Ysgol Ffordd Alecsandra

Ysgol yn Aberystwyth, Ceredigion oedd Ysgol Ffordd Alecsandra (Saesneg: Alexandra Road School). Adeiladwyd yr ysgol ym 1874 ar gyfer 600 o blant rhwng 5 ac 14 oed. Rhanwyd yn dair adran, gyda phrifathro ar gyfer pob adran, sef bechgyn, merched a babanod. Adeiladwyd bloc newydd arwahan ym 1910 ar Heol y Gogledd, ar gyfer 240 o fechgyn ychwanegol, ystafell ymarferol ar gyfer 20 bachgen ac ystafell ddosbarth newydd ar gyfer 40 o ferched â chanolfan goginio.[1]

Ysgol Ffordd Alecsandra

Cymraeg oedd prif iaith yr ysgol yn wreiddiol ond gyda dyfodiad y faciwîs yn 1939, newidiodd iaith yr ysgol i Saesneg dros nos. Dyma beth oedd yn rhannol gyfrifol am sefydliad Ysgol Gymraeg Aberystwyth yr un flwyddyn.[2]

Ym 1948 neilltuwyd rhan ohoni yn ysgol uwchradd. Yma addysgwyd y plant na fyddai'n mynychu Ysgol Ramadeg Ardwyn. Parhaodd y babanod i ddefnyddio ystafelloedd yn yr ysgol, tra aeth y plant cynradd, rhwng 7 a 11 oed, i'r ysgol yn Heol y Gogledd.[1]

Symudodd yr Ysgol Gymraeg i safle Ysgol Ffordd Alecsandra ym 1952, wedi rhedeg allan o le yn eu hen safle. Addysgwyd plant Ysgol Ffordd Alecsandra ar safle Heol y Gogledd yn Ysgol y Gogledd drwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg yn ail iaith. Ym mis Medi 1955, symudodd plant hŷn Ysgol Ffordd Alecsandra i ysgol uwchradd newydd Dinas yng Nghefn-llan ar y Waun, cyn i Ysgol Gyfun Penglais cymryd ei le ym 1973.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Ysgol Ffordd Alecsandra, Aberystwyth. Adalwyd ar 6 Ionawr 2010.
  2.  Birthday bash for first Welsh school. Cambrian News (1 Hydref 2009).