Rhaglen deledu comedi sefyllfa Cymraeg oedd 9 Tan 9. Roedd yn dilyn helyntion staff un o siopau'r gadwyn dychmygol Gwalia Stores, rhywle yn Sir Ddinbych, a oedd dan fygythiad parhaus oherwydd cystadleuaeth gan archfarchnad mawr o'r enw Blerways. Cafodd y gyfres cyntaf ei gynhyrchu yn 2002 gyda phob pennod tua 24 munud o hyd ac yn cymryd slot hanner awr yn amserlen S4C gyda'r hysbysebion. Roedd awdur y gyfres, y digrifwr Eilir Jones, hefyd yn chwarae rhan y cymeriad Mr Brook Stanley.

9 tan 9
Genre Drama comedi
Ysgrifennwyd gan Eilir Jones
Cyfarwyddwyd gan Cleif Harpwood
Serennu Eilir Jones
Maldwyn John
Cyfansoddwr/wyr Arwyn Davies
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Norman Williams
Amser rhedeg c.24 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Tonfedd Eryri
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Rhediad cyntaf yn 2002

Cast a Chymeriadau golygu

Llewelyn Williams (Llew) - Maldwyn John
Beryl - Gwenno Elis Hodgkins
Mr Rogers (rheolwr Gwalia Stores) - Arwyn Davies
Mr Brook Stanley - Eilir Jones
Keith - Iwan Evans
Iona - Elen Gwyne
Ceri - Catrin Mara

Roedd papurau newydd Sir Ddinbych, y Denbighshire Free Press a'r Vale Advertiser i'w weld ar werth yn Gwalia Stores ac yn cael eu ddefnyddio weithiau fel propiau.

Penodau golygu

Cyfres 1 golygu

# Teitl Cyfarwyddwr Darllediad cyntaf Gwylwyr [1]
1I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Daeth Mr Rogers ar ymweliad i'r siop i gyflwyno ei hun fel rheolwr newydd Gwalia Stores.
2I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae Mr Rogers yn asesu i ddarganfod a yw un o staff y siop yn gymwys i gymryd cyfrifoldeb swydd rheolwr y siop. Chwaraeodd John Pierce Jones rhan ffarmwr yn y bennod.
3I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae staff Gwalia Stores yn gorfod galw plismon Cadfan Roberts i ymchwilio i ladrata yn y siop. Gyda Michael Jones yn chwarae rhan Guto.
4I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae Iona yn edrych am gariad.
5I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae'r siop yn cynnal noson singles i helpu bobol dod o hyd i gariadon. Gydag Iwan Roberts yn chwarae rhan Paul Humphreys a Gareth Owen yn ymddangos fel Dafydd Blodau.
6I'w gyhoeddiI'w gyhoeddiI'w gyhoeddix
Mae pethau'n mynd o'r chwith pan mae criw o blant yn dod i'r siop ar ymweliad o'r ysgol. Mae Janet Aethwy yn chwarae rhan yr athrawes, Ms Griffiths, a Bethan Gwilym yn ymddangos fel cwsmer.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.