Awstria

Gwlad a gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Awstria (Almaeneg: "Cymorth – Sain" Republik Österreich ) neu Ostria. Mae'n ffinio â Liechtenstein a'r Swistir i'r gorllewin, Yr Eidal a Slofenia i'r de, Hwngari a Slofacia i'r dwyrain a'r Almaen a'r Weriniaeth Tsiec i'r gogledd. Gwlad tirgaeedig yw Awstria, felly nid oes ganddi arfordir.

Awstria
Coat of arms of Austria.svg
Republik Österreich
Flag of Austria.svg
ArwyddairArrive and revive Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth gyfreithiol, gwlad dirgaeedig, gwlad, gwladwriaeth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôldwyrain, Raabs an der Thaya Edit this on Wikidata
PrifddinasFienna Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,809,212 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Tachwedd 1918 Edit this on Wikidata
AnthemLand der Berge, Land am Strome Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSebastian Kurz Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, UTC+01:00, UTC+2, Ewrop/Fienna Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg, Iaith Arwyddo Awstria Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanolbarth Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd83,878.99 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawBodensee, Neusiedl Lake, Afon Rhein, Afon Donaw, Afon Inn, Afon Salzach, Thaya, Morava Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Eidal, Liechtenstein, Y Swistir, Y Weriniaeth Tsiec, Hwngari, Slofacia, Slofenia, yr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48°N 14°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffederal Awstria Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Awstria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Awstria Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAlexander Van der Bellen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Canghellor Ffederal Awstria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSebastian Kurz Edit this on Wikidata
EU-Austria.svg
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.48 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.885 Edit this on Wikidata

Fe'i crewyd yn gynnar yn y 19g ac mae heddiw'n cynnwys naw talaith ffederal (sef y Bundesländer), ac un ohonynt yw Fienna, prifddinas Awstria a'r ddinas fwyaf. Mae'r Almaen yn ffinio â'r gogledd-orllewin, y Weriniaeth Tsiec i'r gogledd, Slofacia i'r gogledd-ddwyrain, Hwngari i'r dwyrain, Slofenia a'r Eidal i'r de, a'r Swistir a Liechtenstein i'r gorllewin. Arwynebedd Awstria yw 83,879 km sg (32,386 mi sg) ac mae ganddi boblogaeth o o dros 8 miliwn o bobl. Er mai Almaeneg yw iaith swyddogol y wlad,[1] mae llawer o Awstriaid yn cyfathrebu'n anffurfiol mewn amrywiaeth o dafodieithoedd Bafaria.[2]

GeirdarddiadGolygu

Yr orgraff frodorol, heddiw, yw Österreich ('y parth dwyreiniol'); yr hen enw oedd Ostarrîchi. 'W-sty-aich' yw'r ynganiad ffonetig, brodorol:   ynganiad . Mae'r sillafiad Cymraeg, felly, - gyda'i 'Aw' yn hytrach nag 'O' - yn dilyn y sillafiad Seisnig o'r gair, a'r ynganiad Cymraeg, hefyd yn dilyn yr ynganiad Seisnig, yn hytrach na'r enw brodorol.[3] Mae'r sillafiad Cymraeg (Awstria) i'w ganfod yn gyntaf yn 1757.[4]

Ymddangosodd yn gyntaf mewn dogfen a elwir yn "Ostarrîchi document" yn 996.[5][6] Mae'n debyg bod y gair hwn yn gyfieithiad o Lladin Canoloesol Marchia orientalis i dafodiaith leol Bafaria. Roedd Awstria yn rhan o Bafaria a grëwyd ym 976. Lladiniad o'r enw Almaeneg yw'r gair "Awstria" ac fe'i cofnodwyd gyntaf yn y 12g.[7]

HanesGolygu

Daeth Awstria i'r amlwg i ddechrau fel tir mers (rhan o wlad ar y ffin) tua'r flwyddyn 976 a datblygodd yn ddugiaeth ac yna'n archddugiaeth. Yn yr 16g, dechreuodd Awstria wasanaethu fel calon Brenhiniaeth Habsburg (undeb o sawl gwlad / brenin) a changen iau teulu Habsburg - un o'r llinach frenhinol fwyaf dylanwadol Ewrop. Fel archddugiaeth, roedd yn brif gydran a chanolfan weinyddol yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Yn gynnar yn y 19g, sefydlodd Awstria ei hymerodraeth ei hun, a ddaeth yn bwer cryf ac yn flaenllaw oddi fewn i Gydffederasiwn yr Almaen, ond a ddilynodd ei chwrs ei hun yn annibynnol ar daleithiau eraill yr Almaen yn dilyn ei threchu yn Rhyfel Austro-Prwsia ym 1866. Yn 1867, mewn cyfaddawd â Hwngari, sefydlwyd Brenhiniaeth Ddeuol Awstria-Hwngari.

Bu Awstria'n rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf o dan yr Ymerawdwr Franz Joseph I yn dilyn llofruddiaeth yr Archddug Ferdinand, olynydd tybiedig gorsedd Austro-Hwngari. Ar ôl trechu a diddymu'r Frenhiniaeth, sefydlwyd Gweriniaeth yr Almaen-Awstria gyda'r bwriad o undeb â'r Almaen, ond nid oedd y Pwerau Cynghreiriol yn cefnogi'r wladwriaeth newydd ac pharhaodd heb heb ei chydnabod.

Yn 1919 daeth Gweriniaeth Gyntaf Awstria yn olynydd cyfreithiol Awstria. Ym 1938, unodd Adolf Hitler, (a anwyd yn Awstria), a ddaeth yn Ganghellor Reich yr Almaen, Awstria a'r Almaen drwy yr Anschluss (rhyw fath o ddeddf uno). Yn dilyn trechu'r Almaen Natsïaidd ym 1945 a chyfnod estynedig o feddiannaeth y Cynghreiriaid, ailsefydlwyd Awstria fel cenedl ddemocrataidd sofran a hunan-lywodraethol a elwir yr Ail Weriniaeth.

Democratiaeth gynrychioliadol seneddol yw Awstria gydag Arlywydd Ffederal wedi'i ethol yn uniongyrchol fel pennaeth y wladwriaeth a Changhellor fel pennaeth y llywodraeth ffederal.

Mae prif ardaloedd trefol Awstria yn cynnwys Fienna, Graz, Linz, Salzburg ac Innsbruck. Mae Awstria yn gyson yn yr 20 gwlad gyfoethocaf yn y byd yn ôl termau CMC y pen. Ceir yma safon byw uchel ac yn 2018 roedd yn yr 20fed safle yn y byd am ei Mynegai Datblygiad Dynol. Mae Fienna'n gyson ar y brig yn rhyngwladol ar ddangosyddion ansawdd bywyd.[8]

Datganodd yr Ail Weriniaeth ei niwtraliaeth parhaol mewn materion gwleidyddol tramor yn 1955. Mae Awstria wedi bod yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig er 1955 ac ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd ym 1995.[9][10] Mae'n gartref i'r OSCE ac OPEC ac mae'n aelod sefydlol o'r OECD ac Interpol. [11] Llofnododd Awstria Gytundeb Schengen hefyd ym 1995,[12] sy'n caniatáu symud o un wlad Ewropeaidd i'r llall heb wirio pasbortau, a mabwysiadodd yr ewro ym 1999.[13]

Cafodd y tir yng Nghanol Ewrop sydd bellach yn Awstria ei ymgartrefu gan amryw o lwythau Celtaidd, gan gynnwys y deyrnas Geltaidd Noricum. Yn ddiweddarach fe'i cymerwyd hi drosodd gan yr Ymerodraeth Rufeinig a'i gwneud yn dalaith. Roedd Petronell- Carnuntum heddiw yn nwyrain Awstria yn wersyll byddin pwysig a drodd yn brifddinas yn yr hyn a elwir yn dalaith Pannonia Uchaf. Roedd Carnuntum yn gartref i 50,000 o bobl am bron i 400 mlynedd.[14]

