Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof
(Ailgyfeiriad o Ysgol Coed-y-Gof)
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal y Tyllgoed, Caerdydd yw Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof. Y prifathro presennol yw Mr Michael Hayes.[1]
Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof | |
---|---|
Arwyddair | Dyfal Donc a Dâl |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr Michael Hayes |
Lleoliad | Beechley Drive, y Tyllgoed, Caerdydd, Cymru, CF5 3SG |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Disgyblion | 370 (2012) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 4–11 |
Gwefan | http://www.ysgolcoedygof.cardiff.sch.uk |
Roedd 350 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2003, ond lleihaodd y nifer i 303 erbyn 2006. Yn 2012 roedd y nifer wedi codi eto i 370. Dim ond 1% o'r disgyblion a ddaw o gartrefi sydd â'r Gymraeg yn brif iaith yr aelwyd.[2]
Er i'r ysgol gael adroddiad ardderchog gan Estyn a'i disgrifiodd hi fel ysgol dda iawn yn 2004, yr un flwyddyn, daeth yr ysgol i lygaid y cyhoedd oherwydd cyflwr gwael ei hadeiladau. Roedd dŵr yn gollwng o'r tô ac yn peryglu bywydau wrth ddodd i gyswllt â thrydan yn yr hen portacabin a godwyd tua 1994 fel mesur dros dro.[3]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ School Details: Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
- ↑ Adroddiad Estyn 2010
- ↑ Protest over 'death risk' classrooms BBC 13 Mai 2004
Dolenni allanol golygu
- Gwefan Ysgol Coed-y-Gof Archifwyd 2013-02-10 yn y Peiriant Wayback.