Ynys yn perthyn i Rwsia yw Ynys Yuzhny (Rwseg: Южный; Ostrov Yuzhny, sef "Ynys y De"). Hi yw'r ynys fawr ddeheuol o'r ynysoedd sy'n ffurfio Novaya Zemlya, oddi ar arfordir gogleddol Rwsia. Mae Culfor Matochkin yn ei gwahanu oddi wrth Ynys Severny yn y gogledd.

Ynys Yuzhny
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlde Edit this on Wikidata
PrifddinasBelushya Guba Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,716 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNovaya Zemlya Edit this on Wikidata
SirOblast Arkhangelsk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd33,275 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,291 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau72°N 54°E Edit this on Wikidata
Hyd334 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ynys tua 320 km o hyd a 70–140 km o led. gydag arwynebedd o 33 275 km2. Hi yw trydedd ynys Rwsia o ran maint, a'r chweched fwyaf yn Ewrop. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 2,716, y mwyafrif mawr yn byw yn nhref Belushya Guba.