Canol oesoeddGolygu

Ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, goresgynnwyd yr ardal gan y Bafariaid Celtaidd, Slafiaid ac Avars.[15] Gorchfygodd Charlemagne, Brenin y Ffranciaid, yr ardal yn OC 788, gan annog gwladychu, a chyflwynodd Gristnogaeth.[15] Daeth yr ardaloedd craidd sydd bellach yn cwmpasu Awstria dan berchnogaeth y Teulu Babenberg. Gelwid yr ardal yn marchia Orientalis ('y ffin ddwyreiniol') ac fe'i rhoddwyd i Leopold o Babenberg ym 976.[16]

 
'Gwener Willendorf', 28,000 i 25,000 CC. Amgueddfa Hanes Naturiol Fienna

GwleidyddiaethGolygu

 
Adeilad Senedd Awstria yn Fienna

Mae Senedd Awstria wedi'i lleoli yn Fienna, prifddinas a dinas fwyaf poblog y wlad. Daeth Awstria'n weriniaeth ddemocrataidd gynrychioliadol ffederal trwy Gyfansoddiad Ffederal 1920. Mae system wleidyddol yr Ail Weriniaeth gyda'i naw talaith yn seiliedig ar gyfansoddiad 1920, a ddiwygiwyd ym 1929, ac a addaswyd ar 1 Mai 1945.[17]

Pennaeth y wladwriaeth yw'r Arlywydd Ffederal (Bundespräsident), sy'n cael ei ethol yn uniongyrchol trwy bleidlais. Pennaeth y Llywodraeth Ffederal yw'r Canghellor Ffederal (y Bundeskanzler), sy'n cael ei ddewis gan yr Arlywydd a'i dasg o ffurfio llywodraeth yn seiliedig ar gyfansoddiad pleidiol tŷ isaf y senedd.

Gellir diswyddo'r llywodraeth naill ai trwy archddyfarniad arlywyddol neu drwy bleidlais o ddiffyg hyder yn siambr isaf y senedd, sef y Nationalrat. Roedd pleidleisio dros yr Arlywydd Ffederal ac ar gyfer y Senedd yn arfer fod yn orfodol yn Awstria, ond diddymwyd hyn fesul cam rhwng 1982 a 2004.[18]

Mae senedd Awstria yn cynnwys dwy siambr. Mae cyfansoddiad y Nationalrat (183 sedd) yn cael ei bennu bob pum mlynedd (neu pryd bynnag y mae'r Nationalrat wedi'i ddiddymu gan yr arlywydd ffederal ar gynnig gan y canghellor ffederal, neu gan Nationalrat ei hun) gan etholiad cyffredinol lle mae pob dinesydd dros 16 oed â'r hawl i bleidleisio. Gostyngwyd yr oedran pleidleisio o 18 yn 2007; yng Nghymru, gostyngwyd yr oeddran o 18 i 16 yn 2021.

Cysylltiadau tramorGolygu

 
Senedd Ewrop : Awstria yw un o 27 aelod yr UE.

Daeth meddiant Gwladwriaeth Awstria i ben yn 1955, yn dilyn yr Ail Ryfel Byd a chydnabuwyd Awstria yn wladwriaeth annibynnol, sofran. Ar 26 Hydref 1955, pasiodd y Cynulliad Ffederal erthygl gyfansoddiadol lle mae "Awstria yn datgan o'i hewyllys rhydd ei hun ei niwtraliaeth barhaus." Nododd ail adran y gyfraith hon "ym mhob amser yn y dyfodol ni fydd Awstria'n ymuno ag unrhyw gynghreiriau milwrol ac ni fydd yn caniatáu sefydlu unrhyw ganolfannau milwrol tramor ar ei thiriogaeth." Ers hynny, mae Awstria wedi llunio ei pholisi tramor ar sail niwtraliaeth, a hwnnw ychydig yn wahanol i niwtraliaeth y Swistir.

Mae Lluoedd Arfog Awstria (Almaeneg: Bundesheer) yn dibynnu'n bennaf ar orfodaeth milwrol.[19] Mae'n rhaid i bob bachgen sydd wedi cyrraedd deunaw oed ac sy'n cael ei ystyried yn ffit wasanaethu yn y lluoedd arfog, yn orfodol am chwe mis, ac yna rhwymedigaeth i fod wrth gefn (reserves) am wyth mlynedd. Mae gwrywod a benywod yn un ar bymtheg oed yn gymwys i ymuno'n wirfoddol. [10] Mae gwrthwynebiad cydwybodol yn dderbyniol yn gyfreithiol ac mae'n ofynnol i'r rhai sy'n hawlio'r hawl hon wasanaethu yn y gwasanaeth sifil am gyfnod o naw mis. Ers 1998, caniatawyd i ferched sy'n gwirfoddoli ddod yn filwyr proffesiynol.

