Game of Thrones
Cyfres deledu ffantasi ydy Game of Thrones a grewyd ar gyfer HBO gan David Benioff a D. B. Weiss. Mae'r gyfres deledu'n addasiad o gyfres o nofelau A Song of Ice and Fire gan George R. R. Martin, ac enw'r llyfr cyntaf oedd A Game of Thrones. Cafodd y gyfres deledu ei ffilmio mewn stiwdios yn Belfast a mannau eraill yng Ngogledd Iwerddon, Malta, Croatia, Gwlad yr Iâ, Moroco, Yr Alban, Sbaen a'r Unol Daleithiau. Cafodd ei lansio ar sianel HBO yn yr UDA ar 17 Ebrill 2011 a darlledwyd y bennod olaf un ar 19 Mai 2019, gyda 73 pennod dros wyth cyfres. Yng ngwledydd Prydain mae'n cael ei ddarlledu ar sianel Sky Atlantic.
Yn 2011-3 ystyriwyd y gyfres fel prif ysbrydoliaeth y genre ffantasi ac yn gyfrifol am ei boblogeiddio drwy Ewrop ac UDA.[1] Mae'n cynnwys enwau Cymraeg a lled-Gymraeg, ac i raddau'n debyg i nofelau J. R. R. Tolkien, ac mae ynddo lawer iawn o olygfeydd o bobl noeth, rhyw a llosgach. Roedd Sean Bean yn actio un o'r prif rannau yn y gyfres gyntaf: Lord Eddard "Ned" Stark, pennaeth y teulu Stark a Peter Dinklage yn actio'r corrach Tyrion. Kit Harington sy'n chwarae rhan Jon Snow yn y gyfres, ac mae Emilia Clarke hefyd yn serennu fel Daenerys Targaryen.[2]
Ymddangosodd nifer o actorion Cymreig yn y gyfres. Rhwng 2011–2016 bu Owen Teale yn chwarae'r cymeriad Ser Alliser Thorne a bu Mark Lewis Jones yn chwarae Shagga yn nhair pennod cyntaf y gyfres gyntaf.[3] Chwaraeodd Iwan Rheon[4] rhan y seicopath sadistaidd Ramsay Snow – the Bastard of Bolton mewn 20 pennod rhwng 2013 a 2016.
Cast
golygu-
Emilia Clarke (Daenerys Targaryen)
-
Jason Momoa (Khal Drogo)
-
Peter Dinklage (Tyrion Lannister)
-
Iwan Rheon (Ramsay Snow – the Bastard of Bolton)
-
Charles Dance (Tywin Lannister)
-
Sean Bean (Ned Stark)
-
Kit Harington (Jon Snow)
-
Harry Lloyd (Viserys Targaryen)
Beirniadaeth
golyguMewn adolygiad yn y Times dywedodd Caitlin Moran, "Game of Thrones is one of the most thrilling TV shows ever made."
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, Joel (March 30, 2012). "Mainstream finally believes fantasy fans". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-27. Cyrchwyd April 5, 2012.
- ↑ Hollywood Life; Archifwyd 2013-03-10 yn y Peiriant Wayback Mawrth 7, 2013
- ↑ Golwg; Cyfrol 26, Rhif 41; 26 Mehefin 2014.
- ↑ Golwg Cyfrol 25; Rhif 43; 11 Gorffennaf 2013.