A Pocket Guide Series: Cardiff
Cyfeirlyfr a chasgliad o ffotograffau yn yr iaith Saesneg gan John Davies yw A Pocket Guide Series: Cardiff a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 2002. Yn 2014 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Cyfeirlyfr cryno ond cynhwysfawr i hanes a datblygiad Caerdydd o gyfnod y gaer Rufeinig, hyd at flynyddoedd ffyniannus y dociau o ganlyniad i'r twf yn y diwydiant glo a dyddiau presennol y brifddinas fywiog. 14 ffotograff lliw, 25 llun du-a-gwyn, 2 graff ac 13 map a chynllun.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 28 Mehefin, 2013