R-Bennig (label)

Label recordio annibynnol Cymreig

Roedd R-Bennig yn label recordio Cymraeg o Walchmai, Ynys Môn rhwng 1989 a 2005.[1][2]

R-bennig
Sefydlwyd 1989
Sylfaenydd Johnny R
Diddymwyd 2005
Math o gerddoriaeth Arbrofol, dawns, electronig, pop
Gwlad Cymru


Ffotograff o Recordiau Senglau 12 Modfedd Label R-Bennig
Recordiau Senglau 12 Modfedd Label R-Bennig
Record Lectoris EP, Label R-Bennig (R-BeEN 042) 1998
Record Lectoris EP, Label R-Bennig (R-BeEN 042) 1998
Ffotogfraff o ddisgiau fflecsi label recordio R-Bennig
Disgiau fflecsi label recordio R-Bennig

Roedd label R-Bennig yn un o labeli Cymru mwyaf gweithgar y cyfnod - mae gwefan Discogs yn rhestri dros gant o recordiau, CD, senglau, casetiau a disciau ffecsi (Gweler y disgyddiaeth isod).[3]

Ar adeg pan roedd ddiwylliant Cymraeg o dan ddylanwad mawr y cyfryngau darlledu a nawdd arian cyhoeddus roedd prosiectau label R-Bennig yn wrth-fasnachol ac yn mynd heb fawr o sylw gan y cyfryngau neu glod ehangach.

Yn aml roedd prosiectau'r label yn osgoi cyd-weithio a'r sefydliad neu'n gwneud eu gorau i'w drysu.

Johnny R

golygu

Sefydlwyd y label gan Johnny R (John Robbins[angen ffynhonnell]), yn ffan cerddoriaeth Northern Soul a sain Detroit a oedd wedi mynychu nosweithiau Wigan Casino yn y 70au, cefndir tra gwahanol i lawer yn y sin cerddoriaeth Cymraeg oedd yn dueddol o fod yn ddilynwyr cerddoriaeth roc grwpiau gwyn. Dywedodd Johnny R "Roedd Northern Soul fy nghariad cerddorol cyntaf" mewn erthygl ar y cefnogaeth mawr trwy Ogledd Cymru yn y 1970au ar gyfer Northern Soul ar wefan Link2Wales [4]

Roedd dylanwad Soul yn amlwg ar recordiau cyntaf y label fel A5, Y Pregethwr a Waw Ffactor a oedd â sŵn dawns-techno. Mae cân A5 - Amser y Mis yn samplo record Northern Soul Love Factory gan Eloise Laws.[5][6]

Ymddangosodd Johnny R ar raglen S4C, Fideo 9 yn 1990 mewn stiwdio recordio yn dangos sut i samplo a siarad am gerddoriaeth dawns y cyfnod – un o'r achlysuron prin iddo gael ei gyfweld ar y teledu.[7]

Roedd cynnyrch y label yn dueddol o gynnwys llawer o recordiadau cartref a grwpiau dros dro yn cynnwys sawl prosiect personol Johnny R. Disgrifiodd fel "wedi'u recordio ar y cyfan mewn stiwdios bach rownd Gogledd Cymru a thu hwnt a fy ystafell gefn gyda 'Heath Robinson set up' ym mhentref bach Gwalchmai, ar ddeciau tâp, allweddellau analog, peiriannau samplo o Argos ac wedi'u meistri ar ddeciau caset 4 trac".[1]

Mae rhai o recordiau'r label wedi'u creu gydag argraffu drud ac hyd yn oed feinyl lliw er gwerthaf eu hapêl fasnachol gyfyngedig. Mae rhai o gynnyrch y label arall wedi'u gwneud yn rhad iawn mewn niferodd bach iawn neu hyd yn oed dim ond recordiau demo, er enghraifft LP Mank gan Ben Powell. Dywedodd Ben Powell roedd "wrth ei fodd bod y record wedi'u tynnu'n ôl, ac roedd ond yn CD demo gyrrwyd i Johnny R, wedyn wnes i ffeindio allan roedd y caneuon wedi'u cofrestri gyda'r PRS heb imi wybod a dim yn fy enw!" [8] Mae rhai o gloriau'r label yn unigryw iawn, er enghraifft roedd clawr sengl Pic Nic ar feinyl melyn gyda fforc a chyllell plastig wedi'u gludo i'r clawr.

Ethos R-Bennig

golygu

Ar adeg pan roedd arian ar gael am weithio gyda sefydliadau cyhoeddus Cymraeg neu ymddangos ar gyfryngau Cymraeg roedd artistiad label B-Bennig yn brosiectau di-dâl.

