Janet Aethwy

actores a aned yn 1955

Mae Janet Aethwy yn actores a chyfarwyddwraig o Gymraes.

Janet Aethwy
GanwydJanet Jones Edit this on Wikidata
1950s Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, cyfarwyddwr theatr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSyth o'r Nyth Edit this on Wikidata

Personol golygu

Magwyd Janet Jones[1] ym Mhorthaethwy, Ynys Môn ac roedd ganddi deulu ym mhentref Bodedern ar yr Ynys. Dechreuodd ei diddordeb actio wrth iddi berfformio rhan Begw mewn cynhyrchiad ddrama o nofel Te yn y Grug gan Kate Roberts ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Porthaethwy 1976 pan oedd yn y chweched dosbarth (oddeutu 17-18 oed).[2] Roedd yn un o ysgrifenyddion cyntaf Aelwyd Menai.

Gyrfa golygu

Mae Janet wedi actio ar lwyfan a theledu ers 1980 a hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ffilmyddiaeth golygu

Mae Janet wedi ymddangos mewn amrywiaeth eang o ddramâu teledu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dyma ddetholiad.[3]

  • 35 Awr - rhan Heulwen (2019)
  • Gwaith Cartref - rhan Siân Bowen-Harries (2016)
  • Patagonia - rhan merch yr hen Mr Roberts (2010)
  • Cowbois Ac Injans - cyfres deledu, rhan Delyth Rowlands (2006)
  • Yr Heliwr - cyfres dditectif Gymraeg a Saesneg (1997-2002)
  • Blood and Water - rhan Jeni Painter (2002)
  • Teulu'r Mans - cyfres ddrama gomedi, rhan Mandi (1987-1993)
  • Pris y Farchnad
  • Ffwrdd â Ni - cyfres deledu
  • Rala Rwdins - cyfres deledu, rhan Ceridwen (cyfres 2-3) (1996-1997)
  • Y Blobs - animeddio, lleisiau (1997)
  • The District Nurse - cyfres ddrama deledu, rhan Ruth Jones ac Eira Gwyn Jones (1984-1987)
  • The Brief - cyfres deledu, rhan Cass Morgan (1984)

Cyfarwyddo golygu

Wedi 40 mlynedd o actio dechreuodd gyfarwyddo gan gyfarwyddo Estron sef drama lwyfan fuddugol Hefin Robertson o Eisteddfod Y Fenni, 2016.[4]

Llyfr golygu

Mae hi wedi cyd-ysgrifennu llyfr, Syth o'r Nyth gyda'r cyfarwyddwraig, Llio Sulyn yn 2004, Gwasg Gomer.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu