Geiriadur Prifysgol Cymru

Geiriadur Prifysgol Cymru yw'r prif eiriadur hanesyddol (neu etymolegol) yn yr iaith Gymraeg, sy'n mwynhau statws cyffelyb i'r Oxford English Dictionary yn Saesneg. Fe'i cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru. Erbyn Mehefin 2014 roedd fersiwn ar-lein ohono ar gael.[1]

Geiriadur Prifysgol Cymru
Geiriadur Prifysgol Cymru (Argraffiad cyntaf GPC (1950-2002))
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, geiriadur Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaAnn Parry Owen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1921 Edit this on Wikidata
Prif weithredwrAndrew Hawke Edit this on Wikidata
SylfaenyddJohn Bodvan Anwyl Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Hanes y geiriadur golygu

Yr Argraffiad Cyntaf golygu

Dechreuodd gwaith ar y geiriadur yn 1921 gan dîm bychan o staff cyflogedig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, dan ofal y Parch. J. Bodvan Anwyl a drefnodd, fel Ysgrifennydd, griw mawr o ddarllenwyr gwirfoddol i chwilio geiriau Cymraeg mewn ffynonellau yn amrywio o lawysgrifau Cymraeg i lyfrau printiedig hen a diweddar. Dechreuwyd ar y dasg o olygu'r deunydd hwnnw a chreu'r geiriadur ei hun ym mlwyddyn academaidd 1948/1949, dan olygyddiaeth R. J. Thomas, gyda'r geiriadur yn cael ei gyhoeddi mewn rhannau unigol 64 tudalen; cyfanswm o 61 o rannau erbyn y diwedd. Rhwymwyd rhannau 1-21 fel Cyfrol I (a–ffysur) yn 1967. Rhwymwyd rhannau 22-36, a olygwyd gan Thomas a Gareth A. Bevan, fel Cyfrol II (g–llyys) yn 1987. Cafodd rhannau 37-50, a olygwyd gan Bevan a Patrick J. Donovan, eu rhwymo a'u cyhoeddi fel Cyfrol III (m–rhywyr) yn 1998. Ysgrifennwyd y cofnod drafft olaf ar 6 Rhagfyr 2001, ar ôl 80 mlynedd o gasglu a chofnodi. Cyhoeddwyd Cyfrol IV, a olygwyd gan Bevan a Donovan, yn Rhagfyr 2002. Y cofnod olaf yw "Zwinglïaidd, Zwinglian (ans.)", a'r tri chofnod ynglŷn â Zwingli yw'r unig eiriau yn y Gymraeg sy'n dechrau gyda "Z".

Mae'r Argraffiad Cyntaf yn cynnwys 7.3 miliwn o eiriau testun ar 3,949 tudalen, ac yn dogfennu 105,000 gair pen. Ceir bron i 350,000 dyfyniad dyddiedig, o'r 7g hyd 2002, gyda 320,000 diffiniad yn y Gymraeg a 290,000 gyfystyron Saesneg.

Yr Ail Argaffiad golygu

Yn Ionawr 2002 dechreuwyd gweithio ar yr Ail Argraffiad ar unwaith, am fod cofnodion am y geiriau rhwng A a B yn yr Argraffiad Cyntaf wedi eu cyfansoddi ar gynllun mwy cryno na'r rhai ar weddill yr wyddor. Disgwylir bydd ail-olygu "A" a "B" yn cymryd hyd 2011. Bwriedir yn y pen draw gael y geiriadur cyfan ar-lein am ddim. Cyhoeddir yr Ail Argraffiad, fel y cyntaf, mewn rhannau 64 tudalen, tua dwy waith y flwyddyn : y rhan ddiweddaraf yw Rhan 10 (Gorffennaf, 2010). Roedd y gwaith yn angenrheidiol am fod llawer o eiriau newydd a thermau technegol wedi dod yn rhan o'r iaith ers y 1950au, e.e. cyfrifiadur, meddalwedd, a cymuned. Golygwyd Rhannau 1-8 gan Bevan a Donovan. Y Golygydd presennol yw Andrew Hawke.

Mae cyfrol 11 yr ailargraffiad, sydd yn nodi geiriau sy'n cychwyn efo'r lythyren "B", yn cynnwys: "Bolocs", "Bildo" (neu adeiladu), "Bimbo" a "Blowjob".[2]

GPC Ar Lein golygu

Ar 26 Mehefin 2014 lansiwyd fersiwn ar lein llawn o'r Geiriadur (GPC Ar Lein), sy'n cynnwys y cyfan o'r Argraffiad Cyntaf a'r Ail Argraffiad o A i brig ynghyd â rhai cofnodion newydd, fel cyfrifiadur, cyfathrebu a cymuned. Mae'r fersiwn ar lein ar gael yn rhad ac am ddim.

Mae gan y Geiriadur dudalen Facebook a chyfrif Twitter (@geiriadur), lle ceir 'Gair y Dydd'.

Apiau GPC golygu

Mae'r holl eiriadur ar gael ar ffurf ap ar gyfer dyfeisiau symudol Apple ac Android: Apiau Geiriadur Prifysgol Cymru, gyda'r posibilrwydd o lawrlwytho'r holl ddata fel nad oes rhaid cael cysylltiad â'r Rhyngrwyd. Ceir dwy gêm syml yn yr apiau: anagramau a geiriau cudd. Mae'r apiau ar gael yn rhad ac am ddim.

Manylion cyhoeddi golygu

Y pris cyfredol (er 2006) am y set cyflawn yw £350.00, neu £99 y gyfrol.

  • Set cyflawn o'r Argraffiad 1af (4 cyf.) gol. R. J. Thomas, Gareth A. Bevan a P. J. Donovan 1967-2002, xii+1366, xxxii+925, xxxvi+859, xvi+748, 195mm×272mm tudalen, Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1806-5.
  • Cyfrol I (a-ffysur) gol. R. J. Thomas, 1967, tt. xx+1366, 195×272mm, Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-0504-1.
  • Cyfrol II (g-llyys) gol. R. J. Thomas a Gareth A. Bevan, 1987, tt. xxxii+925, 195×272mm, Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-0981-0.
  • Cyfrol III (m-rhywyr) gol. Gareth A. Bevan a P. J. Donovan, 1998, tt. xxxvi+859, 195×272mm, Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1530-9.
  • Cyfrol IV (s-Zwinglïaidd) gol. Gareth A. Bevan a P. J. Donovan, 2002, tt. xvi+748, 195×272mm, Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1804-1.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein
  2. "Bolocs yng Ngeiriadur y Brifysgol", Golwg 24 (34): 5, 2012

Dolennau allanol golygu