Yr Ymgynull

paentiad gan Kyffin Willims

Darlun olew yw Yr Ymgynull (Saesneg: The Gathering) a baentiwyd gan un o brif arltistiaid Cymru yn yr 20g - Kyffin Williams. Prynnwyd y darlun gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1982.[1] Mae'r darlun yn mesur 122 x 183 cm. Mae'n nodweddiadol iawn o arddull arferol Kyffin. Yn 2007-16 roedd gwerth llun olew o'r maint hwn mewn arwerthiant rhwng £30,000 - £40,000.

Yr Ymgynull
Enghraifft o'r canlynolpaentiad Edit this on Wikidata
CrëwrKyffin Williams Edit this on Wikidata
Deunyddpaent olew, cynfas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1980s Edit this on Wikidata
Genrecelf tirlun Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Y Cyfarfod (1980au), paentiad olew gan Kyffin Williams

Europeana 280 golygu

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[2]

Yr arlunydd golygu

Ganwyd Kyffin (9 Mai 19181 Medi 2006) yn Llangefni, Ynys Môn. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1976 ac fe'i urddwyd yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2000. Yn ei flynyddoedd olaf trigai Kyffin Williams ym Mhwllfanogl, Ynys Môn, lle y bu iddo farw o gancr yn 2006. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair-yng-Nghornwy.

Cyfeiriadau golygu

  1. artuk.org; adalwyd 20 Mai 2016.
  2. Gwefan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol golygu