220 CC
blwyddyn
4g CC - 3g CC - 2g CC
260au CC 250au CC 240au CC 230au CC 220au CC - 210au CC - 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 170au CC
225 CC 224 CC 223 CC 222 CC 221 CC - 220 CC - 219 CC 218 CC 217 CC 216 CC 215 CC
Digwyddiadau
golygu- Demetrius o Pharos a Scerdilaidas yn ymosod ar y dinasoedd yn Illyria sydd mewn cynghrair a Gweriniaeth Rhufain. Mae Rhufain yn gyrru byddin sy'n gorfodi Demetrius i ffoi at Philip V, brenin Macedon.
- Aratus o Sicyon, dan fygythiad gan Gynghrair Aetolia, yn cael cymorth y Cynghrair Hellenaidd dan arweiniad Philip V, brenin Macedon. Mae Philip yn arwain y Cynghrair mewn brwydrau yn erbyn Aetolia, Sparta ac Elis.
- Gyda Molon yn cymryd meddiant ar ran helaeth o'r Ymerodraeth Seleucaidd ac yn ei alw ei hun yn frenin, mae Antiochus III yn rhoi'r gorau i'w ymgyrch yn ne Syria i ddelio ag ef. Mewn brwydr ar lan Afon Tigris mae'n gorchfygu a lladd Molon a'i frawd Alexander.
- Achaeus, cadfridog Antiochus III yn Anatolia, yn cael ei gyhuddo gan Hermeias, prif weinidog Antiochus, o fwriadu gwrthryfela. I'w amddiffyn ei hun, mae Achaeus yn ei gyhoeddi ei hun yn frenin.
- Adeiladu'r Via Flaminia o Rufain i Ariminum (Rimini) gan y censor Gaius Flaminius.
Genedigaethau
golyguMarwolaethau
golygu- Conon o Samos, mathemategydd a seryddwr Groegaidd
- Molon, cadfridog Seleucaidd