DaearyddiaethGolygu

 
Map topograffig o Awstria yn dangos dinasoedd gyda dros 100,000 o drigolion

Mae Awstria yn wlad fynyddig i raddau helaeth oherwydd ei lleoliad yn yr Alpau.[20] Mae Alpau'r Dwyrain Canol, Alpau Calchfaen y Gogledd ac Alpau Calchfaen Deheuol i gyd yn rhannol yn Awstria. Dim ond tua chwarter o dir Awstria y gellir ei ystyried yn dir isel, a dim ond 32% o'r wlad sydd o dan 500 metr (1,640 tr).

Gorwedd Awstria rhwng lledredau 46° a 49° G, a hydoedd 9° a 18° Dw.

Gellir ei rannu'n bum ardal, a'r mwyaf yw'r Alpau Dwyreiniol, sy'n cyfateb i 62% o gyfanswm arwynebedd y wlad. Mae godre Awstria ar waelod yr Alpau a'r Carpathiaid yn cyfrif am oddeutu 12% ac mae bryniau isel y dwyrain ac ardaloedd o amgylch cyrion gwlad isel Pannoni yn cyfateb i tua 12% o gyfanswm y wlad. Mae'r ail ardal fynyddig (ond llawer is na'r Alpau) yn y gogledd a chaiff ei adnabod fel llwyfandir gwenithfaen Awstria, ac mae'n 10% o arwynebedd Awstria. Mae cyfran Awstria o fasn Fienna yn ffurfio'r 4% sy'n weddill.

HinsawddGolygu

 
Map dosbarthu hinsawdd Köppen-Geiger ar gyfer Awstria [21]

Gorwedd y rhan fwyaf o Awstria yn y parth hinsawdd oer / tymherus, lle ceir gwyntoedd llaith, gorllewinol. Gyda bron i dri chwarter y wlad yn cael ei ddominyddu gan yr Alpau, mae'r hinsawdd alpaidd yn drech. Yn y dwyrain - yn y Gwastadedd Pannonaidd ac ar hyd dyffryn y Donaw - mae'r hinsawdd yn dangos nodweddion cyfandirol gyda llai o law na'r ardaloedd alpaidd. Er bod Awstria yn oer yn y gaeaf (−10 i 0 ° C), gall tymereddau haf fod yn gymharol uchel,[22] gyda thymheredd cyfartalog yng nghanol yr 20au a thymheredd uchaf o 40.5 °C (105 °F) yn Awst 2013.[23]

EconomiGolygu

 
Canolfan Ryngwladol Fienna gyda Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig yn Fienna a Thŵr DC 1

Mae Awstria yn gyson yn uchel o ran CMC y pen,[24] oherwydd ei heconomi ddiwydiannol iawn, yn ogystal a'i heconomi marchnad gymdeithasol ddatblygedig. Hyd at yr 1980au, roedd llawer o gwmnïau diwydiant mwyaf Awstria wedi'u gwladoli ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae preifateiddio wedi lleihau daliadau’r wladwriaeth i lefel y gellir ei chymharu ag economïau eraill Ewrop. Mae mudiadau llafur yn arbennig o ddylanwadol, gan ddylanwadu'n fawr ar wleidyddiaeth llafur a phenderfyniadau sy'n ymwneud ag ehangu'r economi. Wrth ymyl diwydiant datblygedig iawn, twristiaeth ryngwladol yw rhan bwysicaf economi Awstria.

