Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, ydy Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn, sy'n darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3½ ac 11 oed. Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Gyfun y Strade.

Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn
Arwyddair Nid da lle gellir gwell
Sefydlwyd 1965
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Miss D.Jenkins
Lleoliad Heol Elfed, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA16 0AL
AALl Cyngor Sir Gâr
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Lliwiau      Coch
Gwefan parcytywyn.co.uk

Hanes golygu

Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn ar 4 Hydref 1965. Cynhaliwyd y gwersi yn neuadd goffa'r dref.[1] Symudodd i'w safle presennol ar Heol Elfed ym 1972. Tyfodd yr ysgol yn fuan a bu rhaid codi nifer o gabanau erbyn 1978, sydd dal mewn defnydd hyd 2012.[2] Roedd 49 o ddisgyblion ar agoriad yr ysgol,[3] a thua 90 erbyn 1995. Roedd hyn wedi dyblu i 184 erbyn 2006,[4] ac ym mis Ionawr 2012, roedd 247 o ddisgyblion yn yr ysgol.[5] Arwyddodd dros 1,500 o drigolion Porth Tywyn ddeiseb yn galw am adeiladau newydd.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Ysgol Gymraeg Parc-y-Tywyn. Cyngor Tref Penbre a Phorth Tywyn. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
  2.  Ymgyrch i godi ysgol Gymraeg newydd ym Mhorth Tywyn. BBC (30 Ebrill 2012). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
  3.  Yr Ysgol. Ysgol Parc y Tywyn. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
  4.  Adroddiad Arolygiad Ysgol Parc y Tywyn. Estyn (Ionawr 2006). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
  5.  Adroddiad Arolygiad Ysgol Parc y Tywyn. Estyn (Ionawr 2012). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
  6.  1,500 sign up to call for new school building. Llanelli Star (27 Mehefin 2012). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.