Sahara

diffeithdir mwyaf y byd.

Yr anialwch neu ddiffeithiwch mwyaf yn y byd yw'r Sahara (yn llythrennol: "yr Anialwch Mwyaf"), sydd ar gyfandir Affrica. Gydag arwynebedd o dros 9 miliwn km sgwâr (3.6 miliwn mi sg), dyma'r anialwch poeth mwyaf yn y byd a'r drydedd anialwch mwyaf yn gyffredinol, ychydig yn llai nag anialwch Antarctica a gogledd yr Arctig. Mae'n cyfateb i faint Unol Daleithiau America, yn ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Does ond ychydig o fywyd yn y diffeithiwch ei hun a cheir y rhan fwyaf o'r bywyd sydd ynddo yn yr ardal a elwir Sahel sef yr ardal sy'n ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara a hefyd ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy fwy i'r de ceir mwy a mwy ooed, y llwyni a bywyd yn gyffredinol.

Sahara
MathAnialwch
Daearyddiaeth
GwladAlgeria, Tsiad, Yr Aifft, Moroco, Tiwnisia, Mawritania, Niger, Mali, Swdan, Ffrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd9,200,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23.08°N 12.61°E Edit this on Wikidata
Hyd4,800 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Nid tywod yn unig yw'r Sahara. Mae rhannau enfawr yn cael ei orchuddio gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o'r mynyddoedd tân. Mae'r enw "Sahara" yn deillio o'r gair Arabeg am "anialwch" yn y ffurf afreolaidd fenywaidd, yr unigol (/ˈsˤaħra/), lluosog (/ˈsˤaħaːraː/), ṣaḥār (صَحَار), ṣaḥrāwāt (صَحْارَاوَات), ṣaḥāriy (صَحَارِي).

Ceir tymheredd o dros 45 gradd yn aml, ac fe recordiwyd tymheredd o 58 gradd yn y cysgod yn Aziza yn Niffeithwch Lybia, ond yn y nos gan nad oes cymylau i gadw'r gwres i lawr, mae'n gallu bod yn ddychrynllyd o oer. Ond ar waethaf yr hinsawdd creulon mae rhai anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i fyw yno. Am gannoedd o filoedd o flynyddoedd, mae'r Sahara wedi newid bob yn ail rhwng glaswelltir anial a safanna, a hynny mewn cylchoedd o 20,000 o flynyddoedd – newid a achosir gan ragflaeniad (precession) echel y Ddaear wrth iddi gylchdroi o amgylch yr Haul, ac sy'n newid lleoliad Monswn Gogledd Affrica.

Ffynnai sawl tref a dinas i'r de ac i'r gogledd o'r Sahara, fel Tombouctou ym Mali, ar y fasnach draws-Saharaidd sydd â'i gwreiddiau yn y cyfnod cyn-hanesyddol.

Anialwch y Sahara

Cynhanes

golygu
 
Celf carreg Sahara yn y Fezzan

Roedd pobl yn byw ar gyrion yr anialwch filoedd o flynyddoedd yn ôl,[1] ers diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf sef c. 115,000 – c. 11,700 cyn y presennol (CP). Yng Nghanol y Sahara, naddwyd celf graig – engrafiad wedi'i baentio, efallai mor gynnar â 10,000 o flynyddoedd yn ôl, yn rhychwantu'r Cyfnod Bubalin, Cyfnod Kel Essuf, Cyfnod Pen Crwn, Cyfnod Bugeiliol, Cyfnod Caballine, a'r Cyfnod Camelin.[2] Roedd y Sahara yr adeg honno'n lle llawer gwlypach nag y mae heddiw. Ceir dros 30,000 o betroglyffau o anifeiliaid afon fel crocodeiliaid[3] sydd wedi goroesi, gyda hanner ohonyn nhw i'w cael yn y Tassili n'Ajjer yn ne-ddwyrain Algeria. Mae ffosiliau deinosoriaid,[4] gan gynnwys Afrovenator, Jobaria ac Ouranosaurus, hefyd wedi eu darganfod yma. Nid yw'r Sahara modern, serch hynny, yn llawn llystyfiant, ac eithrio Dyffryn Nile, mewn ambell werddon, ac yn yr ucheldiroedd gogleddol, lle gwelir planhigion Môr y Canoldir fel yr olewydden yn tyfu. Credwyd ers amser maith fod y rhanbarth wedi bod fel hyn ers tua 1600 BCE, ar ôl i sifftiau yn echel y Ddaear gynyddu tymereddau a gostwng dyodiad, a arweiniodd at greu'r diffeithdir, a hynny'n hynod o sydyn, tua 5,400 o flynyddoedd yn ôl.[5]