Yn hanesyddol bu'r Almaen yn brif bartner masnachu Awstria, gan ei gwneud hi'n agored i newidiadau cyflym yn economi'r Almaen. Ers i Awstria ddod yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd, mae wedi ennill cysylltiadau agosach ag economïau eraill yr UE, gan leihau ei dibyniaeth economaidd ar yr Almaen. Yn ogystal, mae aelodaeth o’r UE wedi denu mewnlifiad o fuddsoddwyr tramor a ddenwyd gan fynediad Awstria i’r farchnad Ewropeaidd sengl ac agosrwydd at ddarpar economïau’r Undeb Ewropeaidd. Cynyddodd y twf mewn CMC 3.3% yn 2006. Daw o leiaf 67% o fewnforion Awstria o aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd.[25] Yn wahanol i Gymru, mae gan Awstria reolaeth lawn o'i harian, a'r penderfyniadau economaidd yn sgil hynny, ble mae Cymru, ar y llaw arall, yn cael ei rheoli i raddau helaeth gan benderfyniadau gwleidyddol San Steffan, Llundain.

 
Mae Awstria yn rhan o undeb ariannol, ardal yr ewro (glas tywyll), ac o farchnad sengl yr UE.

Mae twristiaeth yn Awstria yn cyfrif am bron i 9% o'i chynnyrch mewnwladol crynswth.[26] Yn 2007, roedd Awstria yn 9fed ledled y byd mewn derbyniadau twristiaeth rhyngwladol, gyda 18.9 biliwn yn UD $.[27] O ran ymwelwyr, roedd Awstria yn 12fed gyda 20.8 miliwn o dwristiaid. [27]

Seilwaith ac adnoddau naturiolGolygu

 
Argae Kölnbrein yn Carinthia

Ym 1972, dechreuodd y wlad adeiladu gorsaf cynhyrchu trydan niwclear yn Zwentendorf ar Afon Donaw, yn dilyn pleidlais unfrydol yn y senedd. Fodd bynnag, ym 1978, pleidleisiodd refferendwm oddeutu 50.5% yn erbyn ynni niwclear, 49.5% o blaid,[28] ac yn dilyn hynny pasiodd y senedd gyfraith yn unfrydol yn gwahardd defnyddio pŵer niwclear i gynhyrchu trydan er bod yr orsaf ynni niwclear eisoes wedi'i gorffen.

Ar hyn o bryd mae Awstria yn cynhyrchu mwy na hanner ei thrydan gan ynni dŵr.[29] Ynghyd â ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill fel egni gwynt, solar a biomas, mae'r cyflenwad trydan o ynni adnewyddadwy yn dod i 62.89% [30] o gyfanswm y defnydd yn Awstria, gyda'r gweddill yn cael ei gynhyrchu gan weithfeydd pŵer nwy ac olew.

AddysgGolygu

 
Stiftsgymnasium Melk, ysgol Gatholig, yw'r ysgol hynaf yn Awstria, ac sy'n olrhain ei gwreiddiau yn y 12g.

Rheolir addysg yn Awstria yn bennaf gan y taleithiau (y Bundesländer) ac yn rhannol gan y llywodraeth ffederal. Mae presenoldeb mewn ysgol yn orfodol i blant am naw mlynedd, hy fel arfer rhwng 6 a 15 oed.

Darperir addysg cyn-ysgol (o'r enw Kindergarten yn Almaeneg), am ddim yn y mwyafrif o daleithiau, ar gyfer pob plentyn rhwng tair a chwe blwydd oed, ac er ei fod yn ddewisol, fe'i hystyrir yn rhan arferol o addysg plentyn. Uchafswm maint y dosbarth yw tua 30, gyda phob dosbarth fel arfer yn derbyn gofal gan un athro cymwys ac un cynorthwyydd.

Mae addysg gynradd, neu <i>Volksschule</i>, yn para am bedair blynedd, gan ddechrau yn chwech oed. Disgwylir yn gyffredinol y bydd dosbarth yn cael ei ddysgu gan un athro am y pedair blynedd gyfan ac ystyrir bod y cwlwm sefydlog rhwng yr athro a'r disgybl yn bwysig ar gyfer lles y plentyn. Mae'r hanfodion (sef darllen, sgwennu a mathemateg) yn dominyddu'r gwersi, gyda llai o amser yn cael ei neilltuo i waith prosiect nag yn y DU. Mae plant yn gweithio'n unigol ac mae pob aelod yn dilyn yr un cynllun gwaith. Nid oes ffrydio .

