Band roc Cymreig oedd 60 Ft. Dolls, a oedd yn weithgar yn ystod yr 1990au.[1]

Sefydlwyd y band yng Nghasnewydd ym 1992 gan Richard J. Parfitt a Michael Cole, a gyfarfodd trwy Donna Matthews (cyn-aelod o Elastica),[2] a oedd yn caru gyda Cole ac yn gweithio'n rhan amser mewn caffi pizza gyda Parfitt ar y pryd.[3] Ar ôl cael problemau'n ffeindio'r drymiwr cywir ar gyfer y band, ymunodd mab gweinidog, Carl Bevan, i gymryd y rôl.[4] Dylanwadwyd y band yn wreiddiol gan fandiau roc craidd caled Americanaidd a oedd yn chwarae yng Nghasnewydd (yn arbennig yng nghlwb T. J.'s),[5] redd y Dolls yn chwarae roc swnllyd ond alawol, a disgrifwyd gan NME fel "grunge mod...proto-pub metal blues of the first order".[6] Yn 1993, daeth Huw Williams o fand y Pooh Sticks yn reolwr arnynt[7] a rhyddhawyd eu sengl cyntaf, "Happy Shopper", wedi ei enwi ar ôl cadwyn o siopau Prydeinig, ar label recordio Townhill.[8]

Ar ôl cefnogi bandiau megis Oasis, Elastica a Dinosaur Jr., rhyddhaodd 60 Ft. Dolls eu ail sengl "White Knuckle Ride" ar Rough Trade Records ac yn ddiweddarach "Pig Valentine" ar RCA, imprint o Indolent Records. Hybwyd y senglau cynnar rhain llawer gan DJ BBC Radio 1, Steve Lamacq, ac yn dilyn hyn, clywodd y DJ Americanaidd dylanwadol, Rodney Bingenheimer o'r KROQ, am y band. Fel canlyniad o hyn, arwyddodd y band gytundeb gyda Geffen Records yn yr Unol Daleithiau. Rhestrodd y New York Times eu sengl "Pig Valentine" ymysg eu rhestr o senglau gorau'r flwyddyn yn 1996.[9] Fe aeth y band i restr 40 uchaf y siartiau Prydeinig gyda'u trydydd sengl, "Talk to Me" (Indolent, 1996). Dilynwyd hyn gan eu albwm cyntaf, The Big 3, a ddisgrifwyd fel "mor agos a phosib i berffeithrwydd roc esgyniol a sy'n bosib ei ddychmygu" gan yr NME[10] a "roc a rol hedonistaidd, bwriadol, brwd, soniarus, emosiynol, di-lol, digymysg, pur" [11] gan Melody Maker. Cafodd yr albwm ei gynnwys yn erthygl ôl-syllol Mojo' yn 2003, "Top 12 Britpop albums of the 90s", a'i disgrifiodd fel "dogfen diawledig o alwadol o'r cyfnod".[12]

Bu'r band ar deithiau eang ym Mhrydain, Japan ac Ewrop, ac ymddangos mewn sawl gŵyl ac agor sioe ar gyfer y The Sex Pistols yn eu gig ail-uno yn Finsbury Park yn 1996.[13] Ond roeddent yn cael eu trafferthu gan broblemau gyda alcohol, ac ar ôl tair taith blinedig o'r Unol Daleithiau yn 1997, aethont fyth ar daith eto.[14] Rhyddhawyd eu ail albwm, Joya Magica, yn hwyr yn 1998 a gwahanodd y band yn fuan wedyn.[15]

Recordiodd y band ddau sesiwn ar gyfer rhaglen BBC Radio 1 John Peel, yn 1996 ac 1998, a cawsont eu rhestru yn 125 sesiwn Peel gorau erioed.[16]

Discograffi golygu

Albymau golygu

  • The Big 3 (Indolent, 1996/Geffen, 1997)
  • Joya Magica (Indolent/Geffen, 1998)

EP golygu

  • Supernatural Joy EP (Geffen, 1996)
  • Hair EP (Indolent, 1996)

Senglau golygu

  • "Happy Shopper" (Townhill, 1994)
  • "White Knuckle Ride" (Rough Trade, 1995)
  • "Pig Valentine" (Indolent, 1995)
  • "Talk to Me" (Indolent, 1996)
  • "Stay" (Indolent, 1996)
  • "Happy Shopper" (re-recording) (Indolent, 1996)
  • "Alison's Room" (Indolent, 1998)

Traciau a ymddangosodd mewn casgliadau golygu

  • "London Breeds" ar "I Was a Teenage Gwent Boy (Frug Records, 1994)
  • "Dr Rat" ar "Club Spangle (Spangle Records, 1995)
  • "British Racing Green" ar "For Immediate Use (Raw, 1995)
  • "The Universal" ar "Long Ago and Worlds Apart (Nippon Crown, 1995)
  • "Number 1 Pure Alcohol" ar "Home Truths (Echo, 1995)
  • "Happy Shopper" ar "Indie Top 20, Volume 21 (Beechwood Music, 1996)
  • "Talk to Me" ar "Indie Top 20, Volume 23 Beechwood Music, 1996)
  • "Pony Ride" ar "London Calling 1 (London Calling, 1996)
  • "Talk to Me" ar "Mad for It (Telstar, 1996)
  • "Stay" ar "The Best Album in The World Ever! Vol. 3 (Circa Records, 1996)
  • "Stay" ar "The Magnificent Seven cassette (Melody Maker covermount, 1996)

Cyfeiriadau golygu

  1.  MacKenzie Wilson. 60 Ft. Dolls > Overview. allmusic.com.
  2. I-D, Tachwedd 1995)
  3. NME 30 Awst 1994
  4. NME, tud.10, Mai 13, 1995
  5. The Independent section 2, tud. 7, 21 Rhagfyr, 1995
  6. NME, Ebrill, 1995
  7.  60ft Dolls. BBC Wales.
  8. Select, Medi 1994
  9.  Neil Strauss (4 Ionawr 1996). The Pop Life. The New York Times.
  10. NME, 30 Tachwedd 1996
    "As close to soar-away rock perfection as it's possible to imagine"
  11. Melody Maker, Rhagfyr 1996
    "Pure, unadulterated, no nonsense, emotional, tuneful, impassioned, purposeful, hedonistic rock 'n' roll"
  12. Mojo, tud.82, Ebrill 2003
    "A devilishly evocative document of the period"
  13.  60ft Dolls. Discogs.
  14. Select, Mai 1997
  15. Q, Gorffennaf 1998
  16.  Peel Sessions: Best 125. BBC Radio 1.

Dolenni allanol golygu