Yr iaith Sgoteg yng Ngweriniaeth Iwerddon

Presenoldeb bychan ond pwysig sydd gan yr iaith Sgoteg yng Ngweriniaeth Iwerddon. Fe'i siaredir yn bennaf yn ardal y Laggan ger tref Raphoe, yn nwyrain Swydd Donegal yn nhalaith Ulster.[1] Er bod y mwyafrif helaeth o siaradwyr Sgoteg ynys Iwerddon yn byw dros y ffin wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, sydd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, mae Donegal yn un o gadarnleoedd cryfaf yr iaith.[2]

Yn 1999, amcangyfrifiwyd bod 10,000 o drigolion Swydd Donegal yn medru'r iaith.[3] Un o dafodieithoedd Sgoteg Ulster a siaredir ganddynt, ac maent yn ei alw'n Scots neu Braid Scots[4] tra bo siaradwyr tafodieithoedd eraill yng Ulster fel arfer yn galw eu hiaith eu hunain yn Ullans neu Ulstèr-Scotch. Gellir ystyried ardal y Laggan yn Donegal a gogledd-orllewin Swydd Tyrone yn un ardal ieithyddol, ac yn un o'r pedair ardal ar wahân o dafodieithoedd Sgoteg Ulster ar ynys Iwerddon, ynghyd â gogledd Swydd Down, dwyrain a chanolbarth Swydd Antrim, a gogledd Antrim a gogledd-ddwyrain Swydd Derry.[5]

Cefnogir yr iaith yng Ngweriniaeth Iwerddon gan yr Asiantaeth Sgoteg Ulster, corff trawsffiniol sydd hefyd yn hyrwyddo'r Sgoteg yng Ngogledd Iwerddon.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Liam Logan, "The Irish Ulster Scot", Études Irlandaises 38: 2 (2013), tt. 161–167. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
  2. (Saesneg) Conal Gillespie, "Ulster-Scots: View from Donegal", Ullans 7 (gaeaf 1999). Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
  3. (Saesneg) "Ireland: Languages", Ethnologue. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
  4. (Saesneg) "Ulster-Scots - the Language of the Laggan", Ask about Ireland. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
  5. (Saesneg) Philip Robinson, "The Mapping of Ulster-Scots", Ulster-Scots Academy. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.