Yr amseroedd presenoldeb safonol yw rhwng 8 am ac 1 pm, gydag egwyliau pum munud neu ddeg munud yr awr. Rhoddir gwaith cartref i blant yn ddyddiol o'r flwyddyn gyntaf. Yn hanesyddol, ni fu unrhyw awr ginio, gyda phlant yn dychwelyd adref i gael cinio. Fodd bynnag, oherwydd cynnydd yn nifer y mamau mewn gwaith, mae ysgolion cynradd yn cynnig gofal cyn gwers a phrynhawn yn amlach.

Fel yn yr Almaen, mae addysg uwchradd yn cynnwys dau brif fath o ysgol, y mae eu presenoldeb yn seiliedig ar allu disgybl fel y'i pennir gan yr ysgol gynradd. Mae'r Gymnasiwm yn darparu ar gyfer y plant mwyaf galluog, yn y flwyddyn olaf y bydd yr arholiad Matura yn cael ei sefyll, sy'n angenrheidiol i gael mynediad i'r brifysgol.

Mae'r Hauptschule yn paratoi disgyblion ar gyfer addysg alwedigaethol ond hefyd ar gyfer gwahanol fathau o addysg bellach (Höhere Technische Lehranstalt HTL = sefydliad addysg dechnegol uwch; HAK = academi fasnachol; HBLA = sefydliad addysg uwch ar gyfer busnes economaidd; ac ati). Mae presenoldeb yn un o'r sefydliadau addysg bellach hyn hefyd yn arwain at y Matura. Nod rhai ysgolion yw cyfuno'r addysg sydd ar gael yn y Gymnasium a'r Hauptschule, ac fe'u gelwir yn Gesamtschulen. Yn ogystal, mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd dysgu Saesneg wedi arwain at rai Gymnasiums i gynnig ffrwd ddwyieithog, lle mae disgyblion y bernir eu bod rhugl mewn ieithoedd yn dilyn cwricwlwm wedi'i addasu, gyda chyfran o amser y wers yn cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

DiwylliantGolygu

CerddoriaethGolygu

Cynhyrchodd y tir a elwir heddiw'n "Awstria" wahanol fathau o gelf, yn fwyaf arbennig cerddoriaeth. Awstria oedd man geni llawer o gyfansoddwyr enwog fel Joseph Haydn, Michael Haydn, Franz Liszt, Franz Schubert, Anton Bruckner, Johann Strauss, Sr a Johann Strauss, Jr yn ogystal ag aelodau o'r Ail Ysgol Fiennese fel Arnold Schoenberg, Anton Webern ac Alban Berg. Ganwyd Wolfgang Amadeus Mozart yn Salzburg, a threuliodd lawer o'i yrfa yn Fienna.

 
Opera Talaith Fienna

Daeth bri ar statws Fienna fel canolfan ddiwylliannol yn y 16g gynnar; yr adeg yma, roedd y ddinas yn canolbwyntio ar greu offerynnau, gan gynnwys y liwt. Treuliodd Ludwig van Beethoven ran helaeth o'i fywyd yn Fienna. Dewiswyd anthem genedlaethol gyfredol Awstria, a briodolir i Mozart, ar ôl yr Ail Ryfel Byd i ddisodli anthem draddodiadol Awstria gan Joseph Haydn.

Roedd Herbert von Karajan o Awstria yn brif arweinydd Ffilharmonig Berlin am 35 mlynedd. Fe'i hystyrir gan lawer yn un o arweinwyr cerddorfaol mwyaf yr 20g, ac roedd yn ffigwr blaenllaw mewn cerddoriaeth glasurol Ewropeaidd o'r 1960au hyd ei farwolaeth.[31]

Celf a phensaernïaethGolygu

 
Palas Belvedere, enghraifft o bensaernïaeth Baróc

Ymhlith Artistiaid a phenseiri Awstria ceir y peintwyr Ferdinand Georg Waldmüller, Rudolf von Alt, Hans Makart, Gustav Klimt, Oskar Kokoschka, Egon Schiele, Carl Moll, a Friedensreich Hundertwasser, y ffotograffwyr Inge Morath ac Ernst Haas, a phenseiri fel Johann Bernhard. Fischer von Erlach, Otto Wagner, Adolf Loos, a Hans Hollein (derbynnydd Gwobr Pensaernïaeth Pritzker 1985). Mae'r artist cyfoes Herbert Brandl hefyd yn nodedig iawn.