Ar y cyfan mae perfformwyr y recordiau'r label yn dueddol o fod heb fawr o brofiad blaenorol a heb ymgeisio am yrfaoedd perfformio neu heb recordio wedyn. Er enghraifft, cyn ei farwolaeth, roedd John 'Fietnam' Williams yn ddi-gartef ar strydoedd Bangor.[9] Dyweder i Johnny R chwilio'n aml am dalent mewn nosweithiau Karaoke yn ardal Gwalchmai.

Un o'r eithriadau oedd Huw Stephens a oedd yn aelod o Pic Nic. A aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd BBC Radio 1. Bu R-bennig hefyd yn gweithio gyda'r gantores ac actores Rachel Carpenter dan yr enw Waw Ffactor gan ryddhau sawl record pop.

Dywedodd Adam Walton am Johnny R:

"His defunct record label, R-Bennig, was a situationist dismantling and reassembly of any preconceptions you might have about music-making. Generally, if no one else in the vicinity was doing it, then Johnny would give it a go. He fed off and reacted against his contemporaries' relative conservatism". 

Prosiectau Eraill Johnny R

golygu

Mae Johnny R hefyd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o brosiectau eraill yn cynnwys.

Radio D

golygu

Gorsaf radio ar-lein tua 1999-2000 ond ail ymddangosodd yn sydyn yn 2003 cyn diflannu eto [10]

Label Wili Nili

golygu

Credir iddo ryddhau 4 recordiad – yn cyhnwys band 'Mod' o'r Eidal o'r enw 'Smodati' (mae gwefan Link2Wales yn amau roedd y band o Langefni os oeddent yn bod o gwbl) [11]

Pornchurch Records

golygu

A rhyddhawyd The Spectre Of Johnny R (CDr, EP) 2007

Budgie-Blue Baby Pink

golygu

Cwmni ffilm a rhyddhawyd sawl DVD gydag actorion di-brofiad. Yn bannaf yn Saesneg. Y DVDs yn cynnwys:

  • Agent Sharp - gyda Jack Sharp
  • Stori Nian, Diwedd y Boddwr - gyda John Fietnam (trac Sain gan Alan Holmes)
  • Siani Gofod (TV Pilot) (trac Sain gan Alan Holmes)
  • Floral Trilogy
  • The Weather Girl, presenting Beverley Bambrdge
  • Y Stealth Hoover gyda Frances Williams
  • Agent Esperanto gyda Lyndsey Davies

Oriel Parhad

golygu

Oriel Gelf cyfoes a agorwyd tua 2005 mewn adeilad hen siop bach, 33 Ffordd Caergybi, Bangor Uchaf. Yn dangos gwaith gan arlunwyr lleol heb gyfle i arddangos mewn orielau mawrion. Parodd 'Oriel Parhad' am gwpl o flynyddoedd cyn cau.[12] Credir i Johnny R symud i fyw ym Malta wedyn.[angen ffynhonnell])

Aurbennig

golygu

Sianel YouTube a dechreuodd yn Rhagfyr 2017 gyda Johnny R gyda amrywiaeth o fideos yn cynnwys flogiau am gasgliadau o bethau cŵl a ddarganfuwyd mewn siopau ail law, cerddoriaeth/traciau rap newydd, a ffilmiau arbrofol.

Disgyddiaeth

golygu

Mae wefan Discogs yn rhestri dros gant o recordiau a rhyddhawyd ar label R-bennig, heb fanylion os oes recordiau ar gyfer rhifau 101 i 131a yn bodoli.

