

Cychwynnwyd Y Wasg yn 1871 gan gwmni Cymreig yn ninas Pittsburgh, Pennsylvania. Daeth ar ôl hynny yn eiddo i R. T. Daniels, Pittsburgh, ac un neu ddau arall, a byddai Daniels ei hun yn ei olygu. Ei bris oedd $2 y flwyddyn, trwy danysgrifiad. Yn y flwyddyn 1890, unwyd y papur â'r Drych.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893), tud. 207.