Augustus
Augustus (Lladin IMP•CAESAR•DIVI•F•AVGVSTVS 23 Medi 63 CC–19 Awst 14 OC) oedd Ymerawdwr cyntaf Rhufain. Ganwyd Gaius Octavianus, a elwir hefyd Octavian. Bu'n ymeradwr o 16 Ionawr 27 CC hyd ei farwolaeth. Ni ddefnyddiai Augustus y gair "Imperator", gan ddewis ei alw ei hun yn Princeps.
Augustus | |
---|---|
Ganwyd | C. Octavius C.f. 23 Medi 63 CC Rhufain |
Bu farw | 19 Awst 0014 Nola |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig, ymerawdwr Rhufain |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, pontifex maximus, Censor, tribune, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, triumvir rei publicae constituendae, moneyer |
Tad | Gaius Octavius, Iŵl Cesar |
Mam | Atia |
Priod | Claudia, Scribonia, Livia |
Partner | Salvia Titisenia, Sarmentus |
Plant | Iulia Maior, Gaius Caesar, Lucius Caesar, Tiberius, Agrippa Postumus |
Perthnasau | Iŵl Cesar, Julia Minor, Marcellus, Nero Claudius Drusus, Tiberius, Cornelia |
Llinach | Julio-Claudian dynasty, Julii Caesares, Octavii Rufi |
Ganed ef yn Rhufain neu Velletri ar 23 Medi, 63 CC. Bu farw ei dad yn 58 CC pan oedd Augustus yn bedair oed. Roedd yn berthynas i Iŵl Cesar ac yn 46 CC gwasanaethodd yn y fyddin dan Cesar yn Hispania (Sbaen).
Wedi i Cesar gael ei lofruddio yn 44 CC, datgelwyd yn ei ewyllys ei fod wedi nodi Octavius fel ei etifedd. Cymerodd Octavius yr enw Gaius Julius Caesar. Ymunodd mewn cynghrair a Marcus Antonius a Marcus Aemilius Lepidus a chodwyd byddin i wrthwynebu y blaid oedd wedi llofruddio Cesar, oedd yn cael ei harwain gan Marcus Junius Brutus a Gaius Cassius. Wedi gorchfygu Brutus a Cassius ym Mrwydr Philippi, datblygodd cweryl rhwng Octavius a Marcus Antonius, oedd yn cael ei gefnogi gan Cleopatra, brenhines yr Aifft. Gorchfygwyd Antonius a Cleopatra ym Mrwydr Actium, a daeth Octavius yn unig reolwr yr ymerodraeth.
Cymerodd yr enw "Augustus" a'r teitl "Princeps". Dangosodd allu gwleidyddol anghyffredin i gadarnhau ei safle tra'n cadw llawer o nodweddion y cyfnod gweriniaethol, megis y Senedd. I bob golwg, y Senedd oedd yn rheoli Rhufain, ond mewn gwirionedd gan Augustus yr oedd y grym. Cymerodd rai blynyddoedd i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli'r ymerodraeth. Ni dderbyniodd swydd dictator fel Iŵl Cesar pan gynigiwyd hi iddo gan bobl Rhufain. Rhoddodd y Senedd hawliau tribwn y bobl a censor iddo am oes, a bu'n gonswl hyd 23 OC. Yn rhannol, deilliai ei rym o'r ffaith mai ef oedd a rheolaeth dros y fyddin, ond deilliai hefyd o'i auctoritas (awdurdod) ef ei hun.
Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, y Pax Romana ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn 69 OC, parhaodd hwn am dros ddwy ganrif.
Bu Augustus farw ar 19 Awst 14 OC, a dilynwyd ef gan Tiberius. Cafodd mis Awst ei enwi ar ei ôl.
Rhagflaenydd: – |
Ymerawdwr Rhufain 16 Ionawr 27 CC – 19 Awst 14 OC |
Olynydd: Tiberius |