Agor y brif ddewislen

Wicipedia β

31 Awst, 2012: tafod o dân yn chwythu allan o'r haul 900 milltir yr eiliad. Llun gan NASA.

Yr Haul yw'r seren agosaf at y Ddaear a chanolbwynt Cysawd yr Haul.

Mae'r Haul rhyw 4,000,000,000 o flynyddoedd oed ac mae tua hanner ffordd trwy ei oes. Mae diamedr yr Haul tua 865,000 milltir (1,400,000 km), ac mae tua 93,000,000 o filltiroedd (tua 150,000,000 km) o'r Ddaear (+/- 1,500,000 milltir / 2,400,000 km trwy'r flwyddyn). Mae'n pwyso tua 330,000 gwaith yn fwy na phwysau'r ddaear. Mae'n llosgi drwy ymasiad niwclear sef proses sy'n asio niwclei hydrogen yn ei gilydd gan ei droi'n heliwm.

Yr haul yw ffynhonnell gwres a golau planedau cysawd yr haul. Credir fod tymheredd yr haul yn cyrraedd hyd at 15 miliwn gradd Canradd yn y canol a thymheredd yr wyneb optic tua 5,505 gradd Canradd.

Cynnwys

GeirdarddiadGolygu

Mae enw'r Haul yn dod o'r gair Brythoneg tybiedig *sāul, sydd yn ei dro yn deillio o'r un gwreiddyn Indo-Ewropeaidd â'r gair Groeg Helios (ἑλιος), a'r gair Lladin Sol.[1] Y gair cyfatebol yn Llydaweg yw heol (Hen Lydaweg: houl).[1] Ym mytholeg Roeg, duw'r haul oedd Helios, a Sol oedd enw'r un duw ym mytholeg y Rhufeiniaid. Yr enw Celtaidd ar dduw'r goleuni oedd Lleu, fel a geir yn y geiriau lleuad a goleu (golau).

 
Yr Haul mewn golau uwchfioled. (Delwedd: NASA)

Ffenomenau'r HaulGolygu

Brycheuyn haulGolygu

(gweler:Brycheuyn haul)

Ffenomena dros dro yn ardal ffotosffer yr haul sy'n ymddangos yn weladwy fel smotiau tywyll i'w gymharu efo'r ardaloedd o amgylch.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol I, tud. 1826.


Planedau yng Nghysawd yr Haul


Chwiliwch am haul
yn Wiciadur.