Yr Haf (awdl)

awdl gan R. Williams Parry

Mae Yr Haf yn awdl gan R. Williams Parry, a enillodd y gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol 1910. Creodd y gerdd gryn gyffro ar y pryd, gan ei fod mewn arddull wahanol iawn i'r rhan fwyaf o'r awdlau eisteddfodol blaenorol. Thema'r gerdd yw'r ymateb i farwolaeth, gyda'r pwyslais ar fwynhau'r foment gan nad oes unrhyw sicrwydd am fywyd ar ôl marwolaeth.

Daeth a'r awdl yma ag R. Williams Parry i amlygrwydd fel Bardd yr Haf, ac efelychwyd ei arddull gan nifer o feirdd eraill. Yn ddiweddarach, newidiodd ef ei hun ei arddull, a dychanodd y gerdd Yr Haf a'i dynwaredwyr mewn cerdd arall, Yr Hwyaden. Cyhoeddwyd yr awdl yn ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Yr Haf a cherddi eraill, a gyhoeddwyd yn 1924.

Llyfryddiaeth golygu

  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)