Ysgol gynradd Gymraeg yn ninas Casnewydd yw Ysgol Ifor Hael. Sefydlwyd yr ysgol ym Medi 2008 a chafodd ei hagor yn swyddogol yng Ngorffennaf 2009. Fe'i lleolir ar safle yng ngorllewin y ddinas.[1]

Enwir yr ysgol ar ôl yr uchelwr lleol Ifor Hael, un o brif noddwyr Dafydd ap Gwilym.

Bydd plant o'r ysgol newydd yn mynychu Ysgol Gyfun Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl, am nad oes ysgol gyfun Gymraeg yng Nghasnewydd eto.[1]

Mae rhieni lleol yn galw am sefydlu trydedd ysgol Gymraeg yn y ddinas. Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir a Dinas Casnewydd bod datblygu addysg Gymraeg yng ngorllewin y ddinas "yn gyffrous". Ychwanegodd: "Rydyn ni'n benderfynol o wrando ar ddymuniadau rhieni ac mae'n amlwg fod y galw am addysg Gymraeg yn cynyddu yn y ddinas."[1]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.