Ciffiaid

golygu

Mae'r diwylliant Ciffian yn ddiwydiant, neu barth cynhanesyddol, a fodolai rhwng 10,000 ac 8,000 o flynyddoedd yn ôl yn y Sahara, yn ystod y Neolithig. Cafwyd hyd i weddillion dynol o'r diwylliant hwn yn y flwyddyn 2000 ar safle o'r enw Gobero, a leolir yn Niger yn Anialwch Ténéré.[6] Gelwir y safle yn fedd mwyaf a chynharaf pobl Oes y Cerrig yn anialwch y Sahara.[7] Roedd y Ciffiaid yn helwyr medrus ac mae esgyrn llawer o anifeiliaid safana mawr a ddarganfuwyd yn yr un ardal yn awgrymu eu bod yn byw ar lan llyn a oedd yn bresennol yn ystod Cyfnod Gwlyb Holosen.[7] Roedd pobl y Ciffian yn dal iawn, yn sefyll dros chwe troedfedd o uchder.[6] Mae dadansoddiad craniometrig yn dangos bod cysylltiad agos rhwng y boblogaeth Holosen gynnar hon ag Iberomaurusiaid Pleistosenaidd Hwyr a Chapsiaid yr Holosen cynnar o'r Maghreb, yn ogystal â grwpiau Mechta o ganol yr Holosen.[8] Nid oes olion diwylliant Ciffian yn bodoli ar ôl 8,000 CP, wrth i'r Sahara sychu am y mil o flynyddoedd nesaf. Ar ôl yr amser hwn, gwladychodd y diwylliant Teneriaidd yr ardal.

Cyfnod y Gwartheg

golygu
 
Lluniau ar fur cysgodfa dan graig, Tassili n'Ajjer, Sahara

Erbyn 6000 CC roedd yr Hen Eifftwyr yn ne-orllewin yr Aifft yn bugeilio gwartheg ac yn codi adeiladau mawr. Roedd bywyd mewn trefi a phreswylfeydd yn yr Aifft gyn-deyrnasyddol erbyn canol y chweched fileniwm yn seiledig yn bennaf ar dyfu cnydau grawnfwyd a magu anifeiliaid domestig fel gwartheg, geifr, moch a defaid. Cymerodd gwrthyrchau metel le rhai carreg; roedd trin lledr, gwneud crochenwaith a gweu yn dod yn gyffredin hefyd.

Un o'r canolfannu pwysicaf oedd gwerddon Al Fayyum lle ceir tystiolaeth o weithgareddau tymhorol megis pysgota, hela a hel bwyd gwyllt. Roedd saethau carreg, cyllyll obidian a chrafwyr ar gyfer croen anifeiliaid yn gyffredin. Mae beddau o'r cyfnod yn cynnwys crochenwaith, gemwaith, ac offer hela a ffermio; claddwyd y meirw yn wynebu'r gorllewin (lleolir Arallfyd neu Baradwys yr Eifftwyr diweddarach yn y gorllewin hefyd).

Yng nghanol y Sahara ei hun mae tystiolaeth lluniau cynhanesyddol ar furiau ogofâu a chysgodfeydd yn y graig yn dangos fod poblogaeth bur sylweddol yn byw bywyd hela a chodi gwartheg yno a bod yr hinsawdd a'r tyfiant yn debyg i'r hyn a geir yn y Sahel heddiw. Ceir rhai o'r safleoedd mwyaf trawiadol ym mynyddoedd yr Hoggar a'r Tassili n'Ajjer; mae lluniau o'r ardal olaf yn dangos afonfeirch (hippopotamus) a phreiddieu anferth o wartheg cyrn hir, a hynny mewn ardal sydd bellach yn anialdir llwyr.

Cyfnod y Berberiaid

golygu
 
Teulu Berber yn croesi rhyd

Erbyn tua 2500 CC roedd y Sahara wedi troi bron mor sych ag y mae heddiw ac o hynny allan bu'n rhwystr sylweddol i deithwyr. Dim ond llond llaw o breswylfeydd parhaol oedd yna, yn y gwerddonau, a chyfyngid ar y fasnach draws-Saharaidd. Roedd dyffryn Nîl yn eithriad, ond fan 'na hefyd roedd y rhaeadrau mawr ar Afon Nîl yn rhwystr ar y llwybr i'r de i gyfeiriad y Swdan.

Ffeniciaid a Groegiaid

golygu

Creodd y Ffeniciaid a ymsefydlodd ar arfordir gogledd Affrica, yn Carthago er enghraifft, gynghrair o deyrnasoedd a ymestynai ar draws y Sahara, o'r gorllewin i gyffiniau'r Aifft.

Rhywbryd rhwng 633 CC a 530 CC hwyliodd Hanno ar ei fordaith enwog ar hyd yr arfordir i gyffiniau Gwlff Gini, ac ymddengys ei fod wedi atgyfnerthu trefedigaethau Carthaginaidd yn y Sahara Gorllewinol, ond ni cheir tystiolaeth bendant o hynny heddiw. Ymddengys fod peryglon y fordaith ac ansicrwydd y farchnad yng ngorllewin Affrica wedi cyfyngu ar weithgareddau'r Carthaginiaid ar ôl y mordeithiau menter cyntaf a'u bod wedi bodloni ar ychydig o bostiau masnach ar arfordir Iwerydd Moroco.

Erbyn hanner olaf y fileniwm gyntaf cyn Crist felly roedd cadwyn o wladwriaethau canoliedig a'u trefedigaethau yn ymestyn o orllewin y Maghreb i lannau'r Môr Coch, ond prin eu bod yn cyffwrdd yn uniongyrchol â'r Sahara ei hun. Roedd cyrchoedd sydyn gan bobloedd nomadaidd Berber yr anialwch yn boenu'r gwladwriaethau hyn yn gyson. Ond yn nwylo'r Berber oedd allweddau'r Sahara a bu rhaid ceisio dod i gytundeb â nhw.

Y Garamantes

golygu
 
Hen storfa grawn, Qaser el-Haj, Jebel al-Gharbee, gorllewin Libia

Tua'r adeg honno cododd gwareiddiad ddinesig y Garamantes yn y Sahara ei hun, yn y dyffryn a elwir heddiwe yn Wadi al-Ajal yn y Fazzan, yn Libia. Tyllodd y Garamantes dwnelau ymhell i mewn i'r mynyddoedd o gwmpas eu dyffryn i gael dŵr. Tyfodd eu poblogaeth yn gyflym. Cwncweriasant eu cymdogion a'u defnyddio yn gaethweision i weithio'r twneli hollbwysig. Roeddent yn adnabyddus i'r Rhufeinwyr a'r Groegiaid a oedd yn meddwl eu bod yn farbariaid a nomadiaid. Serch hynny roeddynt yn masnachu â nhw; cafwyd baddon Rhufeinig yn Garama, prifddinas y Garamantes, er enghraifft. Mae Garama yn un o wyth dref sylweddol sydd wedi dod i'r golwg hyd yn hyn diolch i'r archaeolegwyr. Bu i wareiddiad y Garamantes fethu yn y diwedd pan redodd y cyflenwad dŵr allan.

Yr Arabiaid

golygu

Ar ôl i'r Arabiaid gyrraedd gogledd Affrica ffynnodd y fasnach draws-Saharaidd unwaith yn rhagor. I'r de o'r anialwch tyfodd teyrnasoedd mawr yn y Sahel yn gyfoeth wrth allforio aur a halen dros y Sahara, yn enwedig Ymerodraeth Ghana ac yn ddiwedddarach Ymerodraeth Mali. Mewn cyfnewid anfonwyd ceffylau a nwyddau gwneud gan deyrnasoedd Arabaidd arfordir y gogledd. O'r Sahara ei hun allforid halen. Ffynnai'r gwerddonau a daethant dan reolaeth y teyrnasoedd newydd yn y gogledd.

Y cyfnod diweddar

golygu

Newidiodd y sefyllfa gyda thyfiant grym morwrol Ewrop. Roedd llongau newydd fel y carafel Portiwgalaidd yn medru hwylio'n gyflym i orllewin Affrica a chollodd y llwybrau traws-Sahraidd allan. Ni chymerodd y grymoedd trefedigaethol lawer o ddiddordeb yn y Sahara ei hun, gan fodloni ar reoli ei hymylon, ond yn ddiweddar mae nifer o gymunedau wedi tyfu yno i gael petrol a mwynau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys petroliwm a nwy naturiol yn Algeria a Libia a gwelyau mawr o phosphate ym Moroco a Gorllewin Sahara.

Gwladychiaeth Ewropeaidd

golygu

Dechreuodd gwladychiaeth Ewropeaidd yn y Sahara yn y 19g. Gorchfygodd Ffrainc raglywiaeth Algiers o'r Otomaniaid ym 1830, a lledaenodd rheolaeth Ffrainc i'r de o Algeria Ffrengig ac i'r dwyrain o Senegal i mewn i Niger uchaf i gynnwys Algeria heddiw, Chad, Mali ac yna Swdan Ffrengig gan gynnwys Timbuktu (1893), Mauritania, Moroco (1912), Niger, a Tunisia (1881). Erbyn dechrau'r 20g, roedd y fasnach draws-Sahara wedi dirywio'n amlwg oherwydd bod nwyddau'n cael eu symud trwy ddulliau mwy modern ac effeithlon, fel awyrennau, yn hytrach nag ar draws yr anialwch.[9]

Manteisiodd y Ffrancwyr ar elyniaeth hirsefydlog rhwng Arabiaid Chaamba ac Arabiaid Tuareg. Yn wreiddiol, recriwtiwyd corffluoedd camel Méhariste, a oedd newydd eu codi, yn bennaf o lwyth crwydrol Chaamba. Ym 1902, treiddiodd y Ffrancwyr i Fynyddoedd Hoggar a threchu Ahaggar Tuareg ym mrwydr Tit.

Ymerodraeth Wladychol Ffrainc oedd y presenoldeb amlycaf yn y Sahara. Sefydlodd gysylltiadau awyr rheolaidd o Toulouse (Pencadlys yr <i>Aéropostale</i> enwog), i Oran a thros yr Hoggar i Timbuktu a'r Gorllewin i Bamako a Dakar, yn ogystal â gwasanaethau bysiau traws-Sahara a oedd yn cael eu rhedeg gan La Compagnie Transsaharienne (sefydlwyd 1927).[10] Mae ffilm hynod a saethwyd gan yr awyrenwr enwog Capten René Wauthier yn dogfennu’r groesiad cyntaf gan gonfoi tryc mawr o Algiers i Tsiad, ar draws y Sahara.[11]

Gorchfygodd yr Aifft, o dan Muhammad Ali a'i olynwyr, Nubia ym 1820–22, sefydlodd Khartoum ym 1823, a goresgyn Darfur ym 1874. Daeth yr Aifft a Swdan, yn amddiffynfa Seisnig ym 1882. Collodd yr Aifft a Lloegr reolaeth ar y Swdan rhwng 1882 a 1898 o ganlyniad i Ryfel Mahdist. Ar ôl ei gipio gan filwyr Seisnig yn 1898, daeth y Sudan yn gydlywodraeth a elwid yn Eingl-Eifftaidd.

Cipiodd Sbaen y Sahara Gorllewinol ar ôl 1874, er i Rio del Oro aros o dan ddylanwad y Sahrawi i raddau helaeth. Ym 1912, cipiodd yr Eidal rannau o'r hyn a oedd i'w enwi'n Libya o'r Otomaniaid. Er mwyn hyrwyddo'r grefydd Gatholig yn yr anialwch, penododd y Pab Pïws IX ddirprwy Apostolaidd o'r Sahara a'r Swdan ym 1868; yn ddiweddarach yn y 19g ad-drefnwyd ei awdurdodaeth yn Ficeriad Apostolaidd y Sahara.

Torri'r ymerodraethau ac wedi hynny

golygu
 
Bwa creigiau naturiol yn ne orllewin Libya

Daeth yr Aifft yn annibynnol ar Brydain ym 1936, er bod y cytundeb Eingl-Eifftaidd ym 1936 wedi caniatáu i Brydain gadw milwyr yn yr Aifft a chynnal y cydlywodraeth Eingl-Eifftaidd yn y Swdan. Tynnwyd lluoedd milwrol Prydain yn ôl ym 1954.

Cyflawnodd y mwyafrif o daleithiau Sahara annibyniaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd:

  • Libya ym 1951;
  • Moroco, Sudan, a Tunisia ym 1956;
  • Chad, Mali, Mauritania, a Niger ym 1960;
  • Algeria ym 1962.

Tynnodd Sbaen yn ôl o Orllewin Sahara ym 1975, a rhannwyd rhwng Mauritania a Moroco. Tynnodd Mauritania yn ôl ym 1979; mae Moroco'n parhau i ddal y diriogaeth.[12]

Gwrthryfelodd pobl Twareg ym Mali sawl gwaith yn ystod yr 20g cyn gorfodi lluoedd arfog Mali i dynnu'n ôl o dan y llinell a oedd yn dynodi Azawad o dde Mali yn ystod Gwrthryfel y Twareg (2012).[13] Mae gwrthryfelwyr Islamaidd yn y Sahara'n galw eu hunain yn al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd ac wedi cynyddu eu trais yn ystod y 2010au.[14]

 
Engrafiad o'r 19g o garafán masnachu caethweision Arabaidd yn cludo caethweision du Affricanaidd ar draws y Sahara

Mae pobl y Sahara o darddiad amrywiol. Yn eu plith mae'r Amazigh (y Berberiaid) gan gynnwys y Tuareg, amryw grwpiau Amaziɣ Arabaidd fel y Sahrawis, y mae eu poblogaethau'n cynnwys y Znaga, llwyth y mae ei enw'n dod o'r iaith Zenaga cyn-hanesyddol. Ymhlith y grwpiau mawr eraill o bobl mae: Toubou, Nubiaid, Zaghawa, Kanuri, Hausa, Songhai, Beja, a Fula / Fulani.

Effaith ar Gymru

golygu

Mae llwch o’r Sahara, ac o amryw o barthau eraill o’r byd hefyd, sy’n disgyn mewn glaw gan adael staeniau coch neu felyn ar geir a ffenestri, yn eithaf cyfarwydd i ni heddiw. Ond tybed beth oedd pobl yr oes o’r blaen yn ei feddwl am y ffenomenon:

Ar 7ed Mehefin 1607 yn Colyton, Dyfnaint fe ddisgynnodd:

not far from the town, rain, being as it seemed a thunder shower, and some thunder heard withal, amongst which were certain drops fell like blood, which stained those things as it fell on. I saw a partlet stained therewith, and it seemed as it had been blood. Joan Milles showed the same coming home from milking [15]

Daearyddiaeth

golygu
 
Y prif fiomau yn Affrica

Mae'r Sahara yn cynnwys rhannau helaeth o Algeria, Chad, yr Aifft, Libya, Mali, Mauritania, Moroco, Niger, Western Sahara, Sudan a Tunisia. Mae'n 31% o Affrica.

Hamada creigiog (llwyfandir carreg heb dywod) yn bennaf yw'r Sahara ond ceir hefyd moroedd o dywod – ardaloedd mawr wedi'u gorchuddio â thwyni tywod, gyda llawer o'r twyni tywod dros 180 metr (590 tr) o uchder.[16] Mae'r gwynt a'r glaw prin wedi siapio nodweddion yr anialwch: twyni tywod, caeau twyni, moroedd tywod, llwyfandir cerrig, gwastadeddau graean, dyffrynnoedd sych (wadis), llynnoedd sych a fflatiau halen. Mae tirffurfiau anarferol yn cynnwys Strwythur Richat ym Mauritania.

Mae nifer o fynyddoedd, llawer yn folcanig, yn codi o'r anialwch, gan gynnwys Mynyddoedd Aïr, Mynyddoedd Ahaggar, Atlas Sahara, Mynyddoedd Tibesti, Adrar des Iforas, a Bryniau'r Môr Coch. Y copa uchaf yn y Sahara yw Emi Koussi, llosgfynydd tarian yn ystod Tibesti yng ngogledd Chad.

Mae'r Sahara canolog yn gras iawn, gyda llystyfiant prin. Mae gan rannau gogleddol a deheuol yr anialwch, ynghyd â'r ucheldiroedd, ardaloedd o laswelltir tenau a llwyni, gyda choed a llwyni talach mewn wadis, lle mae lleithder yn crynhoi. Yn y rhanbarth canolog, cras iawn, mae yna lawer o israniadau o'r anialwch mawr: Tanezrouft, y Ténéré, Anialwch Libya, yr Anialwch Dwyreiniol, Anialwch Nubian ac eraill. Yn aml nid yw'r ardaloedd cras iawn hyn yn derbyn unrhyw law am flynyddoedd.

Ymhlith y dinasoedd pwysig sydd wedi'u lleoli yn y Sahara mae Nouakchott, prifddinas Mauritania; Tamanrasset, Ouargla, Béchar, Hassi Messaoud, Ghardaïa, ac El Oued yn Algeria; Timbuktu yn Mali; Agadez yn Niger; Ghat yn Libya; a Faya-Largeau yn Chad.

Hinsawdd

golygu

Y Sahara yw "anialwch poeth" lledred isel mwya'r byd. Fe'i lleolir o dan y grib is-drofannol (subtropical ridge), gwregys sylweddol o bwysedd uchel craidd-cynnes is-drofannol lle mae'r aer o'r troposffer uchaf fel arfer yn disgyn, yn cynhesu ac yn sychu'r troposffer isaf ac yn atal y cwmwl rhag ffurfio. 

Mae absenoldeb parhaol cymylau yn caniatáu ymbelydredd golau a thermol dirwystr. Gan fod sefydlogrwydd yr awyrgylch uwchben yr anialwch yn atal yr aer rhag symud, anaml iawn y ceir glaw. O ganlyniad, mae'r tywydd yn tueddu i fod yn heulog, yn sych ac yn sefydlog. Y grib isdrofannol yw'r prif ffactor sy'n egluro hinsawdd yr anialwch poeth (dosbarthiad hinsawdd Köppen BWh) y rhanbarth helaeth hwn. Y llif awyr disgynnol yw'r cryfaf a'r mwyaf effeithiol dros ran ddwyreiniol yr Anialwch Mawr, yn Anialwch Libya: dyma'r lle mwyaf heulog, sychaf a bron yn "ddi-law" ar y blaned, ac sy'n cystadlu yn erbyn Anialwch yr Atacama, yn Tsili a Periw.

Prif ffynhonnell y glaw yn y Sahara yw'r Parth Cydgyfeirio Rhyngdrofanol, gwregys parhaus o systemau gwasgedd-isel ger y cyhydedd sy'n dod â'r tymor glawog byr, ac afreolaidd i'r Sahel a de'r Sahara. Nodweddir hinsawdd galed y Sahara gan: glawiad hynod isel, annibynadwy ac anghyson iawn; heulwen tanbaid am amser; tymereddau uchel trwy gydol y flwyddyn; cyfraddau prin o leithder; amrywiad tymheredd dyddiol sylweddol; a lefelau uchel iawn o anweddiad, sef yr uchaf a gofnodwyd ledled y byd.[17]

Tymheredd

golygu

Fel y nodwyd, mae'r awyr fel arfer yn glir uwchben yr anialwch, ac mae'r cyfnod o heulwen yn uchel iawn ym mhobman yn y Sahara. Mae gan y rhan fwyaf o'r anialwch fwy na 3,600 awr o heulwen llachar y flwyddyn (dros 82% o oriau golau dydd), ac mae gan ardal eang yn y rhan ddwyreiniol dros 4,000 awr o heulwen llachar y flwyddyn (dros 91% o oriau golau dydd). Mewn cymhariaeth: yr uchafswm o oriau o heulwen a gafwyd mewn mis yng Nghymru yw: 354.3 awr yn Sir Benfro yng Ngorffennaf 1955.

