A Dictionary in Englyshe and Welshe
Geiriadur Saesneg–Cymraeg gan William Salesbury yw A Dictionary in Englyshe and Welshe, a gyhoeddwyd yn 1547.[1] Mae'n un o'r llyfrau printiedig cynharaf yn Gymraeg.[2]
Enghraifft o'r canlynol | geiriadur, gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | William Salesbury |
Dyddiad cyhoeddi | 1547 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Disgrifiad
golyguTeitl llawn y llyfr yw A Dictionary in Englyshe and Welshe moche neccessary to all suche Welshemen as will spedly learne the englyshe tongue.... Ar ddechrau'r geiriadur ceir cyfarchiad Saesneg i'r brenin Harri VIII sy'n cael ei ddilyn gan anerchiad yn Gymraeg i'r Cymry a thraethawd i esbonio ansawdd a nodweddion y llythrennau Saesneg. Wedyn ceir y brif adran o eiriau Saesneg gyda chyfystyron Cymraeg.[1]
Bwriad Salesbury
golyguCollfarnwyd Salesbury gan rai am iddo ddweud yn ei anerchiad i Harri VIII ei bod "yn iawn ac yn ddymunol" fod holl ddeiliaid Coron Lloegr yn siarad iaith gyffredin, sef y Saesneg. Ond ni ddywedodd o gwbl - fel rhai eraill - y dylid lladd yr iaith Gymraeg; agwedd Salesbury oedd mai da o beth oedd i'r Cymry gael deall Saesneg ond hynny'n ychwanegol at eu priod iaith eu hunain, sef y Gymraeg. Bu'n ddiwyd yn ei waith o hyrwyddo ac ymgeledd y Gymraeg yn ei oes.[3]