Tref gaerog yn ne canolbarth Moroco yw Aït Benhaddou (Amazigh: Ath Benhadu, Arabeg: آيت بن حدّو‎). Gorwedd y gaer, neu ksar (kasbah) yn Arabeg Moroco, ar yr hen lwybr carafan rhwng y Sahara a Marrakech. Fe'i lleolir yn rhanbarth modern Souss-Massa-Draâ ar fryn uwchlaw Afon Ouarzazate, tua 32 km o ddinas Ouarzazate ei hun. Mae'r rhan fwyaf o drigiolion yr hen gaer wedi symud i fyw mewn pentref yr ochr arall i'r afon.

Aït Benhaddou
Mathksar, treftadaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAit Zineb Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd3.03 ha, 16.32 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.05°N 7.13°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, Treftadaeth ddiwylliannol Moroco Edit this on Wikidata
Manylion
Ksar Aït Benhaddou o Afon Ouarzazate
Edrych i lawr dros y gaer

Dyma un o gaerau mwyaf adnabyddus Moroco, a gyhoeddwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987. Mae wedi denu nifer o wneuthurwyr ffilm hefyd, ac mae rhannau o dros ugain o ffilmiau wedi'u saethu yno, yn cynnwys: