Grwp cerddorol dawns/rap Cymraeg oedd A5.

A5
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Yr aelod craidd oedd y DJ a chynhyrchydd Johnny "R" a sengl gan A5 oedd y record gyntaf i'w ryddhau ar y label gerddoriaeth danddaearol Recordiau R-bennig a sefydlwyd ganddo yn 1990 yng Ngwalchmai, Ynys Môn.[1]

Rhyddhawyd nifer fawr o ganeuon gan A5 yn bennaf ar gaset, rhai traciau yn arbrofol ac eraill yn recordiau dawns gyda Johnny ei hun yn rapio yn ogystal â merched yn rapio a chanu. Recordiodd y grŵp ambell gân a fideo ar gyfer Fideo 9 yn cynnwys fideo nodedig ar gyfer Adroddiad Du.[2]

Disgyddiaeth golygu

Teitl Fformat Blwyddyn Rhif Catalog
A5 Llipa-ddisg 7" 1990 R-BEN 001
Greatest Hits Albwm, caset 1990 R-BEN 002
Andrea EP, caset 1990 R-BEN 003
Gadael Sengl, caset 1990 R-BEN 004
Amser y Mis Sengl 7" 1991 R-BEN 005
Caeltaidd Caset 1991 R-BEN 007
Lycra EP, caset 1991 R-BEN 009
Doc Martins Eddie Ladd Sengl, caset 1991 R-BEN 010
Hoff Papur Wal Caset 1991 R-BEN 011
Marigolds Melyn Caset 1991 R-BEN 011
Genod Bryngwran Sengl, caset 1991 R-BEN 012
Back To School Gyda A5 A Sian Eleri Caset 1991 R-BEN 013
Glud Caset 1991 R-BEN 014
A5 / Pyw Dall – Gwallgo EP, caset 1991 R-BEN 015
Can i Cymru 2000 EP, caset 1991 R-BEN 016
Echel Sengl, caset 1992 R-BEN 018
Ecsentrig EP, caset 1992 R-BEN 019
Adroddiad Du Sengl 12" 1993 R-BEN 025
Marigolds Melyn Albwm, CD 1997 R-BEN 038
Cybergoth Sengl, CD 2001 R-BEN 053

Cyfeiriadau golygu

  1.  R-bennig. Link2Wales. Adalwyd ar 2 Chwefror 2017.
  2.  Disgograffi Recordiau R-Bennig 1991 - 2001. Ffansin Brechdan Tywod. Adalwyd ar 2 Chwefror 2017.

Dolenni allanol golygu