Nofel i blant yn eu arddegau gan Edward Morgan Humphreys yw Yr Etifedd Coll, a gyhoeddwyd yn 1924 gan The Educational Publishing Company, Caerdydd. Teitl llawn y nofel yw,

Yr Etifedd Coll
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
clawr meddal Yr Etifedd Coll (The Educational Publishing Co., Caerdydd, d.d.=1924)
YR ETIFEDD COLL / Hanes Ymchwil / Edward Prichard.

Nofel antur ydyw, ar seiliau ystrydebol braidd, sy'n adrodd hynt a helynt Cymro ifanc a'i anturiaethau yng Nghymru ac ar y môr yng Canolbarth America wrth iddo geisio cael hyd i'w frawd hŷn sydd wedi cael ei amddifadu o'i etifeddiaeth gan gyfreithwyr cnafaidd. Mae'n cael ei ddilyn gan asiantiaid ffiaidd y cyfreithwyr sy'n gwneud eu gorau glas i rwystro'r arwr. Mae prif thema'r nofel wedi bod yn gyfarwydd mewn ffuglen boblogaidd ers y 19g a bod rhai elfennau yn amlwg wedi'u benthyg o Robinson Crusoe a Treasure Island.

Llyfryddiaeth golygu


Llyfrau E. Morgan Humphreys  
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd