Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Prif Ysgrifennydd Gwladol Ei Mawrhydi dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd neu, yn anffurfiol, Ysgrifennydd Brexit,[1] yw'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, y cyfeirir ato'n anffurfiol fel "Brexit". Cyfrifoldeb yr ysgrifennydd yw goruchwylio'r trafodaethau am dynnu allan o'r UE yn dilyn refferendwm ar 23 Mehefin 2016, lle pleidleisiodd mwyafrif o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb.[2][3] Mae deiliad y swydd yn aelod o'r Cabinet.

Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
Arfbais Llywodraeth Ei Mawrhydi
Deilydd
Stephen Barclay

ers 16 Tachwedd 2018
Yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
ArddullYsgrifennydd Brexit
(anfurfiol)
Y Gwir Anrhydeddus
(o fewn y DU a'r Gymanwlad)
Aelod oCabinet y Deyrnas Unedig
Yn adrodd iPrif Weinidog y Deyrnas Unedig
LleoliadWestminster, Llundain
PenodwrY Frenhines
ar argymhelliad Y Prif Weinidog
Cyfnod y swyddamhenodol
Ffurfwyd13 Gorffennaf 2016
Deilydd cyntafDavid Davis

Cafodd y swydd ei greu ar gychwyn Prif Weinidogaeth Theresa May, a ddaeth yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar 13 Gorffennaf 2016.[4] Mae'r ysgrifennydd yn bennaeth ar Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, sydd a'i phencadlys yn rhif 9 Stryd Downing, Westminster, Llundain.

Y deiliad cyntaf oedd David Davis AS, Ewrosceptig ers amser maith a fu'n chware rhan flaenllaw yn yr ymgyrchu o blaid ymadawiad y DU o'r UE.[5] Mae Davis yn gyn- gadeirydd y Blaid Geidwadol a wasanaethodd yn llywodraeth John Major fel Gweinidog Gwladol dros Ewrop (1994-97) ac yng Nghabinet Cysgodol David Cameron fel yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol .[6]

Ymddiswyddodd Davis ar 8 Gorffennaf 2018 ychydig cyn hanner nos. Penodwyd Dominic Raab ar 9 Gorffennaf fel ei olynydd. Ymddiswyddodd Rabb ar 15 Tachwedd 2018.[7] Penodwyd Stephen Barclay, a fu gynt y Gweinidog Gwladol dros Iechyd, fel olynydd Raab ar 16 Tachwedd 2018.[8]

Rhestr o Ysgrifenyddion Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd golygu

Lliw'r blaid :
      Ceidwadol

Delwedd Enw Cyfnod yn y swydd Party Prif Weinidog Cyf.
  David Davis
AS Haltemprice a Howden
13 Gorffennaf 2016 8 Gorffennaf 2018 Ceidwadol Theresa May [9]
  Dominic Raab
AS Esher a Walton
9 Gorffennaf 2018 15 Tachwedd 2018 [10]
  Stephen Barclay
AS Gogledd Orllewin Cambridgeshire
16 Tachwedd 2018 Deilydd [8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cecil, Nicholas (14 Gorffennaf 2016). "Brexit Secretary David Davis says UK 'will quit the EU in December 2018'". Evening Standard. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2018.
  2. James, William; Holden, Michael (13 Gorffennaf 2016). "'Charming Bastard' David Davis to lead Brexit talks". Reuters. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.CS1 maint: uses authors parameter (link).
  3. Foster, Matt (14 Gorffennaf 2016). "New Department for Business, Energy and Industrial Strategy swallows up DECC and BIS — full details and reaction". Civil Service World. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
  4. "New ministerial appointment July 2016: Secretary of State for Exiting the European Union" (Press release). Prime Minister's Office, 10 Downing Street. 13 Gorffennaf 2016. https://www.gov.uk/government/news/new-ministerial-appointment-july-2016-secretary-of-state-for-exiting-the-european-union. Adalwyd 9 Gorffennaf 2018.
  5. Crace, John (4 Chwefror 2016). "David Davis spells out his EU strategy: be more like Canada". The Guardian. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
  6. "Theresa May's cabinet: Who's in and who's out?". BBC News. 13 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
  7. "Brexit Secretary Dominic Raab resigns over EU agreement". BBC News. 15 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2018.
  8. 8.0 8.1 "Steve Barclay named new Brexit Secretary". BBC News. 16 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2018.
  9. "Rt Hon David Davis MP". UK Parliament. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2018.
  10. "Rt Hon Dominic Raab MP". UK Parliament. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2018.