Parth cyhoeddus

lleoliad y gwaith o ran hawlfraint

Pan fo gweithiau sydd a'u hawliau deallusol wedi dod i ben, yn anaddas,[1] neu wedi eu hildio (neu eu 'fforffedu'),[2] gellir dweud eu bod yn y 'parth cyhoeddus.[3]

Parth cyhoeddus
Enghraifft o'r canlynolstatws hawlfraint, cysyniad cyfreithiol Edit this on Wikidata
Mathpethau da, cyhoeddus Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdan hawlfraint Edit this on Wikidata
Yn cynnwysyn anaddas ar gyfer amddiffyn yr hawlfraint Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enghreifftiau golygu

 
Logo Comin Creu: sy'n dynodi'r parth cyhoeddus.

Er enghraifft, oherwydd eu hoedran, mae hawlfraint gweithiau Dafydd ap Gwilym a Shakespeare wedi dod i ben ers blynyddoedd, ac felly yn y parth cyhoeddus.[3] Mae rhai gweithiau eraill nad ydynt yn addas i fod o fewn hawlfraint, er enghraifft fformiwlâu Isaac Newton, rysáit ac unrhyw feddalwedd a grewyd cyn 1974.[4]

Ceir hefyd gorff o weithiau mae eu hawduron (neu berchnogion) wedi ildio eu hawlfraint. Ni ddefnyddir y term 'parth cyhoeddus' pan fo'r gwaith yn cadw 'hawliau dros ben' (neu residual rights) h.y. fe ganiateir defnyddio'r gwaith, ond cedwir yr hawliau gan ei berchennog, gan ei ryddhau "dan drwydded" neu "gyda chaniatâd"; mae Copyleft yn enghraifft o hyn.

Mae deddfau hawlfraint yn gwahaniaethu o wlad i wlad: gall gwaith fod yn y parth cyhoeddus mewn un wlad ond dan amodau hawliau mewn gwlad arall.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. unprotected on bitlaw.com
  2. Graber, Christoph B.; Nenova, Mira B. (2008). Intellectual Property and Traditional Cultural Expressions in a Digital Environment. Edward Elgar Publishing. t. 173. ISBN 978-1-84720-921-4.
  3. 3.0 3.1 Boyle, James (2008). The Public Domain: Enclosing the Commons of the Mind. CSPD. t. 38. ISBN 978-0-300-13740-8.
  4. Lemley, Menell, Merges and Samuelson. Software and Internet Law, t. 34 "computer programs, to the extent that they embody an author's original creation, are proper subject matter of copyright."