42 (Yr Ateb i Fywyd, y Bydysawd a Phopeth)

42 yw'r Ateb Terfynol i Gwestiwn Bywyd, y Bydysawd, a Phopeth yn ôl llyfrau The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Cafodd ei chyfrifiannu gan Deep Thought, y cyfrifiadur ail fwyaf erioed[1]. Mae disgynyddion creawdwyr Deep Thought yn cael eu siomi gan natur rhifol yr ateb, dim yn deall beth i'w wneud gyda'r ateb na beth i'w ddweud wrth y bobl oedd wedi comisiynu'r prosiect a barodd am 7.5 miliwn blwyddyn.[2]

42
Math o gyfrwngMemyn, answer Edit this on Wikidata
CrëwrDouglas Adams Edit this on Wikidata
Rhan ophrases from "The Hitchhiker's Guide to the Galaxy" Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Ateb i Fywyd, y Bydysawd a Phopeth

O gael ei ofyn i gynhyrchu'r cwestiwn terfynol i fynd gyda'r ateb "42", mae Deep Thought yn cyfaddef nad yw'n gallu cyfrifiannu hynny ei hun, ond y gall helpu i ddylunio cyfrifiadur sydd hyd yn oed yn fwy pwerus, gyda'r gallu i greu'r cwestiwn. Bydd y cyfrifiadur newydd yn ymgorffori bodau byw yn y "matrics cyfrifiadurol" a bydd yn rhedeg am ddeng miliwn o flynyddoedd. Dyma blaned y Ddaear.[3]

Yn ASCII (safon amgodio cymeriad ar gyfer cyfathrebu electronig) mae 42 yn creu'r symbol * (seren). Symbol sy'n gallu golygu "Unrhyw beth" neu "Ddim byd".

Cyfeiriadau

golygu
  1. Adams, Douglas (1981). The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Pocket. ISBN 978-0-671-46149-2.
  2. Adams, Douglas (1981). The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Pocket. t. 3. ISBN 978-0-671-46149-2.
  3. Douglas Adams (1980). Life, the Universe and Everything. ISBN 978-0-345-39181-0.