Mewn etymoleg, ôl-ffurfiant yw'r broses neu'r canlyniad o greu gair newydd trwy ffurfdro, yn nodweddiadol trwy dynnu neu amnewid addodiadau gwirioneddol neu dybiedig o eitem geiriadurol, mewn ffordd sy'n ehangu'r nifer o lecsemau sy'n gysylltiedig â'r gair gwraidd cyfatebol.

Ôl-ffurfiant
Enghraifft o'r canlynollinguistics term Edit this on Wikidata
Mathtarddiad Edit this on Wikidata

Fel enghraifft o ôl-ffurfiant, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi'r gair "oraen",[1] sy'n rhagflaenydd y gair "oren" a ddefnyddiwyd yn yr 18g. Roedd yn deillio o'r gair Saesneg orange. Gan nad oes sain /dʒ/ yn y Gymraeg, newidiwyd y sain honno ar diwedd y gair Saesneg yn /s/ pan y llefarwyd hi gan Gymry. Ond oherwydd bod geiriau o'r math yna a fabwysiadwyd o'r Saesneg yn lluosog fel arfer (e.e. "cyrans" o currants), daeth "oraens" i gael ei ddefnyddio fel lluosog a chrewyd y ffurf unigol "oraen" fel ôl-ffurfiad.

Cyfeiriadau golygu

  1.  oraen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Hydref 2022.