Ystorya Adaf (neu Ystorya Addaf, Hanes Adda) yw'r teitl a dderbynnir amlaf ar gyfer gyfieithiad Cymraeg Canol o'r testun Lladin Historia Adam,[1] fersiwn o'r "Buchedd y Groes" boblogaidd (neu De ligno sancte crucis). Ni ddylid cymysgu Ystorya Adaf ag Ystorya Adaf ac Eva y Wreic (Hanes Adda a'i wraig Efa), cyfieithiad Cymraeg o destun Lladin allan o'r Hen Destament, Vita Adae (et Evae).

Mae'r Ystorya Adaf wedi goroesi mewn pedair llawysgrif, Peniarth 5, Peniarth 7, Peniarth 14, a Hafod 22, ac mae wedi'i golygu tair gwaith. Mae fersiwn ym Mheniarth 5 yn dwyn y teitl Evengl Nicodemus (Efengyl Nicodemus) yn gamarweiniol. Er bod chwedl Nicodemus a Buchedd y Groes yn dod yn gysylltiedig â'i gilydd yn aml mewn llawer o drawsnewidiadau canoloesol, nid yw'r testun Cymraeg yma yn un ohonynt. Mae'r dilyniant lle mae'r Ystorya Adaf yn ymddangos ym Mheniarth 5, lle mae'n cael ei olynu gan stori Hanes y Dioddefaint o Efengyl Mathew a chyfieithiad Cymraeg o'r Inventio Sancte Crucis (Canfod y Groes Sanctaidd), yn awgrymu bod y copïwr wedi ystyried yr Ystoria i fod yn rhagarweiniad i'r Croeshoeliad, chwedl yr Inventio yn stori olynol, gyda chyfrif yr Efengyl yn darparu cyswllt rhyngddynt.

Er bod y stori wedi'i hymhelaethu ychydig mewn dull nodweddiadol o ryddiaith naratif Cymraeg Canol, ar y cyfan mae'n glynu'n agos at y testun Lladin fel y'i hailadeiladwyd gan Meyer.

Mae'r cyn lleied o gysylltiadau ag sydd rhwng motiffau'r stori a thraddodiad brodorol Cymru yn ymddangos yn gyd-ddigwyddiadol. Er enghraifft, motiff yr ôl troed gwywedig (mae Seth yn canfod ei ffordd yn ôl i Baradwys trwy ddilyn yr ôl troed a adawyd gan Adda ac Efa flynyddoedd cyn hynny, lle na dyfodd unrhyw beth erioed wedyn), sy'n debyg i'r chwedl bod dim yn tyfu yn ôl troed Arthur a cheir yn un o'r triawdau.[2]

Dyma fraslun o'r hanes:

Mae Adda ar fin marw. Mae'n danfon ei fab Seth i Gatiau Paradwys i erfyn ar eu hangel gwarcheidiol i roi olew trugaredd iddynt, er mwyn i'w dad cael byw. Gadawodd yr angel iddo edrych i mewn i Baradwys, lle gwelodd lawer o ragarwyddion rhyfedd a hardd o bethau a ddylai fod ar y ddaear. Mae'r angel yn rhoi tri hedyn iddo o Goeden y Bywyd, mae Seth wedyn yn ymadael. O gyrraedd yn ôl i'r man le bu ei dad, mae'n canfod ei fod eisoes wedi marw. Mae'n gosod y tri hedyn yn ei geg, ac yn ei gladdu yn syth ar Fynydd Moriah. Ymhen amser tyfodd y tri hedyn yn dair coeden fach, a chymerodd Abraham rhan o'i bren er mwyn aberthu Isaac ei fab. Wedi hynny gwnaed gwialen Moses, yr hon a ddefnyddiodd i hollti'r graig allan o un o’i changhennau. Yn fuan tyfodd y tair coeden gyda'i gilydd yn un goeden, fel symbol o ddirgelwch y Drindod. O dan ei changhennau eisteddodd y Brenin Dafydd pan ddaeth Nathan y Proffwyd ato, ac yno fe welodd ei bechod, a chanu'r salm am drugaredd (Salm 51). Aeth Solomon, pan oedd yn adeiladu’r Deml ar Fynydd Seion, i dorri i lawr y goeden, a oedd erbyn hynny wedi tyfu'n un o’r gorau o gedrwydd Libanus. Fe wnaeth dynion ceisio gwneud trawst ohoni; ond ni oedd modd i'w gwneud i ffitio i'w le, faint bynnag oeddent yn ei dorri a'i siapio. Felly, roedd Solomon yn ddig, a thaflodd coden ar draws nant Cedron fel pont, er mwyn i bawb oedd yn tramwy'r ffordd honno yn ei sathru dan draed. Ond ar ôl ychydig penderfynodd Solomon i gladdu'r traws, a thros y lle gorweddai ymddangosodd Pwll Bethesda gyda'i bwerau iachâd; a phan ddaeth ein Harglwydd ar y ddaear arnofiodd y trawst i wyneb y pwll, a daeth yr Iddewon o hyd iddi, i wneud y Groes lle bu farw Crist ar Galfaria.

Cyfeirir at chwedl Buchedd y Groes hefyd gan y bardd Cymraeg o'r 14g Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd.

Cyhoeddiadau a chyfieithiadau golygu

  • Jenkins, John (gol.). "Medieval Welsh Scriptures, Religious Legends, and Midrash."Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1919-20), tt. 121-131. Argraffiad yn seiliedig ar Beniarth 5 gydag amrywiadau o Beniarth 14 a Hafod 22 [3]
  • Jones, Thomas Gwynn (gol.) A G. Hartwell Jones (cyf.). 'Ystorya Addaf' a ' Val y Kavas Elen y Grog': Tarddiad, Cynnwys, ac Arddull y Testunau Cymraeg a'u Lledaeniad (traethawd hir Prifysgol Cymru).
  • Williams, Robert (gol.) Selections from the Hengwrt Manuscripts, Cyf. 2 (Llundain, 1892), 243-50. Seiliedig ar Beniarth 5.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. J.E. Caerwyn Williams, 'Rhyddiaith Grefyddol Cymraeg Canol', yn Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Llandysul, 1974), t. 362.
  2. Trioedd Ynys Prydein: the Welsh Triads, gol. Rachel Bromwich, 2il argraffiad. (Caerdydd, 1978), tudalen 35.
  3. Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1919-20) Cylchgronau Cymru LlGC adalwyd 13 Chwefror
  4. Efengyl Nicodemus - Selections from the Hengwrt Manuscripts, Cyf. 2 (Llundain, 1892)