Mae'r arbelydru solar uniongyrchol blynyddol cyfartalog oddeutu 2,800 kWh / (m2 flynedd) yn yr Anialwch Mawr. Mae gan y Sahara, felly, botensial aruthrol ar gyfer cynhyrchu ynni solar.

 
Twyni tywod yn y Sahara Algeriaidd

Mae lleoliad uchel yr Haul, y lleithder cymharol isel iawn, a diffyg llystyfiant a glawiad yn golygu mai'r Anialwch Mawr yw'r rhanbarth mawr poethaf yn y byd, a'r lle poethaf ar y Ddaear yn ystod yr haf mewn rhai ardaloedd. Mae'r tymheredd uchel ar gyfartaledd yn uwch na 38-40 gradd Canradd yn ystod y mis poethaf bron ym mhobman yn yr anialwch ac eithrio ar uchderau uchel iawn. Tymheredd uchel dyddiol cyfartalog uchaf y byd a gofnodwyd yn swyddogol oedd 47 °C (116.6 °F) mewn tref anial yn Anialwch Algeria o'r enw Bou Bernous, ar ddrychiad o 378 metr uwch lefel y môr,[18] a dim ond Death Valley, California sy'n ei cystadlu a chynhesrwydd eithafol fel hyn.[19]

 
Machlud yn y Sahara

Mae tymereddau tywod a'r ddaear o dan draed hyd yn oed yn fwy eithafol. Yn ystod y dydd, mae tymheredd y tywod yn uchel iawn: gall gyrraedd 80 gradd C neu fwy.[20] Cafwyd tymheredd tywod o 83.5 °C (182.3 Cofnodwyd °F) yn Port Sudan.[20][20]

Mae gan yr anialwch amywiaeth eang o dymereddau – rhwng dydd a nos, yn bennaf oherwydd diffyg cymylau a lleithder isel. Fodd bynnag, coel gwrach yw dweud fod y nosweithiau'n oerach wedi diwrnod eithriadol o boeth.

Mae Osgiladiad Gogledd Iwerydd yn dylanwadu'n gryf ar amlder nosweithiau gaeaf is-rewi yn y Sahara, gyda thymheredd cynhesach yn y gaeaf yn ystod digwyddiadau negyddol NAO a gaeafau oerach gyda mwy o rew pan fydd yr NAO yn bositif.[21][22]

Dyodiad

golygu

Mae'r glawiad blynyddol cyfartalog yn amrywio o isel iawn ar gyrion gogleddol a deheuol yr anialwch i bron ddim yn bodoli dros y rhan ganolog a dwyreiniol. Mae cyrion gogleddol yr anialwch yn derbyn mwy o gymylau a glawiad gaeaf oherwydd dyfodiad systemau gwasgedd isel dros y Môr Canoldir ar hyd y ffrynt pegynol, er bod effeithiau cysgodol glaw y mynyddoedd yn gwanhiaethu'n fawr ac mae'r glawiad cyfartalog blynyddol yn amrywio o 100 mm i 250 mm. Mewn cymhariaeth, ceir 4473 mm o law y flwyddyn ar gyfartaledd ar y Grib Goch ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r Sahara yn derbyn llai nag 20 mm.[23] Mae'r glawiad cyfartalog blynyddol bron yn sero dros ardal eang o ryw filiwn km sg yn nwyrain y Sahara sy'n cynnwys anialwch o: Libya, yr Aifft a Swdan (Tazirbu, Kufra, Dakhla, Kharga, Farafra, Siwa, Asyut, Sohag, Luxor, Aswan, Abu Simbel, Wadi Halfa) lle mae'r cymedr tymor hir yn cyfateb i 0.5 mm y flwyddyn.[23] Mae'r glawiad hefyd yn annibynadwy ac yn anghyson iawn yn y Sahara oherwydd y gall amrywio'n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r cyfraddau anweddu blynyddol, fodd bynnag, yn hynod o uchel, yn fras yn amrywio o 2,500 mm y flwyddyn i fwy na 6,000 mm y flwyddyn yn yr anialwch cyfan.[24] Nid oes unrhyw le arall ar y Ddaear y canfuwyd aer mor sych ac anweddol ag yn rhanbarth y Sahara. Fodd bynnag, cofnodwyd o leiaf ddau achos o gwymp eira yn y Sahara, yn Chwefror 1979 ac yn Rhagfyr 2016, y ddau yn nhref Ain Sefra.[25]