Caption: Catalog R-Bennig
Rhif Grŵp Teitl Fformat Blwyddyn
00000 Amlgyfrannog Od : Vol 1. (Caset, Albwm) ?
A5 001 A5 & Sara-Mo Hiraeth (Caset, EP) 1989
Heb rif R-Bennig Circuit Bent Copa / Rhemp (CD, Albwm) 2009
Heb rif Glove Box V Tammy Jones Hyfryd (CD, Sengl, Promo) 2001
R-BEN 001 A5 Fflecsi (Fflecsi, EP) 1990
R-BEN002 A5 Greatest Hits (Caset, Albwm) 1990
R-BEN003 A5 Andrea (Caset, EP) 1990
R-BEN004 A5 Gadael (Caset, Sengl) 1990
R-BEN005 A5 Amser Y Mis / Amser Andrea (7", Sengl) 1991
R-BEN006 Johnny R Dyddiadur (Fflecsi, 7", Sengl, Blu) 1991
R-BEN007 A5 Caeltaidd (Cass, Sengl) 1991
R-BEN008 A5 Lycra EP (Caset, EP) 1991
R-BEN009 A5 Doc Martins Eddie Ladd (Caset, Sengl) 1991
R-BEN010 A5 Hoff Papur Wal (Caset, Albwm) 1991
R-BEN011 A5 Marigolds Melyn EP (Cass, EP) 1991
R-BEN012 A5 Genod Bryngwran (Caset, Sengl) 1991
R-BEN013 A5 Gyda A5 (Caset, Sengl) 1991
R-BEN014 A5 Glud (Caset, Sengl) 1991
R-BEN015 A5 Feat. Pyw Dall Gwallgo EP (Cass, EP) 1991
R-BEN016 A5 Can i Cymru 2000 EP (Caset, Sengl) 1991
R-BEN017 Y Pregethwr Hardd Cor (12") 1992
R-BEN018 A5 Echel (Caset, Sengl) 1992
R-BEN019 A5 Ecsentrig EP (Caset, EP) 1992
R-BEN020 Various Egni II (Y Remics) (Cass, Albwm) 1992
R-BEN021 Y Gwarchod Y Gwarchod (Caset, EP) 1992
R-BEN024 Y Pregethwr Hollywood Caerdydd (12", EP) 1993
R-BEN025 A5 Adroddiad Du (12", Sengl) 1993
R-BEN026 Mr "R" & Catrin C.I.A Ysbryd Newydd (Caset, Sengl) 1993
R-BEN027 Y Waw Ffactor Feat Rachel Carpenter Ysgafnach Na Dwr EP (7", EP) 1993
R-BEN028 Y Waw Ffactor Libido LP (Caset, Albwm) 1994
R-BEN029 Y Waw Ffactor Deheuwynt EP (CD, EP) 1994
R-BEN030 Amlgyfrannog Love Spoon Economy Vol 1 (Cass, Albwm) 1995
R-BEN031 Amlgyfrannog Love Spoon Economy Vol 2 (Caset, Albwm) 1995
R-BEN032 Y Pibcorn Aur Trewalchmai EP (Caset, EP) 1994
R-BEN033 Vaffan Coulo Jobs 4 The Boys (Fflecsi, 7", Sengl) 1995
R-BEN034 Y Waw Ffactor Swynedig (CD, Sengl) 1994
R-BEN035 Welsher Paranoia Cefn Gwlad (7", Sengl) 1996
R-BEN036 Amlgyfrannog Egnigdol 1 G (Caset, EP) 1996
R-BEN037 Y Pregethwr & Owain Meredith Annwyl Yehudi (10") 1996
R-BEN038 A5 Marigolds Melyn LP (CD, Albwm) 1997
R-BEN039CD Pic Nic Pic Nic EP (CD, EP) 1997
R-BEN040 Y Waw Ffactor Tymhorau EP (CD, EP) 1997
R-BEN041 Stop Tap Feat DJ Hiraethog Maes Tec EP (12", EP) 1998
R-BEN042 Amlgyfrannog Lectrosis 1 (7", EP) 1998
R-BEN043 Dim Esgus Llifo (7", Sengl) 1998
R-BEN044 Amlgyfrannog Lectrosis 2 (7", EP) 1999
R-BEN045 Crac 4 Cracyr E.P. (7", EP) 1999
R-BEN046 Mona Flying Club Columbian Connection E.P (7", EP) 1999
R-BEN047 Mona Flying Club R-Bennig Mix Tape (Caset) 1999
R-BEN048 Amlgyfrannog Dim 'R' Gael (CD, Albwm) 1999
R-BEN049 Amlgyfrannog Lectrosis 3 (7", EP) 2000
R-BEN050 Amlgyfrannog CD Radio D (CD, Albwm) 2000
R-BEN051 Various R-Bennig Dolig LP (CD, Albwm) 2000
R-BEN053 A5 Cybergoth (CD, Sengl) 2002
R-BEN054 Glovebox Glovebox EP (CD, EP) 2002
R-BEN055 Ethania Pennod Un (CD, Mini Albwm) 2002
R-BEN056 Ethania Woodbines, Vimto, Crips (CD, Albwm) 2002
R-BEN057 Mona Boot Boys R-Bennig Mix CD (CD, Mixed) 2002
R-BEN058 Blue From A Gun Crazy Song (7", Sengl) 2002
R-BEN059 R-Bennig v Najwa Karam Cheto (CD, Sengl) 2002
R-BEN060 MC Lyte Mouse On Mars (CD) 2003
R-BEN061 Okok Society Gwaith Dirgel E.P. (7", EP, Pur) 2003
R-BEN062 Kentucky AFC Bodlon (CD, Sengl) 2003
R-BEN064 Afallon Snog (CD, EP) 2004
R-BEN066 Amlgyfrannog Banquet Ethania (CD, Albwm, Promo) 2004
R-BEN067 Something Personal Diweddglo (CD) 2004
R-BEN068 North Wales Theremin Orchestra Cerddi Cutting Hedge LP (CD, Albwm) 2004
R-BEN070 Elektraz Vortex Left To Fester (CDr) 2005
R-BEN072 Tondu T-EP 1 (CD) 2005
R-BEN073 Richard Searling Cracking Up Through Searling's Spot (CD) 2005
R-BEN074 Slideshow Bores Dayglo Debris Di Ri LP (CD, Albwm) 2005
R-BEN075 Wrightoid A Masque for the Lido LP (CD, Albwm) 2005
R-BEN076 Ethania Wedi Pydru (CD, Albwm) 2005
R-BEN078 Jack Sharp Diet Coke And Golden Virginia LP (CD, EP) 2005
R-BEN079 John Vietnam Ffatri Ffaidd (CD) 2005
R-BEN081 Elektraz Vortex Minimalist Blo Job (CD, Albwm) 2005
R-BEN082 Y Boddwr Adam Walton Session (CD, Albwm) 2005
R-BEN083 Aelwyd Anal Arts Presentation CD (CD) 2005
R-BEN084 Johnny R vs Tatu 30" PornStars (CD) 2005
R-BEN085 Aelwyd Anal Arts Symudaidau Oeraidd (CD) 2005
R-BEN086 Johnny R Ain’t No Warhol in Oriel Mon (CD, Albwm) 2005
R-BEN087 Hefin Wynne Hwiangerddi Satanaidd Cymru (CD) 2005
R-BEN088 Johnny R Barddoniaeth Bloglyd (CD) 2005
R-BEN089 Aelwyd Anal Arts Bodffordd Bullworker (CD) 2005
R-BEN090 Aelwyd Anal Arts Gwag (CD) 2005
R-BEN091 Johnny R vs Jack Sharp Hallelujah (CD) 2005
R-BEN092 Aelwyd Anal Arts Sengl Nadoligaidd R-Bennig 2005 (CD) 2005
R-BEN093 Afallon Mam Ti (CD, EP) 2005
R-BEN094 Y Gwr Wraig (CD, Sengl) 2005
R-BEN095 Aelwyd Anal Arts Pentre Tymblweird (CD) 2005
R-BEN096 R-Bennig Cymunedol Feat. Ceri Gwalchmai All This Time (CD) 2005
R-BEN097 R-Bennig Tyddyn 5 (CD) 2005
R-BEN098 Llanfairfechen Allotment Trashers
Feat. North Wales Theremin Orchestra
Hobnails a Go Go LP (CD, EP) 2005
R-BEN099 Amlgyfrannog / Various Statws – Dim Logo LP (CD, Albwm) 2005
R-BEN100 Aelwyd Anal Arts Y Periant Dim Ateb LP (CD, Albwm) 2005
R-BEN131b Amlgyfrannog O'r Ddaeargell (From The Vaults) Vol. 1 (CD) 2005

