Rimini
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Rimini, sy'n brifddinas talaith Rimini yn rhanbarth Emilia-Romagna. Fe'i lleollir ar arfordir Môr Adria. Mae ganddi oddeutu 15 km o draeth tywodlyd, ac felly mae un o'r cyrchfannau glan môr mwyaf yn Ewrop.
Math | cymuned, dinas, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid, dinas-wladwriaeth Eidalaidd |
---|---|
Poblogaeth | 149,211 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Andrea Gnassi |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Dinas Jibwti, Latakia, Beit Sahour, Fenis, Yangzhou, Saint-Maur-des-Fossés, Seraing, Sochi, Ziguinchor, Fort Lauderdale |
Nawddsant | Gaudentius o Rimini |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Rimini |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 135.71 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Gerllaw | Marecchia |
Yn ffinio gyda | Bellaria-Igea Marina, Coriano, Riccione, Santarcangelo di Romagna, Verucchio, San Mauro Pascoli, Serravalle, Talaith Forlì-Cesena |
Cyfesurynnau | 44.0594°N 12.5683°E |
Cod post | 47921–47924 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrea Gnassi |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 139,601.[1]
Hanes
golyguMae pobl wedi byw yn y safle a'i gyffiniau ers y cynoesoedd. Roedd Rimini yn borthladd Etrwsgaidd,[2] a elwid yn "Arimna", cyn cael ei ddominyddu gan y Celtiaid yn 390 CC, yna gan y Rhufeiniaid fel "Ariminum" yn 268 CC.
Roedd ganddo hanes cythryblus ar ôl cwymp Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewinol, hyd y 13g pan ddaeth i rym tywysogion Malatesta a'i cadwodd hyd 1528, pan ddaeth i rym y pabau. Yn y 19g daeth Rimini yn ganolbwynt yn achos undod Eidalaidd.
Roedd yn darged brwydrau a bomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner yr 20g daeth yn un o'r cyrchfannau glan môr enwocaf yn yr Eidal ac yn ganolfan gyngres bwysig.
Adeiladau a chofadeiladau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 10 Tachwedd 2022
- ↑ The Etruscan World (yn Saesneg). Taylor & Francis. 2014. t. 299. ISBN 9781134055234.
- ↑ Anna Graziosi Ripa, Per la storia del Museo Archeologico riminese, yn: Analisi di Rimini Antica, Rimini, Comune di Rimini, 1980, p. 317.
- ↑ "Biblioteca Gambalunga" (yn Eidaleg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
- ↑ Corrado Ricci, Il Tempio Malatestiano (Milan) 1924