Fflora a ffawna

golygu

Mae fflora'r Sahara yn amrywiol iawn ac yn seiliedig ar nodweddion bio-ddaearyddol yr anialwch helaeth hwn. Gellir dweud fod gan y Sahara dri pharth yn seiliedig ar faint o lawiad a dderbynnir – y Gogledd (Môr y Canoldir), Parthau Canolog a Pharth Deheuol. Ceir hefyd dau barth trosiannol lle ceir trawsnewidiad: Môr y Canoldir-Sahara a pharth pontio Sahel.[26]

Mae fflora'r Sahara yn cynnwys tua 2,800 o rywogaethau o blanhigion fasgwlaidd, gyda tua chwarter y rhain yn frodorol. Mae tua hanner y rhywogaethau'n gyffredin i fflora anialwch Arabia.[27]

 
Camelod yn myffryn Guelta d'Archei, yng ngogledd-ddwyrain Chad

Amcangyfrifir bod y Sahara canolog yn cynnwys pum cant o rywogaethau o blanhigion, sy'n hynod isel o ystyried maint enfawr yr ardal. Addasodd llawer o'r planhigion gan gynnwys coed acacia, palmwydd, planhigion suddlon (succulents), llwyni pigog, a gweiriau wedi addasu i'r amodau cras. Addaswyd mewn gwahanol ffyrdd:

  • trwy dyfu'n is i osgoi colli dŵr gan wyntoedd cryfion,
  • trwy storio dŵr yn eu coesau trwchus i'w ddefnyddio mewn cyfnodau sych,
  • trwy eu gwreiddiau hir, llorweddol i gyrraedd dŵr ac i ddod o hyd i unrhyw leithder ar yr wyneb,
  • trwy gael dail neu nodwyddau bach trwchus i atal colli dŵr trwy anweddweddariad. Gall dail planhigion sychu'n llwyr ac yna adfywio.

Gwelir sawl rhywogaeth o lwynog yn y Sahara gan gynnwys: y llwynog fennec, y llwynog gwelw a llwynog Rüppell. Gall yr addax, sef antelop gwyn mawr, fynd bron i flwyddyn yn yr anialwch heb yfed. Gall y gazelle dorcas o ogledd Affrica hefyd hefyd fynd am amser hir heb ddŵr. Ymhlith y gaséls nodedig eraill mae gasél rhim a gasél dama.

Mae cheetah'r Sahara (neu cheetah gogledd-orllewin Affrica) yn byw yn Algeria, Togo, Niger, Mali, Benin, a Bwrcina Ffaso. Erys llai na 250 o cheetahs aeddfed, er eu bod yn ofalus iawn, gan ffoi rhag unrhyw bresenoldeb dynol. Mae'r cheetah yn osgoi'r haul rhwng Ebrill a Hydref, gan geisio cysgodi dan lwyni fel balansau ac acecias. Yn anarferol, mae eu lliw'n ysgafn, gwelw.[28] Mae'r isrywogaeth cheetah arall (cheetah gogledd-ddwyrain Affrica) yn byw yn Chad, Sudan a rhanbarth dwyreiniol Niger. Fodd bynnag, mae wedi diflannu yn y gwyllt yn yr Aifft a Libya. Dim ond tua 2000 o unigolion aeddfed sydd ar ôl yn y gwyllt.

 
Llyn gwerddon Idehan Ubari, gyda gweiriau brodorol a phalmwydd datys

Mae anifeiliaid eraill yn cynnwys madfallod y monitor, hyrax, gwiberod tywod, ychydig o gŵn gwyllt Affricanaidd (Lycaon pictus) mewn 14 gwlad yn unig efallai a'r estrys gwddf coch. Mae anifeiliaid eraill yn bodoli yn y Sahara (adar yn benodol) fel arianbig Affrica a llinos dân wynebddu’r Dwyrain, ymhlith eraill. Mae crocodeiliaid yr anialwch (Crocodylus suchus) hefyd i'w gweld ym Mauritania a Llwyfandir Ennedi yn Chad.[29]