Sinema a theatrGolygu

 
Arnold Schwarzenegger yr actor adnabyddus a anwyd yn Thal, Styria, Awstria

Roedd Sascha Kolowrat yn arloeswr ym maes gwneud ffilmiau. Daeth Billy Wilder, Fritz Lang, Josef von Sternberg, a Fred Zinnemann yn wreiddiol o Ymerodraeth Awstria cyn sefydlu eu hunain fel gwneuthurwyr ffilm yn rhyngwladol. Cyfoethogodd Willi Forst, Ernst Marischka, a Franz Antel y sinema boblogaidd mewn gwledydd Almaeneg eu hiaith. Daeth Michael Haneke yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei astudiaethau sinematig gan dderbyn Golden Globe am ei ffilm The White Ribbon (2010).

Gwyddoniaeth ac athroniaethGolygu

Roedd Awstria'n fagwrfa i nifer o wyddonwyr nodedig. Yn eu plith mae Ludwig Boltzmann, Ernst Mach, Victor Franz Hess a Christian Doppler, gwyddonwyr amlwg yn y 19g. Yn yr 20g, roedd cyfraniadau gan Lise Meitner, Erwin Schrödinger a Wolfgang Pauli i ymchwil niwclear a mecaneg cwantwm yn allweddol i ddatblygiad y meysydd hyn yn ystod y 1920au a'r 1930au. Ffisegydd cwantwm cyfoes yw Anton Zeilinger, a nodwyd fel y gwyddonydd cyntaf i arddangos teleportio cwantwm.

Yn ogystal â ffisegwyr, Awstria oedd man geni dau o athronwyr mwyaf nodedig yr 20g, Ludwig Wittgenstein a Karl Popper. Yn ogystal â nhw, roedd y biolegwyr Gregor Mendel a Konrad Lorenz yn ogystal â'r mathemategydd Kurt Gödel a pheirianwyr fel Ferdinand Porsche a Siegfried Marcus yn Awstriaid.

LlenyddiaethGolygu

Fel Cymru, mae Awstria wastad wedi bod yn wlad o feirdd, awduron a nofelwyr. Roedd yn gartref i'r nofelwyr Arthur Schnitzler, Stefan Zweig, Thomas Bernhard, a Robert Musil, o'r beirdd Georg Trakl, Franz Werfel, Franz Grillparzer, Rainer Maria Rilke, Adalbert Stifter, Karl Kraus a'r awdur plant Eva Ibbotson.

Ymhlith y dramodwyr a nofelwyr cyfoes nodedig y mae: Elfriede Jelinek, enillydd gwobr Nobel , Peter Handke a Daniel Kehlmann.

Taleithiau (Bundesländer) gyda'i prifddinasoeddGolygu

  Prif erthygl: Taleithiau Awstria
 
  1. Fienna (Wien) - Fienna
  2. Burgenland - Eisenstadt
  3. Carinthia (Kärnten) - Klagenfurt
  4. Salzburg - Salzburg
  5. Awstria Isaf (Niederösterreich) - Sankt Pölten
  6. Styria (Steiermark) - Graz
  7. Tirol - Innsbruck
  8. Vorarlberg - Bregenz
  9. Awstria Uchaf (Oberösterreich) - Linz