[3]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 http://link2wales.co.uk/tag/johnny-r/
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-21. Cyrchwyd 2018-02-06.
  3. 3.0 3.1 https://www.discogs.com/label/193988-R-Bennig
  4. 'http://link2wales.co.uk/2012/crudblog/blog-johnny-r-north-wales-soulies-keep-on-keepin-on/
  5. http://link2wales.co.uk/2012/crudblog/blog-johnny-r-the-a5-theyre-still-out-there-you-know-baby/
  6. When Johnny R's R-Bennig record label, based on Ynys Môn, released pop music, the philosophy was inspired by northern soul. Musical accessibility and deliberate obscurity linked together to foster collectability and myth. http://www.bbc.co.uk/blogs/wales/entries/f3178266-3379-390c-8226-a07ca45e7188
  7. https://www.youtube.com/watch?v=LPZpzCptHTc
  8. R-BEN 052 –“Mank LP” – Ben Powell (Mank) says, 'Love the fact that the “Mank LP” was withdrawn, that was actually a demo CD I sent Johnny, I later found out that the songs had been registered on PRS without my knowledge and not in my name.'http://link2wales.co.uk/labels/r-bennig/ Archifwyd 2018-01-21 yn y Peiriant Wayback
  9. Ffilm fer ar YouTube - Teyrnged i John 'Vietnam' Williams https://www.youtube.com/watch?v=kcO_mTGI69I
  10. Radio D – the revolutionary web radio for the Welsh underground scene, believed to have something to do with Johnny R (of R-bennig). Mysteriously came to an end (Aug00). But resurfaced 5.1.03, & disappeared again soon after, which is typical of Johnny R. http://link2wales.co.uk/north-wales-n-z/north-wales-r/
  11. There was also another off-shoot of this label called Wili Nili that had at least 4 releases, including an album by an Italian mod band called Smodati. However, you never quite trusted Johnny R as it may have been a chomplete wind up, and the band could have been from Llangefni…! http://link2wales.co.uk/labels/r-bennig/ Archifwyd 2018-01-21 yn y Peiriant Wayback
  12. A new gallery in Bangor, Gwynedd, shows the work of new artists or those whose work is not normally seen http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-16632989