4 Vesta
asteroid
Mae Vesta (symbol: ) yn asteroid yn cylchu'r Haul rhwng y planedau Mawrth ac Iau. Vesta yw'r pedwarydd asteroid i gael ei ddarganfod, ar ôl 1 Ceres (erbyn hyn mae Ceres wedi ei ail-gategoreiddio fel planed gorrach), 2 Pallas, a 3 Juno. Darganfyddwyd Vesta gan y seryddwr Heinrich Wilhelm Olbers ar 29 Mawrth 1807. Wnaeth y chwiliedydd gofod Dawn, a lansiwyd gan NASA yn 2007, gyrraedd yr asteroid yn Gorffennaf 2011. Bydd yn treulio'r flwyddyn ganlynol yn gwneud mesuriadau gwyddonol cyn mynd ymlaen i ymweld â Ceres yn 2015.
![]() 4 Vesta o'r cerbyd ofod Dawn ar 9 Gorffennaf, 2011 | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | asteroid ![]() |
Màs | 2,590.76 ±0.01 ![]() |
Dyddiad darganfod | 29 Mawrth 1807 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | 3 Juno ![]() |
Olynwyd gan | 5 Astraea ![]() |
Hyd | 572.6 ±0.2 cilometr ![]() |
Echreiddiad orbital | 0.089066737740175 ±1e-08 ![]() |
Radiws | 262.7 ±0.1 cilometr ![]() |
![]() |