Llythyren yn yr wyddor Almaeneg ac un o'r llythrennau Rhufeinig yw "ß" (ynganiad: ss gryf).

Y lythyren "ß" Eszett mewn gwahanol teipysgrifau

Mae'r German Eszett (a elwir hefyd yn scharfes S, golyga s finiog) ß yn llythyren swyddogol yn y wyddor yn yr Almaen ac Awstria. Yn y Swistir, ni ddefnyddir yr Eszett o gwbl, defnyddir dim ond ss. Cy

Does dim consensws dros wreiddiau'r glyff yma. Golyga ei enw,Es-zett yn syml, S-Z. Awgryma hyn gysylltiad gyda'r "s hir ac z" (ſʒ) ond mae'r sgript Lladin hefyd yn gyfarwydd gyda'r glymlythren "s hir dros s grwm" (ſs). Gan i'r Almaen ddefnyddio stript Gothig hyd at yr 1940au, prin iawn y defnyddiwyd y teipwynebau yma mewn llythrennau bras a daeth fersiwn prif lythryen o'r Eszett byth i ddefnydd cyffredin, er i drafodaethau dros ei chreu fod yn gyffredin ers ddiwedd 19g.

O ganlyniad, yr eilydd ar gyfer fersiwn llythyren bras wrth deip-argraffu oedd yr SZ gwreiddiol (MaßeMASZE, oedd yn wahanol i'r MasNodyn:ZwnjseMASSE) ac yn hwyrach SS (MaßeMASSE). Defnyddio'r SS hyd yma yw'r unig eilydd ar gyfer y lythyren wrth ei sgwennu fel prif lythyren yn ôl yr orthograff swyddogol Rechtschreibreform yn yr Almaen ac Awstria

Cyfoes

golygu

Ers 2008 mae'r fersiwn capital version (ẞ) o'r glyff Eszett yn rhan o Unicode gan ymddangos mewn mwy nag un teipwyneb. Nid yw eto wedi llifo i ysgrifennu ar lawr gwlad. Mae allweddell Almaeneg safonnol newydd (DIN 2137-T2) wedi cynnwys y prif lythyren ß ers 2012.

I nifer o Gymry bydd y lythyren Eszet yn gyfarwydd ar fathodyn tîm pêl-droed cenedlaethol yr Almaen yn y gair Fußball ac ar arwyddion stryd lle gwelir y gair Straße (stryd).


 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.