CyfeiriadauGolygu

  1. "Austria". Encyclopædia Britannica. 31 May 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 April 2009. Cyrchwyd 31 May 2009.
  2. "Die Bevölkerung nach Umgangssprache, Staatsangehörigkeit und Geburtsland" (PDF). Statistik Austria. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 November 2010. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2010.
  3. Gw. erthygl Ostria gan Owain Owain yn Barn, 1970; ailgyhoeddwyd yn Bara Brith (Gwasg Gomer 1975).
  4. [https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html eiriadur.ac.uk; GPG; gol. Andrew Hawke. Adalwyd 6 Ebrill 2021.
  5. "University of Klagenfurt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2011. Cyrchwyd 2 Hydref 2009.
  6. Bischof, Günter; Pelinka, Anton, gol. (1997). Austrian Historical Memory and National Identity. New Brunswick: Transaction Publishers. tt. 20–21. ISBN 978-1-56000-902-3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2018. Cyrchwyd 14 Mehefin 2018.
  7. Brauneder, Wilhelm (2009). Österreichische Verfassungsgeschichte (arg. 11th). Vienna: Manzsche Verlags- und Universitätsbuchhandlung. t. 17. ISBN 978-3-214-14876-8.
  8. "Lebensqualität - Wien ist und bleibt Nummer eins". Stadt Wein (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2019-10-23.
  9. Jelavich 267
  10. 10.0 10.1 "Austria". The World Factbook. Central Intelligence Agency. 14 May 2009. Cyrchwyd 31 May 2009.
  11. "Austria About". OECD. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 May 2009. Cyrchwyd 20 May 2009.
  12. "Austria joins Schengen". Migration News. May 1995. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 July 2009. Cyrchwyd 30 May 2009.
  13. "Austria and the euro". European Commission - European Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 January 2018. Cyrchwyd 7 January 2018.
  14. "Rome's metropolis on the Danube awakens to new life". Archäologischer Park Carnuntum. Archäologische Kulturpark Niederösterreich Betriebsgesellschaft m.b.H. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 January 2010. Cyrchwyd 20 February 2010.
  15. 15.0 15.1 Johnson 19
  16. Johnson 20–21
  17. Lonnie Johnson 17, 142
  18. "Bundesministerium für Inneres – Elections Compulsory voting". Bmi.gv.at. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2007. Cyrchwyd 3 January 2009.
  19. Prodhan, Georgina (20 January 2013). "Neutral Austria votes to keep military draft". Reuters. Cyrchwyd 4 February 2021.
  20. "Alps". Encyclopædia Britannica. Encyclopædia Britannica Online. 11 June 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 June 2009. Cyrchwyd 12 June 2009.
  21. Beck, Hylke E.; Zimmermann, Niklaus E.; McVicar, Tim R.; Vergopolan, Noemi; Berg, Alexis; Wood, Eric F. (30 October 2018). "Present and future Köppen-Geiger climate classification maps at 1-km resolution". Scientific Data 5: 180214. Bibcode 2018NatSD...580214B. doi:10.1038/sdata.2018.214. PMC 6207062. PMID 30375988. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6207062.
  22. "Average Conditions, Vienna, Austria". British Broadcasting Corporation. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 December 2010. Cyrchwyd 24 May 2009.
  23. "Austrian Meteorological Institute". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 August 2012. Cyrchwyd 12 August 2012.
  24. "Austria". International Monetary Fund. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 November 2012. Cyrchwyd 17 April 2012.
  25. "OEC – Austria (AUT) Exports, Imports, and Trade Partners". atlas.media.mit.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 March 2016. Cyrchwyd 12 March 2016.
  26. "TOURISMUS IN ÖSTERREICH 2007" (PDF) (yn Almaeneg). BMWA, WKO, Statistik Austria. May 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 December 2008. Cyrchwyd 18 November 2008.
  27. 27.0 27.1 "UNTWO World Tourism Barometer, Vol.6 No.2" (PDF). UNTWO. June 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 31 October 2008. Cyrchwyd 18 November 2008.
  28. Lonnie Johnson 168–9
  29. "Austria Renewable Energy Fact Sheet" (PDF). Europe's Energy Portal. 23 January 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 20 June 2009. Cyrchwyd 20 May 2009.
  30. "Renewable energy in Europe". Eurobserv'er. Europe's Energy Portal. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 May 2009. Cyrchwyd 20 May 2009.
  31. Rockwell, John (17 July 1989). "Herbert von Karajan Is Dead; Musical Perfectionist was 81". The New York Times. tt. A1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 July 2018. Cyrchwyd 27 July 2018.
Chwiliwch am Awstria
yn Wiciadur.