Camelod Dromedary a geifr yw'r anifeiliaid dof mwyaf cyffredin yn y Sahara. Oherwydd ei rinweddau fel dygnwch a chyflymder, y camelod yma yw'r hoff anifail a ddefnyddir gan y nomadiaid.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Brett, Michael; Prentess, Elizabeth (1996). The Berbers. Blackwell Publishers.
  • Bulliet, Richard W. (1975). The Camel and the Wheel. Harvard University Press. ISBN 9780674091306. Republished with a new preface Columbia University Press, 1990.
  • Gearon, Eamonn (2011). The Sahara: A Cultural History. Signal Books (UK), Oxford University Press (US).
  • Julien, Charles-Andre (1970). History of North Africa: From the Arab Conquest to 1830. Praeger.
  • Kennedy, Hugh (1996). Muslim Spain and Portugal: A Political History of al-Andalus. Longman.
  • Laroui, Abdallah Laroui (1977). The History of the Maghrib: An Interpretive Essay. Princeton.
  • Scott, Chris (2005). Sahara Overland. Trailblazer Guides.
  • Wade, Lizzie (2015). "Drones and Satellites Spot Lost Civilizations in Unlikely Places". Science. doi:10.1126/science.aaa7864. http://news.sciencemag.org/archaeology/2015/02/drones-and-satellites-spot-lost-civilizations-unlikely-places.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Discover Magazine, 2006-Oct.
  2. Soukopova, Jitka (2017). "Central Saharan rock art: Considering the kettles and cupules". Journal of Arid Environments 143: 10. Bibcode 2017JArEn.143...10S. doi:10.1016/j.jaridenv.2016.12.011. https://www.academia.edu/33092285.
  3. National Geographic News, 17 Mehefin 2006.
  4. "Near-perfect fossils of Egyptian dinosaur discovered in the Sahara desert". Nature Middle East. 29 Ionawr 2018. doi:10.1038/nmiddleeast.2018.7.
  5. Sahara's Abrupt Desertification Started by Changes in Earth's Orbit, Accelerated by Atmospheric and Vegetation Feedbacks.
  6. 6.0 6.1 "Stone Age Graveyard Reveals Lifestyles of A 'Green Sahara'". Science Daily. 2008-08-15. Cyrchwyd 2008-08-15.
  7. 7.0 7.1 Wilford, John Noble (2008-08-14). "Graves Found From Sahara's Green Period". The New York Times. Cyrchwyd 2008-08-15.
  8. "Lakeside Cemeteries in the Sahara: 5000 Years of Holocene Population and Environmental Change". PLOS One 3 (8): e2995. 2008. Bibcode 2008PLoSO...3.2995S. doi:10.1371/journal.pone.0002995. PMC 2515196. PMID 18701936. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2515196.
  9. Trans-Saharan Africa in World History, Ch. 6, Ralph Austin
  10. "Wauthier Bréard 1933" (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 22 Chwefror 2013.
  11. Wauthier, René. "Reconnaissance saharienne". French Cinema Archives (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 22 Chwefror 2013.[dolen farw]
  12. "Algeria recalls envoy to Morocco in row over Western Sahara". Al-Jazeera. 18 Gorffennaf 2021.
  13. "Mali Tuareg rebels declare independence in the north". BBC News. 6 April 2012.
  14. "Al-Qaeda in North Africa appoints new leader to replace Droukdel". France 24. 22 Tachwedd 2020.
  15. Dyddiadur Walter Yonge (Tywyddiadur a Bwletin Llên Natur
  16. Strahler, Arthur N. and Strahler, Alan H. (1987) Modern Physical Geography Third Edition. New York: John Wiley & Sons. ISBN 0-471-85064-0. p. 347
  17. Griffiths, Ieuan L.I. (2013-06-17). The Atlas of African Affairs. Routledge. ISBN 978-1-135-85552-9.
  18. Oliver, John E. (2008-04-23). Encyclopedia of World Climatology. Springer Science & Business Media. ISBN 978-1-4020-3264-6.
  19. Griffiths, John F.; Driscoll, Dennis M. (1982). Survey of Climatology. C.E. Merrill Publishing Company. ISBN 978-0-675-09994-3.
  20. 20.0 20.1 20.2 Nicholson, Sharon E. (2011-10-27). Dryland Climatology. Cambridge University Press. ISBN 978-1-139-50024-1.
  21. See Visbeck, Martin H.; Hurrell, James W.; Polvani, Lorenzo and Cullen, Heidi M.; 'The North Atlantic Oscillation: Past, Present, and Future'; Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America, vol. 98, no. 23 (2001); pp. 12876-12877
  22. Hurrell, James W.; Kushnir, Yochanan; Ottersen, Geir and Visbeck, Martin; An Overview of the North Atlantic Oscillation, pp. 17–19. Geophysical Monograph 134; published 2003 by the American Geophysical Union
  23. 23.0 23.1 Houérou, Henry N. (2008-12-10). Bioclimatology and Biogeography of Africa. Springer Science & Business Media. ISBN 978-3-540-85192-9.
  24. Brown, G.W. (2013-09-17). Desert Biology: Special Topics on the Physical and Biological Aspects of Arid Regions. Elsevier. ISBN 978-1-4832-1663-8.
  25. "Snow falls in Sahara for first time in 37 years". CNN. 21 December 2016. Cyrchwyd 22 December 2016.
  26. Mares, Michael A., gol. (1999). Encyclopedia of Deserts. University of Oklahoma Press. t. 490. ISBN 978-0-8061-3146-7.
  27. Houérou, Henry N. (2008). Bioclimatology and Biogeography of Africa. Springer. t. 82. ISBN 978-3-540-85192-9.
  28. "Rare cheetah captured on camera". BBC News. 24 Chwefror 2009. Cyrchwyd 12 Mehefin 2010.
  29. "Desert-Adapted Crocs Found in Africa", National Geographic News, 18 Mehefin 2002