A Night to Remember
Llyfr ffeithiol gan Walter Lord yw A Night to Remember a gyhoeddwyd gyntaf ym 1955. Mae'r llyfr yn adrodd hanes suddo'r RMS Titanic ar 15 Ebrill 1912. Wrth ymchwilio, cafodd Lord gyfweliadau â thua 60 o oroeswyr y drychineb.[1] Roedd y llyfr yn boblogaidd iawn, ac mewn print hyd heddiw. Mae'n dal i fod yn adnodd bwysig wrth astudio'r Titanic. Gwnaed ffilm yn seiliedig ar y llyfr, A Night to Remember, a ryddhawyd ym 1958.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Walter Lord |
Cyhoeddwr | Henry Holt and Company |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1955 |
Olynwyd gan | Walter Lord |
Prif bwnc | suddo RMS Titanic |
Pwnc yr erthygl hon yw'r llyfr gan Walter Lord. Am y ffilm o 1958, gweler A Night to Remember (ffilm).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Butler, Daniel Allen (1998). Unsinkable: the full story of the RMS Titanic. Mechanicsburg, PA: Stackpole Books. ISBN 978-0-8117-1814-1, t. 208.