Ynysoedd y Cefnfor Tawel
rhanbarth daearyddol sy'n cynnwys ynysoedd y Cefnfor Tawel
(Ailgyfeiriad o Ynysoedd Môr y De)
Ynysoedd y Cefnfor Tawel neu Ynysoedd Môr y De yw'r 20,000 hyd 30,000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Yn draddodiadol, fe'i rhennir i dri grŵp o ynysoedd: Melanesia, Micronesia a Polynesia.
Math | rhanbarth, grŵp o ynysoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
Melanesia golygu
Mae'r ynysoedd hyn yn cynnwys Gini Newydd, y fwyaf o ynysoedd y Cefnfor Tawel, Caledonia Newydd, Ynysoedd Culfor Torres, Fanwatw, Ffiji ac Ynysoedd Solomon.
Micronesia golygu
Mae Micronesia ("yr ynysoedd bach") yn cynnwys Ynysoedd Mariana, Gwam, Ynys Wake, Palaw, Ynysoedd Marshall, Ciribati, Nawrw a Gwladwriaethau Ffederal Micronesia.
Polynesia golygu
Mae ynysoedd Polynesia yn cynnwys Seland Newydd, ynysoedd Hawaii, Rotuma, Ynysoedd Midway, Samoa, Samoa Americanaidd, Tonga, Twfalw, Ynysoedd Cook, Polynesia Ffrengig ac Ynys y Pasg.