Offeiriad Dominicaidd a diwinydd Catholig o Ffrancwr oedd Yves Marie-Joseph Congar (13 Ebrill 1904 – 22 Mehefin 1995). Fe'i nodir am ei waith ar eglwyseg ac eciwmeniaeth. Cafodd ddylanwad cryf ar Ail Gyngor y Fatican, a fe'i ystyrir yn un o ddiwinyddion Catholig pwysicaf yr 20g.

Yves Congar
FfugenwR. Obert Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Ebrill 1904 Edit this on Wikidata
Sedan Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1995 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Catholic University of Paris Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, ysgrifennwr, dyddiadurwr, offeiriad Catholig, diacon Edit this on Wikidata
Swyddcardinal-diacon Edit this on Wikidata
Gwobr/auBroquette-Gonin prize, Gwobrau Montyon Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd yn Sedan, Ardennes, yng ngogledd ddwyrain Ffrainc. Astudiodd yng ngholeg diwinyddol Reims (1919–21) a'r Institut Catholique de Paris (1921–24) cyn iddo benderfynu ymuno ag Urdd y Dominiciaid. Gwasanaethodd yn y fyddin am flwyddyn cyn iddo ddechrau ei nofyddiaeth yn Amiens ym 1925, a chafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1930.[1] Aeth i astudfa'r Dominiciaid yn Le Saulchoir yng Ngwlad Belg, ac yno fe weithiodd dan ddylanwad Marie-Dominique Chenu. Cyhoeddodd ei waith Chretiens Desunis ("Cristionogaeth Ymranedig") ym 1937, ac ynddo ymgeisiai egluro hanes anundod yr Eglwys a chyflwynai'i gynigion am y dyfodol.[2] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Congar ei alw i'r fyddin i fod yn gaplan. Cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr ym 1940, a threuliodd pum mlynedd mewn gwersylloedd carcharorion rhyfel, gan gynnwys Colditz a Lübeck.[1]

Wedi'r rhyfel, cafodd waith Congar ei amau gan awdurdodau'r Eglwys Gatholig. Fe'i gwaharddwyd rhag cyhoeddi erthygl ar eciwmeniaeth ym 1947, a chafodd ei ddiswyddo o'i waith fel athro ym 1954 a'i ddanfon i'r École Biblique yn Jeriwsalem. Yno, fe ysgrifennodd Le Mystere du Temple ("Dirgelwch y Deml"), ond nid oedd yn hoff o'i gyfnod alltud. Yn ddiweddarach, fe symudodd i Rufain ac yna i dŷ'r Dominiciaid yng Nghaergrawnt ond parhaodd dan lygad gwyliadwrus yr Eglwys. Cafodd ei orchymyn i gadw draw rhag cysylltu ag Anglicaniaid ac i gadw'n dawel ar faterion eciwmenaidd. Cafodd ei wahardd hyd yn oed rhag mynediad i briordy'r Dominiciaid yn Blackfriars, Rhydychen.[2] Cafodd ei symud ymlaen i Strasbwrg cyn i'w alltudiaeth dod i ben ym 1960, pryd gafodd ei benodi'n ymgynghorydd i gomisiwn paratoi Ail Gyngor y Fatican (1962–65). Roedd Congar yn weithgar iawn wrth lunio sawl un o ddogfennau'r Cyngor.[1]

Ysgrifennodd Congar mwy na 30 o lyfrau trwy gydol ei oes, ac roedd yn weithgar iawn hyd ei flynyddoedd olaf. Gan gynnwys erthyglau academaidd a phoblogaidd a chyhoeddiadau a olygwyd ganddo, amcangyfrifir iddo ysgrifennu rhyw 1,800 o weithiau. Cafodd ddiagnosis o sglerosis ym 1935, a gwaethygodd yr afiechyd wrth iddo heneiddio.[1] Erbyn 1984 roedd Congar yn sâl iawn, a symudodd i fyw ei flynyddoedd olaf yn yr Hôtel des Invalides. Cafodd ei benodi'n gardinal ym 1994 gan y Pab Ioan Pawl II. Bu farw ym Mharis yn 91 oed.[2]

Ei ddiwinyddiaeth golygu

Ymgeisiodd Congar i ddatblygu diwinyddiaeth eglwysig i ddangos "gwir wyneb fyw" yr Eglwys. Canolbwyntiodd ei waith yn bennaf ar eciwmeniaeth ac ymchwil hanesyddol ym maes diwinyddiaeth. Pwysleisiodd taw corff Crist yw'r Eglwys, a bod angen adnewyddu diwinyddiaeth y offeiriadaeth, pwysigrwydd y lleygwyr, a'r genhadaeth fydol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Yves Congar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ebrill 2018.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Brian Davies, "Obituary:Cardinal Yves Congar", The Independent (30 Mehefin 1995). Adalwyd ar 20 Ebrill 2018.