Steve Lamacq
Mae Steve Lamacq (ganed 16 Hydref 1965) yn newyddiaduriwr cerddoriaeth a DJ o Loegr, adnabyddir weithiau gan y ffugenwau Lammo (a roddwyd iddo gan John Peel) neu The Cat (oherwydd ei allu fel ceidwad gôl ym mhêl-droed). Mae yn gweithio ar gyfer y BBC ar sianeli Radio 1, BBC Radio 6 Music a hefyd BBC Radio 2 ar ddydd Mercher o 23:30-00:30 cyn rhaglen Janice Long.
Steve Lamacq | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1965 Bournemouth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | troellwr disgiau, newyddiadurwr, cyflwynydd radio |
Gwefan | http://www.bbc.co.uk/6music/shows/steve_lamacq |
Gyrfa cynnar
golyguGaned yn Bournemouth, cyn symyd i Hampshire. Mae ei deulu yn dod o Essex, tyfodd Steve i fyny ym mhentref Colne Engaine yn ardal Halstead. Dechreuodd gyrfa newyddiadurol fel is-ohebydd ar gyfer y West Essex Gazette, ar ôl astudio newyddiaduraeth yng Ngholeg Harlow, Essex. Dechreuodd Lamacq's fanzine o'r enw A Pack Of Lies tra'n ei arddegau.
Yn ystod ei gyfnod o weithio ar gyfer y New Musical Express, dechreuodd weithio fel DJ XFM, pan oedd dal yn orsaf radio pirate. Dechreuodd label recordio yn 1992 gyda Alan James a Tony Smith, sef Deceptive Records. Y band mwyaf llwyddiannus iddynt arwyddo oedd Elastica. Mae'r rhanfwyaf o'r gerddoriaeth ar y label yn rhy fath o pync-pop. Daeth Deceptive Records i ben yn 2001. Ysgrifennodd Lamacq hunangofiant, y teitl yw Going Deaf For A Living.
Yn 1991 roedd Lamacq, yn ddiymwybod iddo ef, yn rhan o un o achlysyron enwog roc Prydeinig, yn ystod cyfweliad ar ôl gig, yng Nganolfan Celfyddydau Norwich, gyda'r Manic Street Preachers, ar gyfer NME. Wedi i sawl cais gan Richey James Edwards i ddarbwyllo i Lamacq eu bod "for real" (roedd y Manics wedi bod yn gwneud datganiadau gwallgo i'r wasg), rhoddod Edwards i fynnu a cherfiodd 4 Real yn ei fraich gyda llafn rasal. Bu bron i'r cyhoeddusrwydd ei hun, lawnsio'r Manics i fyd y Byd Enwog. Trafodwyd y cyfweliad mewn cyfarfod olygyddol a recordwyd ar gyfer rhaglen ddogfen ar BBC Radio 5, "Sleeping With the NME" a ymddangosodd yn hwyrach ar ochr-B sengl Suicide Is Painless y Manics (Hwn hefyd oedd cân thema M*A*S*H).
Radio 1
golyguRhwng 1993 a 1997 cyflwynodd Lamacq y rhaglen Evening Session gyda Jo Whiley, ac wedyn ar ei ben ei hun tan Rhagfyr 2002, pan ddaeth diwedd y rhaglen. Cymerodd Colin Murray ei le drost dro am chwe mis tan i gytundeb Zane Lowe ddod i ben gyda'r orsaf radio XFM yn Mehefin 2003, pan gymerodd ef y safle parhaol. Cyflwynodd Lamacq y rhaglen radio indie, Lamacq Live, pob prynhawn Llun tan 18 Medi 2006. Daeth y sioe i ben fel rhan o ail-ddyluniad rhaglenni Radio 1, er mwyn cyflwyno delwedd newydd ifengach ar gyfer y gwrandawyr. Dechreuodd Lamacq Live yn niwedd Mehefin 1998, a chymerodd Colin Murray ei le ar yr awyr gyda rhaglen newydd, ond mae Lamacq yn dal i gyflwyno rhaglenni dogfen ar gyfer yr orsaf a rhaglen goffa, noson John Peel. Mae hefyd yn cyflwyno rhaglen Radio 1, In New Music We Trust, pob nos Lun rhwng 9 a 10 o'r gloch. Rhwng yr un oriauu ar ddydd Mawrth, Mercher a dydd Iau mae Tim Westwood, Jo Whiley a Pete Tong yn cyflwyno. 'Darganfyddod' Steve y band indie tanddaearol, Pencil Toes.
BBC 6 Music / Radio 2
golyguMae ei dudalen wê ar wefan y BBC yn disgrifio ei raglen Lamacq Live fel un o'r rhaglenni radio mwyaf Dylanwadus ym Mhrydain. Mae ganddo hefyd raglen ar orsaf digidol y BBC, 6 Music, ar pob brynhawn Sul, ond ers Ebrill 2005 mae hefyd wedi cyflwyno rhaglen dyddiol yn gynnar yn y prnhawn ar 6 Music, gan gymryd drosodd oddiar Andrew Collins, yma mae o ar yr awyr fyth. Ers Ebrill 2007, mae hefyd yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar BBC Radio 2, pob dydd Mercher rhwng 11.30 a 12.30, ar y rhaglen hon mae'n chwarae ei ddewis ef o'r gerddoriaeth ac yn cyflwyno bandiau sydd wedi ymddangos yn diweddar i'r gwrandawyr.
Lamacq yn ffan o glwb pêl-droed Colchester United.
Dolenni allanol
golygu- [1] Archifwyd 2007-08-13 yn y Peiriant Wayback Gwefan Steve Lamacq - Lamacq Central
- [2] Tudalen rhaglen BBC 6 Steve
- [3] Tudalen Steve ar wefan y BBC
- [4] Safle MySpace Steve ar gyfer bandiau newydd heb eu arwyddo
- [5] Safle MySpace Steve
- [6] Archif wê gwefan Deceptive Records
- [7] Blog MP3 ar gyfery bandiau a ymddangosodd ar y rhaglen Evening Session o 1993-2002