A Clash of Kings
Nofel ffantasi gan George R. R. Martin yw A Clash of Kings (Gwrthdaro o Frenhinoedd) a gyhoeddwyd gyntaf ym 1998. Hon yw'r ail nofel yn y gyfres Cân o Iâ a Thân, a disgwylir 7 cyfrol i gyd yn y gyfres. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf ar 16 Tachwedd 1998 yng ngwledydd Prydain ac yna yn yr Unol Daleithiau ym Mawrth 1999.
Clawr caled (UDA); argraffiad cyntaf | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | George R. R. Martin |
Cyhoeddwr | Opus Press |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg America, Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 16 Tachwedd 1998 |
ISBN | ISBN 0-00-224585-X (clawr caled DU), ISBN 0-553-10803-4 (clawr caled UDA), ISBN 0-553-57990-8 (clawr meddal UDA) |
Genre | Ffantasi |
Cyfres | A Song of Ice and Fire |
Rhagflaenwyd gan | A Game of Thrones |
Olynwyd gan | A Storm of Swords |
Gwefan | http://www.georgerrmartin.com/grrm_book/a-clash-of-kings-a-song-of-ice-and-fire-book-two/ |
Fel ei rhagflaenydd Gêm o Dronau, enillodd y nofel Wobr Locus (yn 1999) am y Nofel Orau ac fe'i henwebwyd am Wobr Nebula (hefyd yn 1999). Fe'i dyluniwyd gan John Howe.
Addaswyd y nofel ar gyfer cyfres deledu gan HBO fel ail dymor y gyfres deledu Gêm o Dronau.[1]
'A Clash of Kings' hefyd yw teitl yr estyniad i'r gêm fwrdd 'Game of Thrones'.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "1999 Award Winners & Nominees". Worlds Without End. Cyrchwyd 2009-07-25.