43 CC
blwyddyn
2g CC - 1g CC - 1g
90au CC 80au CC 70au CC 60au CC 50au CC - 40au CC - 30au CC 20au CC 10au CC 0au CC 0au
48 CC 47 CC 46 CC 45 CC 44 CC - 43 CC - 42 CC 41 CC 40 CC 39 CC 38 CC
Digwyddiadau
golygu- 14 Ebrill — Brwydr Forum Gallorum: Marcus Antonius, yn gwarchae ar Decimus Brutus, un o lofruddion Iŵl Cesar, yn Mutina, yn gorchfygu byddin y conswl Gaius Vibius Pansa Caetronianus, gan ladd Pansa. Yn fuan wedyn caiff Antonius ei orchfygu gan y conswl arall, Hirtius, ond clwyfir Hirtius yn angheuol yn y frwydr. Mae ei milwyr yn dod dan reolaeth Octavianus.
- 21 Ebrill — Brwydr Mutina: gorchfygir Marcus Antonius gan fyddin Octavianus, Decimus Brutus a'r ddau gonswl. Mae Antonius i encilio i Gallia Transalpina. Yn fyan wedyn, lleddir Decimus Brutus.
- 24 Tachwedd — Octavianus, Antonius a Lepidus yn cyfarfod yn Bononia, ac yn cytuno i gydweithredu am bum mlynedd.
- Sefydlu Lugdunum (Lyon heddiw).
Genedigaethau
golygu- March 20 — Publius Ovidius Naso (Ofydd), bardd Rhufeinig (bu farw 17/18)
Marwolaethau
golygu- 7 Rhagfyr — Cicero, gwleidydd ac awdur Rhufenig (g. 106 CC)
- Atia Balba Caesonia, nith Iŵl Cesar a mam Augustus (g. 85 CC)
- Decimus Brutus, gwleidydd Rhufenig, un o lofruddion Iŵl Cesar.
- Publius Cornelius Dolabella, conswl suffect wedi llofruddiaeth Iŵl Cesar.
- Trebonius, gwleidydd Rhufenig, un o lofruddion Iŵl Cesar (lladdwyd gan Publius Cornelius Dolabella).