Llong deithio gefnforol yn perthyn i gwmni'r White Star Line oedd yr RMS Titanic. Suddodd y llong 11 mis ar ôl iddi gael ei lansio; roedd ar ei thaith gyntaf ar draws yr Iwerydd. Dechreuodd y fordaith o borthladd Southampton i Efrog Newydd ar 10 Ebrill 1912. Dywedir mai enghraifft o 'falchder dynol yn arwain at drychineb' oedd y trasiedi yma.

RMS Titanic
Enghraifft o'r canlynolfour funnel liner, llongddrylliad Edit this on Wikidata
Daeth i ben15 Ebrill 1912 Edit this on Wikidata
Màs52,310 tunnell Edit this on Wikidata
Label brodorolTitanic Edit this on Wikidata
GwladGogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Dechreuwyd31 Mawrth 1909 Edit this on Wikidata
LleoliadCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
PerchennogWhite Star Line, International Mercantile Marine Company Edit this on Wikidata
Map
GwneuthurwrHarland and Wolff Edit this on Wikidata
Enw brodorolTitanic Edit this on Wikidata
Hyd269.1 metr Edit this on Wikidata
Tunelledd gros46,329 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
RMS Titanic yn gadael Southampton ar 10 Ebrill 1912.

Titanic oedd llong fwyaf y byd ar yr adeg y cafodd ei adeiladu. Hi oedd yr ail llong o'r ddosbarth Olympic allan o dri a adeiladwyd gan Harland ac Wolff yn Belffast ar gyfer y White Star Line.

Teithiodd y llong o Southampton i Cherbourg, Ffrainc, ac yna i Queenstown, yn Iwerddon, cyn cychwyn ar ei daith i America.

Am 11:40pm ar 14 Ebrill 1912 tarodd y Titanic fynydd o rew tua 400 o filltiroedd o Newfoundland. Ar ôl 2 awr a 40 munud, suddodd y llong am 2.20am ar 15 Ebrill. Collodd tua 1,514 o bobl eu bywydau. Achubwyd 705 o bobl yn unig gan nad oedd digon o fadau achub ar gyfer pawb ar fwrdd y Titanic, a nid oedd nifer o'r badau achub yn cael eu llenwi yn llwyr cyn gadael y llong. Roedd gan rai ohonynt 28 o bobl yn unig, allan o 65 lle posib.

Capten y llong oedd Edward J. Smith, a hon oedd ei fordaith olaf cyn ymddeol. Fe fu farw’r person olaf i deithio ar y Titanic, Millvina Dean, yn 98 oed yn 2009. Dim ond deufis oed oedd hi pan suddodd y llong ar y daith yn 1912.

Darganfyddiad

golygu

Cafodd y Titanic ei darganfod ar wely'r môr ar 1 Medi 1985 gan dîm o nofwyr tanfor Americanaidd, o dan arweinyddiaeth Robert Ballard. ar ôl archwiliad manwl gan chwiliedyddion robotig Americanaidd a Ffrengig. Mae nifer o alldeithiau wedi ymweld ag olion y llong. Daeth y darganfyddiad yn ystod cyrch gwahanol, lle'r oedd tim Ballard wedi derbyn cais gan yr Llynges Americanaidd i chwilio am ddwy long tanfor niwclear oedd wedi mynd ar goll, yr U.S.S. Thresher ac yr U.S.S. Scorpion.[1]

Ffilmiau

golygu

Mae nifer o ffilmiau wedi cael eu cynhyrchu am y trychineb hwn, gan gynnwys A Night To Remember (1958), Raise The Titanic! (1980) a Titanic (1997), yn serennu Kate Winslet a Leonardo DiCaprio.

Cyfeiriadau

golygu